Browser does not support script.
Darryl Lonsbrough
5 Gorffennaf, 2013 - 20 Medi, 2013
05/07/2013 00:00:00
Yn yr un modd â nifer o bobl o’i flaen, mae’r ffotograffydd Darryl Lonsbrough wedi dychwelyd i ogledd Cymru ar ôl datblygu ei yrfa yn rhywle arall.
Mae’r lluniau lliw mawr hyn yn Along the Line, a dynnwyd ar hyd ardaloedd rheilffordd arfordirol gogledd Cymru,yn dangos lleoliadau cyfarwydd drwy lygaid sy’n adnabod yr ardal ers blynyddoedd maith.
Pan ddychwelodd Darryl gartref i ogledd Cymru yn 2006, roedd yn awyddus i herio’r hyn yr oedd yn ei ystyried fel argraff sefydlog a phoblogaidd o’r ardal, a gaiff ei chynrychioli'n aml drwy dirluniau ffotograffig Parc Cenedlaethol Eryri.
Ei amcan oedd cynnig cipolwg disentiment o’r tirlun arfordirol ble cafodd ei fagu. Ffurfiwyd ei safbwynt ef o’r ardal arfordirol hon gan ei blentyndod, a thrwy’r lluniau hyn, mae Darryl yn anelu at annog trafodaeth am ran o’r byd sydd, yn ei farn ef, yn cael ei chamddehongli.
Mae Along the Line yn dilyn y rheilffordd ar hyd yr arfordir ac yn anelu at herio’r farn boblogaidd am yr ardal, yn ogystal â chynnig safbwynt gwahanol drwy syniadau, cyfansoddiad a dehongliad.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cefnogi Darryl i ddatblygu gwaith newydd ar gyfer Along the Line.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.