Before They Were Fallen

Louis Quail

5 Tachwedd, 2015 - 31 Rhagfyr, 2015

Date(s)
05/11/2015 - 31/12/2015
Cyswllt
Louis Quail
Disgrifiad
cover

Cyfweliadau gan Katy Regan

Ym mis Hydref 2014, o'r diwedd tynnodd milwyr Prydain yn ôl o Afghanistan. Collodd 453 o filwyr eu bywydau yn ystod yr ymgyrch tair-blynedd-ar-ddeg a thros yr amser hwnnw daethom ni, fel cenedl, i arfer ag wynebau’r rhai a fu farw’n fflachio ar ein sgriniau ac yn ein papurau newydd; delweddau o'u eirch yn cael eu cario o awyrennau a thrwy drefi brith o alarwyr. I'r mwyafrif ohonom, bydd yr wynebau hynny bellach wedi pylu o’n hymwybyddiaeth, ond i deuluoedd a chyfeillion y rhai a fu farw, nid oes pylu nac anghofio. 

Mae "Before They Were Fallen" yn ymwneud â chofio. Trwy ffotograffau agos-atoch a thystiolaethau pwerus mae'r prosiect hwn yn anrhydeddu aberth y milwyr, ond hefyd aberth y rhai a adawyd ar ôl i ddelio â'u colled. 

Cysyniad canolog y gwaith yw ail-greu snap teuluol. Mae’r pâr o luniau; y gwreiddiol ("Before They Were Fallen") a'r ail-gread, sy'n dangos gofod lle dylai'r milwr fod, gyda'i gilydd yn herio'r edrychwr i gymharu'r gorffennol â'r presennol a realiti eu habsenoldeb. 

Mae’r agwedd hon at y ddelwedd ochr yn ochr â chyfweliadau sensitif pob cyfranogwr gan y newyddiadurwr a’r awdur Katy Regan, yn cynnig dewis amgen i goffâd traddodiadol, gan gofio milwyr fel unigolion; mab, merch, tad, gŵr, brawd neu gymrawd rhywun.

Gwahoddwyd rhai cyfranogwyr hefyd i enwebu sawl gwrthrych, cyffredin yn aml, a oedd yn arbennig o berthnasol iddynt mewn cysylltiad â’u hanwyliaid ‘coll’ a thrwy ddefnyddio ffotograffiaeth fformat mawr mae Quail wedi datgelu’r eitemau o’r newydd gan dynnu sylw at eu harwyddocâd hynod rŵan fel arteffactau.

Dangoswyd "Before They Were Fallen" am y tro cyntaf yn Oriel Four Corners, Llundain, rhwng dydd Llun 14 a dydd Sadwrn 26 Medi. Yn parhau i Oriel Colwyn, Gogledd Cymru, 5 Tachwedd i 5 Rhagfyr 2015 (gyda agoriad arbennig wedi'i drefnu ar gyfer Diwrnod y Cofio) ac yna ymlaen i Oriel FOTOSPACE, Fife, Yr Alban, 18 Ionawr - Dydd Sadwrn 27 Chwefror, 2016

Louis Quail

Ffotograffydd golygyddol a masnachol llwyddiannus am flynyddoedd lawer, yn gweithio i rai o frandiau mwyaf adnabyddus y Deyrnas Unedig: e.e. The Sunday Times; Telegraph Magazine; Marie Claire ac ati, yn ddiweddar mae Louis wedi troi ei ffocws tuag at arddangos ei waith. Mae ei lwyddiannau diweddar, megis cael ei ddewis ar gyfer Gwobr y Dadeni; sawl gŵyl ac oriel fawreddog yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys ‘Open’ yn Oriel Open Eye Lerpwl Mai 2015) a derbyn cyllid gan Gyngor y Celfyddydau ar gyfer y prosiect ‘Before They Were Fallen’ yn adlewyrchu’r rhagolygon newydd hyn.  Mae wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr portreadau’r Oriel Bortreadau Genedlaethol ddwywaith ac fe’i cedwir yn eu casgliad parhaol. Mae'n darlithio yn y Met Llundain ac fe'i cynrychiolir gan Picture Tank.  Ei wefan yw www.louisquail.com -  a dilynwch Louis ar Twitter @louisquail

Katy Regan

Newyddiadurwr a nofelydd yw Katy Regan. Ar ôl gweithio fel Awdur Ysgrifau a Golygydd Comisiynu i Marie Claire am bum mlynedd, gadawodd i fynd ar ei liwt ei hun ac mae’n gyfrannwr cyson i lawer o gylchgronau a phapurau newydd cenedlaethol gan gynnwys Psychologies, The Times, Good Housekeeping, cylchgrawn Stella, Red a Marie Claire. Mae hi hefyd yn awdur pedair nofel a gyhoeddwyd gan Harper Collins; y diweddaraf yw The Story of You. Ei gwefan yw www.katyregan.com - dilynwch Katy ar Twitter @katyreganwrites

Crëwyd yr arddangosfa trwy nawdd hael Cyngor Celfyddydau Lloegr.

Derbyniodd Quail a Regan gefnogaeth gan nifer o elusennau trwy gydol eu hymchwil ar gyfer y prosiect hwn. Ewch i'w gwefannau i ddarganfod mwy neu i gyfrannu:

www.soldierscharity.org

www.helpforheroes.org.uk

www.scottyslittlesoldiers.co.uk

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp