Browser does not support script.
Dave Brown
1 Medi, 2012 - 2 Hydref, 2012
01/09/2012 00:00:00
Mae The Mighty Boosh yn rhaglen gomedi Brydeinig sydd wedi ennill gwobrau. Crëwyd y rhaglen gan y comediwyr Noel Fielding a Julian Barratt. Roedd hefyd yn cynnwys y canlynol fel aelodau rheolaidd o’r cast, Rich Fulcher, Michael Fielding a Dave Brown.
Wedi’i ddatblygu o 3 sioe lwyfan a berfformiwyd yn yr Ŵyl Gomedi yng Nghaeredin a Melbourne, ers hynny mae The Boosh wedi cynhyrchu cyfres radio 6 pennod, 3 cyfres deledu (cyfanswm o 20 pennod) ar gyfer y BBC, sydd wedi’u darlledu ledled y byd a 2 daith fyw yn y DU lle gwerthwyd pob tocyn, ynghyd â pherfformio sioeau byw yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia.
Mae Dave Brown wedi bod yn rhan o The Mighty Boosh o’r cychwyn cyntaf ar ddiwedd y 90au. Dros y blynyddoedd, mae wedi cyfranogi at sawl agwedd o’r sioe o ddylunio’r DVDs, llyfrau a deunyddiau i goreograffi, cerddoriaeth a chwarae rhan nifer o gymeriadau yn y sioe ei hun, yn enwedig y Gorila enwog, Bollo.
Mae Dave hefyd wedi bod â chamera yn ei law ers diwrnod cyntaf y sioe. Mae’r ffotograffau hyn o’i gyd actorion a ffrindiau da yn dangos cyfnod o 12 mlynedd. Ffotograffau o’r gigs byw cynnar, ffilmio’r cyfresi teledu a thu ôl i’r llen ar daith. Maent yn darparu mewnwelediad unigryw i fywydau a chymeriadau The Mighty Boosh.
Mae Dave ar ei ben ei hun yn ei ddogfennaeth ffotograffig o’r sioe. Mae wedi lleihau ei archif helaeth i 46 o’i ffefrynnau personol, ac mae nifer ohonynt yn cael eu dangos am y tro cyntaf, ar daith fel arddangosfa.
Mae printiau cyfyngedig wedi’u llofnodi o’r sioe ar gael drwy anfon e-bost at dave@apeinc.co.uk
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.