Black Country Dada

Brian Griffin

1 Hydref, 2021 - 29 Ionawr, 2022

Date(s)
01/10/2021 - 29/01/2022
Cyswllt
Brian Griffin
Disgrifiad
1

Arddangosfa mewn DWY ran arbennig.

RHAN 1: 1 Hydref- 27 Tachwedd 2021 

RHAN 2: 6 Rhagfyr 2021 - 29 Ionawr 2022 


Brian Griffin yw un o ffotograffwyr portread mwyaf dylanwadol Prydain. Fe gafodd gydnabyddiaeth gynnar yn yr 1970au a’r 1980au, gan ddyfeisio dull ffotograffig newydd a elwir yn Realaeth Gyfalafol. Gan dynnu lluniau o wahanol weithwyr cymdeithas, mae ei ffotograffau yn trawsnewid gweithleoedd i gamau a’i wrthrychau i actorion. 

2
©B.Griffin 

Gan gyd-fynd â sgwrs ddiweddar Brian yn The Northern Eye Festival, mae’r arddangosfa’n cyflwyno arolwg hunangofiannol o’r gwaith sy’n rhannu sut beth yw goroesi fel ffotograffydd ar ddechrau ei yrfa. Yn yr arddangosfa, rydym yn gweld yr artist yn adrodd yr hanes drwy ei brofiad personol o’r adegau anodd hynny.

‘Dyna oedd dyddiau analog! Gyda magwraeth ymysg ffatrïoedd yn yr Ardal Ddu, yn astudio ffotograffiaeth ym Manceinion gyda fy ffrindiau Daniel Meadows a Martin Parr, ac yna’r anesmwythder o fynd i Lundain i wneud bywoliaeth fel ffotograffydd ar ddechrau’r 1970au. Mewn atgof poblogaidd, mae’r 1970au wedi cael eu harddangos fel cyfnod tywyll; cyfnod tywyllaf Prydain ers yr ail ryfel byd, rhwng ‘swinging sixties’ Harold Wilson ac wythdegau rhwygol Margaret Thatcher. Sut beth oedd bod yn ffotograffydd ifanc bryd hynny? Erbyn diwedd yr 1980au roedd fy ffotograffiaeth yn adnabyddus dros y byd. Sut wnes i hyn? Beth wnes i brofi? Mae hyn i gyd yn yr arddangosfa hon ac fy nghyhoeddiad diweddaraf lle rydw i’n rhannu bob rhan o’m stori.’

- Brian Griffin 2021.

Wedi’i eni ym Mirmingham, dechreuodd Griffin ei yrfa yn y maes peirianneg yn 16 oed, cyn cofrestru i astudio ffotograffiaeth yng Ngholeg Manceinion Polytechnic yn 21 oed. Roedd ei sioe unigol gyntaf yn Llundain yn 1981, gyda sioeau yn Ewrop, Asia a’r UDA i ddilyn. Mae Griffin wedi cyhoeddi ugain o lyfrau, ac yn 1991, dyfarnwyd y wobr ‘Llyfr Ffotograffiaeth Gorau yn y Byd’ iddo yn Barcelona Primavera Fotografica. 

3
©B.Griffin

Mae Brian wedi gweithio gydag ystod o gleientiaid yn y diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys Depeche Mode, REM, Elvis Costello, Iggy Pop, Ringo Starr, Peter Gabriel a Brian May; a gellir gweld ei waith ar nifer o gloriau albymau o’r cyfnod hwn.

Mae’n enwog am ei ddull arloesol o dynnu portreadau o Iggy Pop i Kate Bush a nifer o brosiectau proffil uchel yn ymestyn o ‘Gwaith’ yn yr 1980au, i’w brosiect ‘The Road to 2012’, a gomisiynwyd gan y National Portrait Gallery. Cafodd ‘Work’ ei ddyfarnu fel llyfr ffotograffiaeth gorau’r byd yn Barcelona Primavera Fotografica 1991 a chylchgrawn Life a ddefnyddiodd y llun “A Broken Frame” ar ei glawr o’r cylchgrawn atodol “The Greatest Photographs Of The 80's". 

4
©B.Griffin 

Mae lluniau Brian Griffin yn cael eu harddangos yng nghasgliad parhaol sefydliadau celf o bwys, gan gynnwys yr Arts Council, British Council, Amgueddfa Victoria ac Albert Museum a’r National Portrait Gallery, Llundain.

www.briangriffin.co.uk

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp