Ym mis Tachwedd 2020, gan symud o’u lleoliad yn jwngl Awstralia, fel ffilmiodd ITV y gyfres deledu ‘I’m a Celebrity’ yng Nghastell Gwrych.
Fe arddangosodd y newid hwn mewn lleoliad i’r castell a’r tir yn Abergele, y dref yng Ngogledd Cymru i gynulleidfa deledu a’r wasg eang.
I ddathlu brwdfrydedd y dref, cyfunodd curadur Oriel Colwyn, Paul Sampson gyda’r ffotograffydd Niall McDiarmid i chwilio am, ac amlygu busnesau lleol, pobl a phersonoliaethau ‘y Dref o Enwogion’. Fe dynnon ni luniau dros 120 o bobl, ac mae’r set gyntaf o bortreadau yn cael eu harddangos yn falch ar Bromenâd Pensarn.
Gydag ‘I’m a Celebrity’ yn dychwelyd yn 2021, fe achubon ni ar y cyfle i ychwanegu i’r portreadau a thynnu llun 47 o bobl ychwanegol. Cafodd llawer o’r bobl yma, sydd bellach ar ddangos ar fyrddau Slaters, eu dewis ar ôl yr alwad y llynedd i enwebu pobl eraill.
Dim ond crafu wyneb y dref y mae’r gyfres hon o bortreadau ffotograffig. Mae’n dangos, os ydym ni’n edrych, mae rhywun enwog ynom ni i gyd.

Martin, Swyddfa’r Post, Abergele, Gogledd Cymru - Tachwedd 2020-Celebrity Town

Arddangosfa Awyr Agored
Lloches Promenâd Pensarn, Abergele
Mae arddangosfa awyr agored o bortreadau ffotograffig ar raddfa fawr nawr wedi eu gosod yn y tair lloches ar Bromenâd Pensarn, ac ar y byrddau glas sy’n amgylchynu adeilad hen ystafell arddangos ceir Slaters.

Gweinidog Kate, Abergele, Gogledd Cymru - Tachwedd 2020 - Celebrity Town

Gweithwyr Tesco, Abergele, Gogledd Cymru- Tachwedd 2020 - ©Niall McDiarmid

Michelle, Nant-y-Corn Kennels, Abergele, Gogledd Cymru - Tachwedd 2020 - ©Niall McDiarmid
http://www.celebritytown.co.uk
