An Independent Eye

Colin McPherson

26 Mawrth, 2017 - 31 Mai, 2017

Date(s)
26/03/2017 - 31/05/2017
Cyswllt
Colin McPherson
Disgrifiad
Colin-OC-Web-4

Image ©Colin McPherson

Sefydlwyd The Independent, papur newydd Prydeinig, ym 1986 fel papur newydd boreol cenedlaethol annibynnol a gyhoeddwyd yn Llundain. Cafodd lysenw the Indy, a dechreuodd fel papur newydd dalen lydan, ond newidiodd i fformat tabloid yn 2003.

Ym mis Mehefin 2015, roedd cylchrediad dyddiol y papur ar gyfartaledd ychydig yn is na 58,000, sef 85 y cant yn is na’i anterth ym 1990, ac roedd cylchrediad rhifyn dydd Sul ychydig yn uwch na 97,000.

Ar 12 Chwefror 2016, cyhoeddwyd y byddai The Independent a The Independent on Sunday yn cael eu cyhoeddi’n ddigidol yn unig. Cyhoeddwyd rhifyn print diwethaf The Independent on Sunday ar 20 Mawrth 2016, a rhifyn print diwethaf y prif bapur y dydd Sadwrn canlynol, 26 Mawrth.

Roedd gan rifyn print teitlau The Independent enw da am ddefnyddio ffotograffiaeth, ac am ansawdd a chynnwys.

colin1
Rhannau o Bapur Newydd The Independent

Rhwng 1995 a 2016, bu Colin McPherson yn gweithio fel ffotograffydd llawrydd i The Independent a The Independent on Sunday. Mae ‘An Independent Eye’ yn arddangosfa o ddelweddau a dynnwyd gan Colin a gafodd eu comisiynu gan y teitlau hyn, neu eu cyhoeddi ynddynt. Maen nhw’n ffurfio rhan o archif helaeth o ffotograffiaeth Colin o gyfnod o fwy na dau ddegawd o weithio gartref a thramor.

Bu Colin yn gweithio yn yr Alban tan 2003 ac mae’n bartner sefydlu Document Scotland. Mae Colin yn gweithio ar draws y DU bellach ond yn seiliedig yng Ngogledd Orllewin Lloegr, ac mae’n gweld bod llawer o’i waith yn mynd ag ef yn ôl i’r gogledd o’r ffin yn aml. 

Mae ei waith i’w weld yn aml yn y wasg a’r cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol. (Mae gwefan Colin ei hun i’w gweld YMA)


colin2

Mae llyfr Argraffiad Cyfyngedig ‘An Independent Eye' yn cyd-fynd â’r arddangosfa ac mae modd ei brynu.



Mae ‘An Independent Eye' yn agor gyda rhagarddangosfa arbennig ddydd Sul 26 Mawrth (blwyddyn ers cyhoeddi rhifyn print diwethaf The Independent) rhwng 2pm a 4pm ac mae’n parhau tan 31 Mai.

Mae arddangos printiadau ochr yn ochr â’r darnau gwreiddiol o’r papur newydd yn rhoi cyd-destun ac amserlen unigryw i’r delweddau.

 

Mae ‘An Independent Eye' yn arddangosfa newydd ac mae wedi’i chreu mewn partneriaeth rhwng Oriel Colwyn: Oriel Ffotograffiaeth Gogledd Cymru a Street Level Photoworks, Glasgow, a bydd yn cael ei arddangos yn un o’i leoliadau hefyd.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp