Sut mae’r amgylchedd yr ydym yn ei siapio yn ein hadlewyrchu ac effeithio arnom? Sut ydym yn gweld, teimlo a dangos lleoedd? Sut ydym yn eu gwneud yn ystyrlon i ni?
Yn ei ymarfer, mae Rolf yn dechrau gydag elfennau bob dydd yr amgylchedd a phriodweddau ei ddeunyddiau i archwilio syniadau gweledol creadigol.
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gysylltiad personol Rolf â phromenadau, morgloddiau a’u harwynebau artiffisial yng Nghymru fel rhan o’n tirwedd ddiwylliannol.

“Mae glan y môr bellach yn bwysig i mi fel lle i ymlacio a synfyfyrio, ond nid yw’n rhan o fy atgofion o blentyndod a glaslencyndod. Tyfais mewn gwlad wedi’i hamgylchynu gan dir ac roedd gwyliau glan y môr yn rhywbeth dieithr i mi. Heb gysylltiad bywgraffiadol nac unrhyw hiraeth, rwy’n edrych, archwilio a phrofi lleoliadau glan y môr yn wahanol ac yn feirniadol, gan arwain at ffotograffiaeth unigryw o lan y môr.”
Yn y prosiect ffilm analog hwn roedd Rolf eisiau argraffnodi ffotograffau gyda naws y golygfeydd a’r amgylcheddau y maent yn eu cyfleu, gan nodi’r delweddau gyda gweadau’r arwynebau artiffisial a ddangosir.

Gan ddefnyddio natur ffisegol ffilm ffotograffig, dychwelodd i’r lleoedd y bu’n tynnu’r ffotograffau a chrafu’r negatifau ar y wynebau a ddangosir yn y delweddau. Yn y broses hon o greu delwedd - a gwneud marciau, mae'r negatif ffilm - sy’n cael ei ystyried yn ganolraddol yn aml a’i anwybyddu fel rhan mynegeiol o greu ffotograffau - yn dod yn elfen allweddol.
Mae'r crafiadau, a wneir fel ystumiau digymell, yn cael eu gyrru gan yr isymwybod fel grym creadigol, gan adlewyrchu neu gyferbynnu'r llinellau, y ffurfiau a'r siapiau a geir yn y lleoliad. Maent yn ychwanegu olion newydd ar y ffilm y tu hwnt i’r rheiny a wneir gan y golau. Mae marciau’r byd allanol - y peth a ffotograffir - ac argraffiad o fy myd mewnol wrth wneud y gwaith, yn cyfuno i greu un ddelwedd.
Mae'r broses hon yn wynebu cadernid gofod, yn ei ail-ddychmygu, ac yn ymyriad nid yn yr amgylchedd ei hun ond yn ei gynrychiolaeth. Mae’n cyfryngu fy nghysylltiad â’r amgylchedd gwneuthuredig, ei gydrannau a’i ddeunyddiau, ac yn dadorchuddio egni emosiynol.

“Mae’r weithred o grafu negatifau’r ffilm, gan achosi dinistr er mwyn creu, yn siapio fy mherthynas â’r gwaith celf: mae’n gofyn am ollwng gafael, cymryd risgiau, derbyn colli’r delweddau, a chofleidio siawns gyda chanlyniadau anrhagweladwy.”
Mae’r dull a ddefnyddir i grafu’r ffilmiau yn gwneud difrod ychwanegol fel tyllau a rhwygau i’r negatifau sy’n cael eu cadw yn y delweddau terfynol i amlygu bod y ffotograffau yn eu hanfod yn gynrychioliadau, brasamcanion, a lluniadau meddyliol.
Yn y pen draw, y gwylwyr sy'n dehongli'r delweddau, sy'n ofodau iddynt daflunio eu hemosiynau a'u hystyron eu hunain. Fel y dywedodd Susan Sontag: “Photographs… are inexhaustible invitations to deduction, speculation, and fantasy”.