Creating The NME Years

Chalkie Davies

14 Medi, 2015 - 31 Hydref, 2015

Date(s)
14/09/2015 - 31/10/2015
Cyswllt
Chalkie Davies
Disgrifiad
cover

Ymunodd Chalkie Davies â’r Rock And Roll Circus yn 1973 ar ôl tynnu lluniau o noson olaf David Bowie fel Ziggy Stardust yn yr Hammersmith Odeon. Gweithiodd fel ffotograffydd staff yn yr NME o 1975 tan 1979, gan dynnu lluniau ar gyfer cloriau The Clash, The Ramones a The Sex Pistols. Yn 1980 helpodd i lansio cylchgrawn The Face. Rhwng 1977 ac 1985 bu hefyd yn tynnu lluniau ar gyfer cloriau recordiadau Thin Lizzy, The Specials, The Pretenders, Pete Townshend a David Bowie.

Bu iddo hefyd wneud cyfres o bortreadau ffurfiol o lawer o gerddorion gorau’r cyfnod. Erbyn canol yr 80au teimlodd Chalkie yr angen i newid ei ffocws ac aeth i’r Unol Daleithiau i ganlyn gyrfa newydd fel ffotograffydd bywyd llonydd.

Cyn gadael y DU rhoddodd Chalkie ei holl waith ar gyfer yr NME a The Face mewn daeargell, gan benderfynu eu gadael heb eu gweld am 30 o flynyddoedd, gan feddwl pa mor ddiwylliannol berthnasol fyddan nhw pan fydd yn penderfynu ailasesu ei waith.

Yn gynharach eleni, cafodd y lluniau hyn a detholiad mawr o’i waith gorau ar gyfer yr NME eu harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd (9 Mai - 6 Medi 2015).
Teithiodd lawer o bobl i weld yr arddangosfa yng Nghaerdydd a rŵan mae Oriel Colwyn, ar y cyd â Chalkie, yn falch o gyflwyno rhywfaint o’i waith i gynulleidfaoedd y gogledd.

Mae Chalkie wedi ceisio ail-greu’r sioe wreiddiol, yn cynnwys y delweddau eiconig mawr a rhai o’r deunyddiau amlgyfrwng a baratowyd yn arbennig. Mae’r sioe hefyd yn cynnwys deg llun nad oedd yn gallu ffitio i mewn i’r Amgueddfa Genedlaethol, a rhai lluniau cefn llwyfan yn ystod paratoi’r arddangosfa wreiddiol.

1

2

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp