Mae obsesiwn pobl Prydain gyda glan y môr yn parhau yn nhrefi cymoedd De Cymru. Boed yn Ynys y Bari neu Benidorm, i bobl gyffredin Cymru mae dyhead mawr am ddiwrnod allan gwych ac mae noson o ddawnsio yn ffordd dda o helpu rhywun i ymdopi â slafio mewn bywyd bob dydd. Mae diwrnod i’r brenin (neu 6 neu 7) ar y traeth gyda’ch teulu’n ddihangfa i’w chroesawu. Mae gwneud hynny gyda’ch ffrindiau a chyfle i wisgo’ch dillad gorau yn ychwanegu at yr hwyl.
Dayz Out in Porthcawl - ©Ron McCormick
Mae Ron McCormick wedi bod yn tynnu lluniau o lan y môr ym Mhrydain yma ac acw ers bron i hanner can mlynedd ac fe ddangosodd rywfaint o’r gwaith hwnnw gyntaf ym 1973 mewn sioe dau berson (gyda Josef Koudelka) am dref glan môr Southend on Sea yn Essex.
Dayz Out in Porthcawl - ©Ron McCormick
Mae’r sioe fechan hon, Work in Progress , yn dychwelyd at y thema gyda detholiad o luniau a dynnwyd ym Mhorthcawl dros y tair blynedd ddiwethaf ac mae’n edrych ar themâu “ noson allan i’r merched ”, “ cwlt Elvis ” a “ diwrnod i’r teulu ar lan y môr ” gyda blas o ddathlu llawn mwyniant sy’n adlewyrchu pleserau a gormodiaeth Blackpool, Brighton a Bognor.
Dayz Out in Porthcawl - Ron McCormick
Dangoswyd “Dayz Out in Porthcawl” yn wreiddiol fel rhan o Ŵyl The Northern Eye a gyda chytundeb caredig Ron, bydd yn aros ym mynedfa Oriel Colwyn tan ddiwedd mis Rhagfyr.
Ron McCormick
Mae McCormick yn adnabyddus am ei ffotograffiaeth ddogfennol gymdeithasol o Whitechapel yn y 1970au ac am ei agwedd feirniadol tuag at y dirwedd drefol fel y gwelir yn ei waith The Wasteland . Ar hyn o bryd, mae ganddo arddangosfa unigol fawr am newid yn nhirlun cymoedd y De ar ôl dirywiad y diwydiannau glo a dur; mae HOW GREEN WAS MY VALLEY yn Amgueddfa ac Oriel Casnewydd tan 14 Mawrth 2020.
Hyfforddodd Ron McCormick fel artist yn Ysgol Gelf Lerpwl ac Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain cyn symud at ffotograffiaeth. Chwaraeodd ran arwyddocaol yn y gwaith o ffurfio a datblygu orielau ffotograffiaeth ar draws y DU yn y 1970au – gan gynnwys Oriel Half Moon yn Llundain, Side Gallery yn Newcastle upon Tyne a’r Ffotogallery gwreiddiol yng Nghaerdydd.
Bu Ron yn addysgu ar gwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol Casnewydd ochr yn ochr â David Hurn a sefydlodd gyhoeddiad ‘The Newport Survey’ y bu myfyrwyr yn gweithio arno fel rhan o’u hastudiaethau – a gynhyrchwyd dros ddegawd yn yr 1980au. Roedd yn un o’r ffotograffwyr cyntaf i gael ei gomisiynu gan Ffotogallery i gynhyrchu gwaith ar gyfer prosiect uchel ei barch o’r enw ‘Valleys Project’ yn yr 1980au ac mae ei waith dogfennol am y newid yn y tirlun a chymunedau yng nghymoedd de Cymru wrth i byllau glo ddiflannu o’r rhanbarth yn cael eu hystyried yn rhai o’r gorau i gael eu cynhyrchu.
HOW GREEN WAS MY VALLEY yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd