Browser does not support script.
Paul Sampson
1 Rhagfyr, 2014 - 31 Rhagfyr, 2014
Arddangosfa unigryw o luniau wedi’u seilio ar y theatr a dynnwyd yn ystod Cam 1 Prosiect Document Conwy.
Yn ystod 2014, fe gydweithiodd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar brosiect i ddogfennu ar ffurf lluniau, y celfyddydau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig yn bennaf â’i brif theatrau a chanolfannau adloniant.
Gyda mynediad digyffelyb gefn llwyfan ac o dan arweiniad unigryw curadur ein horiel, ffotograffydd a’r dogfennwr Paul Sampson, crëwyd ‘Document Conwy’ i ddathlu ac arddangos ei waith i gynulleidfa fyd-eang.
Tra bod lluniau yn aml yn cael eu tynnu o sioeau, cyngherddau a digwyddiadau o safbwynt y gynulleidfa, mae Paul yn gosod ei hun o fewn fframwaith y sioeau sy’n ymweld ac mae’n dogfennu bywyd y criw, cast a pherfformiadau.
Mae detholiad o waith parhaus i’w weld ar y wefan benodol www.documentconwy.co.uk. Mae Paul yn angerddol am ei waith ac mae o’n benderfynol y dylai fod â ffurf corfforol, felly er mwyn arddangos y gwaith yma ymhellach, mae arddangosfa o luniau wedi cael ei chynhyrchu i’w harddangos yn Oriel Conwy yn ystod mis Rhagfyr 2014.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.