Mae Eradication yn cofnodi llinell segur Rheilffordd y Great Western (GWR) rhwng y Bala a Blaenau Ffestiniog yn Eryri, gogledd Cymru.
Fe adeiladwyd y rheilffordd i geisio cyfalafu ar y diwydiant llechi o gwmpas Blaenau Ffestiniog yn y 1870au wrth wasanaethu ardal hynod o ynysig. Fe agorodd hyn ddrws ar fyd newydd a phell i’r cymunedau gwasgaredig oherwydd dim ond ffordd sengl y B4391 oedd yn gwasanaethu’r ardal, nes i ffordd yr A4212 agor ar ddechrau’r 1960au. Cymerodd y llwybr 25 milltir 10 mlynedd i’w adeiladu ac roedd yn cynnwys 16 stop a oedd yn gyfuniad o orsafoedd ac arosfeydd. Ar frig y llinell, y brif nodwedd oedd traphont fawreddog naw bwa Cwm Prysor, wedi’i lleoli 1,278 troedfedd (390 metr) uwchben lefel y môr.

Eradication 52.932437, -3.819561 ©Jamie George Stevens
Ym 1955, cyflwynodd Corfforaeth Lerpwl gynlluniau i adeiladu cronfa ddŵr yn y dyffryn uwchben y Bala i gyflenwi dŵr i boblogaeth gynyddol Lerpwl. Roedd rhai o’r slymiau gwaethaf ym Mhrydain yn y ddinas ar ôl y rhyfel, ac roeddent yn dadlau am ragor o ddŵr er mwyn gwella glanweithdra. Nid dyma’r tro cyntaf iddynt droi at Gymru am ddŵr, oherwydd wythdeg mlynedd ynghynt, boddwyd pentref Llanwddyn ganddynt i greu Cronfa Ddŵr Llyn Efyrnwy, dim ond 18 milltir i ffwrdd. Roedd preswylwyr wedi’u syfrdanu o glywed y gallai eu dyffryn lle’r oedd y Gymraeg yn ffynnu gael ei foddi.
Trwy gael awdurdod trwy Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig ym 1957, llwyddodd Cyngor Dinas Lerpwl i osgoi gorfod cael cydsyniad gan awdurdodau cynllunio Cymru, ac ym 1965, ar ôl ymgyrchu caled ac ymdrechion i atal gwaith adeiladu, gyda nifer o achosion o danseilio, cafodd Tryweryn ei foddi. Collwyd swyddfa post, ysgol, capel a mynwent y pentref. Roedd deuddeg o dai a ffermydd o dan ddŵr hefyd, a chollodd 48 o’r 67 o bobl a oedd yn byw yn y dyffryn eu cartrefi. Arweiniodd hyn at lifogydd ar fwy na milltir o’r llinell rheilffordd hefyd, ynghyd â rhannau o’r B4391.

Eradication 52.956765, -3.715992 ©Jamie George Stevens
Er bod y pwerau a roddwyd dan y ddeddf yn caniatáu ar gyfer gwyro’r rheilffordd, penderfynodd Comisiwn Trafnidiaeth Prydain na fyddai lefel y traffig yn cyfiawnhau gwario’r £1,000,000 fyddai ei angen er mwyn gwyro’r llinell rheilffordd. Er mwyn caniatáu i’r gwaith newydd barhau, daeth gwasanaethau teithwyr i ben ym mis Ionawr 1960 a’r gwasanaethau nwyddau flwyddyn yn ddiweddarach. Brwydrodd pobl leol yn galed i achub y rheilffordd oherwydd dyma’r unig ddull trafnidiaeth i’r gymuned leol. Hyd yn oed hyd heddiw, mae dicter tuag at foddi’r dyffryn a chael gwared ar y pentref, sef un o’r cymunedau uniaith Gymraeg olaf.
Caiff ei adnabod fel un o’r prosiectau adeiladu mwyaf dadleuol yn hanes y Gymru fodern.

Eradication 52.929066, -3.798412 ©Jamie George Stevens
Mae ‘Eradication’ yn cofnodi’r rhan fwyaf anghysbell o’r llinell rheilffordd segur, trwy ffotograffau o wely’r trac, y mae natur wedi’i adennill ers iddo gau, a hefyd trwy amlygu’r amgylchedd a thystiolaeth o ddefnydd presennol y tir. Mae’r ffotograffau yn ymddangos yn eu trefn o arhosfa Bryncelynog, tua’r dwyrain trwy nifer o arosfeydd a gorsafoedd tuag at hen leoliad arosfa Pont Tyddyn, tua naw milltir a hanner ymhellach ymlaen.
Jamie George Stevens
Mae Jamie yn seiliedig yn Llanrug. Trwy ddefnyddio camerâu untro a gwybodaeth ei dad am ffotograffiaeth, cafodd gyfle i ddechrau arbrofi â’r cyfrwng o oedran cynnar, ond ei brif lwybr i mewn i fyd ffotograffiaeth oedd cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a chael ei fagu ger Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd bryd Jamie ar yrfa ym maes addysgu chwaraeon ar ôl cystadlu ar lefelau rhyngwladol trwy gydol ei blentyndod, ond ar ôl cwblhau ei Lefel A yn 2012, penderfynodd newid cyfeiriad a dilyn gyrfa ym maes ffotograffiaeth.
Yn 2014, penderfynodd Jamie astudio Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo Menai, Llandrillo-yn-Rhos. Ar ôl graddio â Gradd Sylfaen Dosbarth Cyntaf ym mis Gorffennaf 2016, symudodd Jamie i Lundain i barhau â’i astudiaethau er mwyn ennill Gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn Ffotograffiaeth o Brifysgol South Bank Llundain, lle mae wedi ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn ddiweddar.
Mae treulio’r blynyddoedd diwethaf yn Llundain wedi caniatáu i Jamie ddatblygu amrywiaeth o ddarnau o waith am ei leoliad cartref, trwy ddefnyddio diwydiannu a thirweddau fel pynciau, a thynnu ar eu hanes.
Ar ôl nifer o arddangosfeydd grŵp llwyddiannus, yn lleol ac yn Llundain, dyma arddangosfa unigol gyntaf Jamie.
www.jamiegeorgestevens.com