Browser does not support script.
Amrywiol
14 Ebrill, 2015 - 20 Ebrill, 2015
Gan ymestyn ein cefnogaeth i addysg barhaus ffotograffiaeth, mae Oriel Colwyn yn falch o gyflwyno unwaith eto eleni, yr ail o dair sioe blwyddyn olaf y cwrs gradd gan fyfyrwyr ffotograffiaeth Coleg Llandrillo.
Bydd pob arddangosfa fer yn arddangos ffotograffwyr presennol sy’n dod i’r amlwg.
Mae’r ail arddangosfa yn cynnwys gwaith:
Mae Tesni McCall yn fyfyriwr blwyddyn olaf sy’n astudio Gradd Sylfaen mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo. Mae hi’n arbenigo mewn ffotograffiaeth o dan y dŵr a phortreadau. Mae’r portreadau yn ddelweddau o reslwyr cyn ac ar ôl eu gornestau. Mae ei darn diweddaraf o waith yn gyfres o ddelweddau o dan y dŵr, gan wireddu un o freuddwydion ei phlentyndod, sef bod yn fôr-forwyn.
Mae Nia Lauren Jones yn fyfyriwr blwyddyn olaf sy’n astudio Gradd Sylfaen mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo. Mae hi’n arbenigo mewn portreadau a ffotograffiaeth ffasiwn, gan ddefnyddio gwahanol dechnegau sy’n cynnwys gwallt a cholur a gwahanol bropiau. Mae’r gwaith sydd ar ddangos wedi’i ddylanwadu gan emosiynau drwy ddefnyddio technegau gwallt a cholur mewn saethiadau harddwch. Mae’r emosiynau hyn yn agos at ei chalon oherwydd ei bod hi wedi profi bob un wrth iddi fynd ar ei thaith i gyrraedd lle mae hi rŵan.
Mae Danielle Anderton yn fyfyriwr blwyddyn olaf sy’n astudio Gradd Sylfaen mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo. Mae hi’n arbenigo mewn tirluniau a ffotograffiaeth natur gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau – o gamera twll pin tun Quality Street, camera twll pin ffilm 5x4 a thechnoleg ddigidol. Mae’r gwaith wedi’i greu yn defnyddio camera twll pin ffilm 5x4 a thun coffi. Maen nhw’n lluniau o wahanol lefydd o gwmpas y Sŵ Fynydd Gymreig. Ar ôl edrych ar ei delweddau gyda’i gilydd gwelodd fod dyfyniad o Winnie-the-Pooh yn eu crynhoi – “Some people talk to animals. Not many listen though. That’s the problem.”
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.