Mae Tessa wedi bod yn tynnu lluniau o fywyd yng nghefn gwlad ers dros bum mlynedd ar hugain, gan weithio’n agos ag unigolion a chymunedau i archwilio sut y mae’r tirlun yn cael ei siapio gan bobl. O ffermwyr mynydd ger ei chartref yng Ngogledd Swydd Efrog i helwyr pâl Gwlad yr Iâ, o fugeiliaid crwydrol Romania i nofwyr iâ Ffinneg mae ei phrosiectau’n datgelu cymhlethdodau cyfareddol y dibyniaethau rhwng pobl, gwaith a’r tir.
Mae ei chyfres FarmerFlorist yn archwilio mudiad newydd yn y DU ar gyfer 'masnach deg mewn blodau' ac yn dathlu tyfwyr blodau domestig Prydain, yn y gorffennol a'r presennol. Mewn cyfres o ffotograffau anhygoel, mae Tessa yn taflu goleuni ar yr unigolion sy'n cyfrannu tuag at y diwydiant blodau crefftus egnïol hwn.
“Mae blodau bob amser yn gwneud i bobl deimlo’n well ac yn hapusach; maent yn heulwen, yn fwyd ac yn feddyginiaeth i'r meddwl” Luther Burbank
Arferai ffermydd blodau fod yn nodwedd gyfarwydd o gefn gwlad Prydain, ond cawsant eu diarddel yn raddol gan ddulliau tyfu diwydiannol yn y 19eg ganrif ac yna gan ddulliau byd-eang yn yr 20fed ganrif. Ond bellach yn yr 21ain ganrif, mae ffermydd blodau bach yn dod i'r amlwg unwaith eto, wedi'u cynnal gan ddiddordeb newydd mewn cynaliadwyedd amgylcheddol a chynnyrch tymhorol lleol.
Ammi Magus, Binnington Blooms, Gogledd Swydd Efrog, o’r gyfres FarmerFlorist ©Tessa Bunney
Rydym yn genedl o ffermwyr, o arddwyr sydd wrth ein bodd â blodau, ac mae ein diwydiant blodau yn werth 2.2 biliwn o bunnoedd y flwyddyn. Roedd ffermydd blodau unwaith yn nodwedd gyfarwydd yng nghefn gwlad Prydain ac roedd garddwyr marchnad yn tyfu blodau ymhlith eu llysiau. Yn y 1800au, tyfodd ffermydd mwy wrth i gysylltiadau cludiant wella a threnau dyddiol yn cludo fioledau o Dawlish, eirlysiau o Swydd Lincoln a narcissi o Gernyw. Mae cynhyrchu blodau bob amser wedi bod yn gysylltiedig â chludiant, gyda dyfodiad awyrennau yn galluogi pellter. Gallwn bellach gael unrhyw flodau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, wedi'u cludo ar awyrennau o'r cyhydedd, neu wedi’u cadw mewn tai gwydr mawr yn yr Iseldiroedd.
Yn ddiweddar mae nifer o ffermydd blodau Prydeinig llai wedi tyfu, wedi’u hysgogi’n rhannol gan y diddordeb newydd mewn cynnyrch lleol, tymhorol, wedi’i dyfu’n gynaliadwy. Maent yn cyfrannu at ddiwydiant blodau ‘crefftus’ bywiog yn y DU.
“Rydym ni wrth ein bodd gyda blodau oherwydd eu bod nhw'n cynrychioli rhywbeth a gafodd ei gymryd oddi wrthym ni. Rhywbeth Prydeinig oedd tyfu blodau tan yr 1980au, ond drwy agor ein breichiau’n fyd-eang, fe gollon ni’r elfen leol. Wrth i ni sylweddoli ein bod wedi colli 90% o ddolydd blodau gwyllt y wlad hon, nid yw’n gyd-ddigwyddiad mai’r blodau y gofynnir i ni amdanynt fwyaf yw pabïau, gleision yr ŷd a chlafrllys.”
Caroline Beck, Tyfwr Blodau ac Awdur Gardd
Traed yr ehedydd, Naylor Flowers, Swydd Lincoln, o’r gyfres FarmerFlorist ©Tessa Bunney
Yn aml yn boblogaidd ymysg gweithwyr o Ddwyrain Ewrop, mae ansicrwydd cynyddol ynghylch eu dyfodol bellach yn sgil y trafodaethau Brexit cyfredol sy’n mynd rhagddynt. Mae rhai wedi dewis gadael am gyrchfannau eraill gan adael prinder gweithwyr yn y ffermydd blodau.
Tiwlipau wedi’u tyfu drwy ddulliau hydroponeg, Smith and Munson, Swydd Lincoln, o’r gyfres FarmerFlorist ©Tessa Bunney
“Bydd pobl yn dweud wrtha i fod gen i’r swydd ddelfrydol ar ddiwrnod heulog ym mis Mehefin. Dydyn nhw byth yn dweud hynny ym mis Tachwedd, pan fydda i’n plannu bylbiau ac yn methu teimlo fy nwylo.”
Gill Hodgson, Fieldhouse Flowers
Mae Tessa wedi bod yn cydweithio gydag aelodau’r sefydliad nid er elw Flowers from the Farm . ( www.flowersfromthefarm.co.uk )
Mae FarmerFlorist yn arddangos yn Oriel Colwyn i gyd-fynd ag Wythnos Blodau Prydeinig ( 10 – 16 Mehefin 2019) www.britishflowersweek.com/about #WythnosBlodauPrydeinig - Wedi’i chychwyn gan y Farchnad Flodau yn New Covent Garden Market yn 2013, mae Wythnos Blodau Prydeinig yn ddathliad blynyddol o gyfoeth ac amrywiaeth y blodau a’r dail ym Mhrydain.
Rhosod, Green and Gorgeous, Swydd Rydychen, o’r gyfres FarmerFlorist ©Tessa Bunney
Mae'n debyg mai rhosod yw fy ffefryn o'r holl flodau, rwy'n tyfu rhosod persawrus sy'n blodeuo dro ar ôl tro. Mae arogl mor bwysig - dyna sydd ar goll pan fyddwch chi'n prynu rhosod yn y siopau. Mae’r arogl wedi'i fagu ohonynt fel y gellir eu cludo o'r prif wledydd sy'n tyfu rhosod - Kenya, Ecwador, Colombia. Mae arogl yn byrhau bywyd blodau mewn fâs, felly dyna pam mae wedi ei fagu allan ohonynt.
Rachel Siegfried, Green and Gorgeous
Tessa Bunney - gwefan: www.tessabunney.co.uk