Browser does not support script.
Amrywiol
11 Ionawr, 2019 - 8 Chwefror, 2019
11/01/2019 00:00:00
Ar ddechrau pob blwyddyn, mae Oriel Colwyn yn cymryd y cyfle i gefnogi ac arddangos arddangosfa grŵp myfyrwyr ail flwyddyn sy’n cwblhau cwrs Ffotograffiaeth FdA Coleg Llandrillo.
Eleni rydym ni’n cyflwyno gwaith:
© Melody Fish
“Rwy’n ffotograffydd portreadau 21 oed yng ngogledd Cymru, ac rwy’n astudio Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth ar hyn o bryd. Rwyf bob amser wedi bod ag agwedd eithaf clinigol tuag at bortreadaeth, rwy’n canolbwyntio ar y manylion bychain ac yn ystyried estheteg fy ngwaith, mae’r arddull hon yn gweithio i mi. Rwy’n hoff o greu ymdeimlad o realaeth yn fy lluniau yn ogystal â chreu thema sinematig, credaf fod y cyfuniad hwn yn galluogi’r gynulleidfa i greu eu stori a’u cyd-destun eu hunain.”
© Andrew Haig
Mae ffotograffiaeth wastad wedi bod yn ddihangfa greadigol i mi. Nid wyf erioed wedi cael fy nenu at un math penodol o ffotograffiaeth, ac felly mae fy lluniau’n amrywiol iawn. Drwy astudiaethau ac aseiniadau, rwyf wedi disgyn mewn cariad â chyhoeddi ac wedi dod o hyd i ffordd o gyfuno fy lluniau a rhoi pwrpas iddynt.
© Stewart Cutting
Mae Mair Thomas yn lleol i Landudno ac mae ei harddangosfa’n dogfennu datblygiad hen adeilad Weekly News/ Daily Post a Crossville, teimla Mair ei bod yn bwysig dogfennu dymchweliad y tirnodau eiconig hyn yn yr ardal er mwyn i genedlaethau’r dyfodol fedru mwynhau’r hyn a oedd yno gynt. Roedd yr adeilad Daily Post gwreiddiol wedi bod yno ers dechrau’r 1970au felly roedd yn drist gweld y tirnodau hyn yn cael eu colli i ddatblygiadau newydd. Mae Mair wedi pasio’r adeilad lawer gwaith dros ei bywyd, ac mae hwn yn gyfle i bobl leol a chyn-weithwyr drafod yr hyn a oedd yno a hel atgofion o’r cyfnod a’r bensaernïaeth.
© Mair Thomas
“Fy angerdd yw ffotograffiaeth nos a lluniau amlygiad hir. Rwy’n caru tynnu lluniau yn y nos ac arbrofi i ddod â llun yn fyw.”
© David Williams
Hefyd yn cynnwys...
Olivia Carmichael
a
Bradlee Williams
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.