Mae gwaith unigryw John yn cyfuno ffotograffiaeth â dulliau gwaith print ceugerfio mwy traddodiadol.
Mae’r mwyafrif o ddelweddau John o ffurfiannau daearegol yn Geoparc Byd-eang UNESCO GeoMôn ar Ynys Môn, sy’n un o ddau geoparc yng Nghymru. Mae’n edrych ar brosesau naturiol natur fel cyrydiad, erydiad a haenu, ac yn eu cymharu â’r un peth mewn gwaith print. Mae yna hefyd ddelweddau daearegol o ynys Roegaidd Creta. Mae llawer o’r ffurfiannau daearegol hyn a geir yng ngogledd Cymru a Chreta yn debyg iawn, ac mae gan John ddiddordeb penodol yn y ffaith bod y rhain gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn iau na’r rhai sydd ar Ynys Môn, er eu bod yn debyg.

Cymysgfa Cerrig Crynion - Llanddwyn © John Hedley
Mae ‘Fingertips in Time’ yn archwilio delweddau a ddefnyddiwyd yn y gwyddorau naturiol yn unig am gymaint o amser. Maent yn argraffiadau sy’n parchu – yn mawrygu, hyd yn oed – y dirgelwch gweledol sydd wrth wraidd y pwnc hwn.
Mae’r gwasgiant, haenau a chraciau yn y broses brintio yn cyfateb i brosesau mewn daeareg. Ymddengys fod ansawdd fythol y mater llifol a greodd y graig yn bodoli yn y ddelwedd.

Aigos Galini © John Hedley
Ceir yma hefyd astudiaethau o goed. Mae coed yn tyfu wrth ymateb i oleuni a’r amgylchedd, a chrëir eu ffurf, fel creigiau, dros lawer o flynyddoedd. Mae’r haniaethiad organig a’r patrymau a haenau amwys a welir yn y ffurfiannau craig a choed yn helpu’r gwaith i ddatblygu.

Coed Cadnant © John Hedley
Y posibiliadau amlweddog yn y gwahanol amrywiadau o haenau a chraciau mewn coed a chreigiau sy’n dangos bodolaeth natur yw’r hyn sy’n ysbrydoli gwaith John.
Proses
Yn gyntaf, mae John yn gwneud delwedd yn Photoshop o’i ffotograffau o ffurfiannau daearegol neu goed. Defnyddir y delweddau hyn i ffurfio negatif digidol ar asetad. Bydd John wedyn yn dinoethi’r delweddau ar blatiau ffotopolymer gan ddefnyddio uned ddinoethi Natgraph yn y Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn Wrecsam, lle mae hefyd yn eu datblygu yn barod i’w hailwampio i waith print wedi ei geugerfio.

Plygiadau Carreg Galch – Asetad ar gyfer ffilm ffotopolymer © John Hedley
Mae mwyafrif y printiau ceugerfiad hyn sydd wedi eu printio â llaw yn ffotopolymer un plât (plât solar neu ffilm ffotopolymer) a thri i chwe phlât carborwndwm, sydd yn cael eu paentio gyda lliw. Mae hyn yn cyfuno dulliau digidol ffotograffig â dulliau ceugerfio mwy traddodiadol.
Byddant wedyn yn cael eu printio ar bapur llaith ar wasg yn ei stiwdio brintio, eu gwrthincio ar ddarnau o gerdyn ac wedyn eu gwneud yn blatiau carborwndwm. Mae John yn gwneud rhwng tri a chwe phlât i bob delwedd ac yn defnyddio dau neu dri lliw ar bob plât.
Cymysgir graean carborwndwm gyda farnais ac yna fe’i paentir ar bob plât yn dibynnu ar ba liw neu arlliw sydd ei angen. Rhoddir inc ar y platiau yn y lliwiau priodol yn ogystal â’r plât solar, ac, i orffen, cânt eu printio ar ben ei gilydd gan ddefnyddio system iawnlinio.
Mae’n cymryd tuag awr i brintio un ddelwedd ac mae pob print ychydig yn wahanol.

Cymysgfa Llanddwyn - © John Hedley
Ac yntau’n gweithio yng ngogledd Cymru, mae John wedi datblygu diddordeb mawr dros nifer o flynyddoedd mewn agweddau gweledol ar y gwyddorau naturiol, yn arbennig daeareg a morffoleg goedol.
Ers 2017 mae John wedi cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi hwyluso nifer o arddangosfeydd un person diweddar mewn orielau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys MOSTYN a’r Academi Frenhinol Gymreig. Mae ‘Fingertips in Time’ yn cyfuno gwaith o’r arddangosfeydd hyn ac ychwanegir elfennau a safbwyntiau newydd er mwyn edrych o’r newydd ar sut y defnyddiwyd ffotograffiaeth i lywio a chreu’r delweddau hyn.
