Mae Fisherwomen yn dilyn merched ddoe a heddiw yn y diwydiant pysgota, drwy gyfres o luniau gan Ffotograffydd y Flwyddyn y Byd SONY 2021, Craig Easton.
Gan ddilyn taith hanesyddol yr hen fflyd penwaig or Ynysoedd Shetland i Great Yarmouth, mae Fisherwomen yn adrodd hanes diddorol ffenomenon unigryw yn hanes merched gweithiol Prydain.
Mae Fisherwomen yn archwilio ac yn dathlu’r traddodiad hir o ferched yn y diwydiant pysgota, gan adrodd yr hanes mewn tair rhan: portreadau traddodiadol, treftadaeth a thaith.
FISHERWOMEN:
Mae merched wastad wedi bod yn rhan allweddol o’r diwydiant pysgota. O’r dyddiau cynnar iawn, maent wedi bod yn trwsio rhwydau, diesgyrnu pysgod a rhoi abwyd ar fachau, yn ogystal â gwneud yr holl waith tŷ a magu plant. Roeddent hyd yn oed yn cario’r dynion allan i’r cychod pysgota ar eu cefnau i sicrhau fod eu dillad yn sych i fynd allan i’r môr.
Fel y gwelir yn lluniau calotype gwreiddiol Hill ac Adamson yn Newhaven ar ddechrau’r 1840au ac ym mhaentiadau Winslow Homer, Isa a Robert Jobling, John McGhie ac eraill o’r 1880 a’r 1920au, roedd pysgotwragedd ar arfordir dwyreiniol Prydain yn olygfa gyffredin iawn wrth iddynt ddiesgyrnu pysgod a’u pecynnu mewn casgenni ar lannau prysur y ceiau neu eu cario mewn basgedi i’w gwerthu ar gerrig drysau.
Nid yw pysgotwragedd modern i’w gweld ar lannau’r cei mwyach, maent yn aml yn gweithio y tu ôl i’r llenni, mewn ffatrïoedd prosesu pysgod mawr, tai mwg a busnesau bach teuluol ar hyd yr arfordir. Maent yn parhau i fod yn hynod falch o’u gwaith.

©Craig Easton, Louise Hutchins, ffiledydd, Aberdeen, 2013
‘Nid wyf erioed wedi cael swydd arall debyg, hwyl cyson. Talwyd am y pysgod fesul uned, ac roeddwn i’n un o’r ffiledwyr cyflymaf - ond cymerodd ychydig o fisoedd i mi ddysgu’r grefft, a blwyddyn i fedru gwneud y gwaith yn gyflym. Roedd fy nwylo’n crampio’n aml, ac roeddwn yn aml yn torri fy mysedd â’r gyllell.’ Louise Hutchins.
TREFTADAETH:
Mae’r merched penwaig yn ffenomenon unigryw yn hanes merched gweithiol Prydain. Criw o weithwyr benywaidd mudol, a fu’n gadael eu teuluoedd ar ôl o 1860 ymlaen i ddilyn fflydoedd penwaig yr Alban i ddiesgyrnu a phiclo’r pysgod mewn halen. Roedd y gwaith yn galed, yr halen yn bwyta i mewn i’w bysedd, a’r oriau’n hir mewn iardiau di-balmant, di-loches, wedi’u hamgylchynu gan berfedd pysgod, ond fel gweithwyr, roeddent yn ennyn parch, ac roedd y merched yn gwerthfawrogi eu hannibyniaeth.
Roedd yn draddodiad i’r fam basio’r dyletswyddau penwaig ymlaen i’r ferch am dros gan mlynedd, ac ar ei anterth ym 1913, byddai bron i 6,000 o ferched penwaig yn mynd i’r Ynysoedd Shetland ar ddechrau’r haf, gan aros mewn cabannau diesgyrnu arbennig a gweithio mewn grwpiau o dri: dau yn diesgyrnu a’r llall yn pecynnu. Roedd yr arian yn ddefnyddiol iawn, ond roedd cael bod yn rhydd rhag rheolaeth eu rheini’n fantais arall, ac mae nifer o ferched hŷn yn cofio treulio amser mewn tai llety rhad a gweithio oriau hir yn diesgyrnu a phecynnu ar lannau’r ceiau fel ‘gwyliau’, er gwaethaf yr anesmwythder corfforol o orfod plygu dros y cafn a oedd yn dal y penwaig a’r peryglon o doriadau dwfn gan gyllyll miniog.

©Craig Easton, Mary Williamson, diesgyrnydd, Whalsay, Shetland, 2019
‘Ar ddiwedd y tymor, gadewais Lowestoft i fynd i Lundain, ac roeddwn i yno am bron i dair wythnos. O diar, roeddwn yn eithaf mwynhau hynny. Gwariais bob ceiniog. Roeddem wedi cael tymor prysur ofnadwy; ac wedi derbyn cyflog da iawn. Roeddwn yn Simbister un flwyddyn, ac yn Lerwick am ddwy ac yna tair ac yna pedair. Nes i mi briodi. Gwirion iawn. Roeddwn i’n 22 oed.’ Mary Williamson.

©Craig Easton: Y dwylo sy’n diesgyrnu’r penwaig
TAITH:
O ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg tan ganol yr ugeinfed ganrif, roedd y diwydiant pysgota penwaig yn un o ddiwydiannau pwysicaf yr Alban. Bob blwyddyn, wrth i’r heigiau nofio tua’r de drwy Fôr y Gogledd, byddai pysgotwyr y fflyd penwaig yn eu dilyn. Dechreuai dynion y dwyrain eu taith ar yr Ynysoedd Shetland ar ddechrau’r haf, ac am y chwe mis nesaf, byddent yn hwylio tua’r de gan gario’r pysgod i’r trefi a’r pentrefi pysgota ar hyd arfordir Môr y Gogledd ac Ynysoedd Prydain. Byddai’r bererindod flynyddol yn dod i ben ar ddechrau’r gaeaf yn y trefi glân môr Great Yarmouth a Lowestoft yn Lloegr.
Tra byddai’r pysgotwyr yn teithio drwy’r môr, byddai’r pysgotwragedd yn gwneud yr un siwrnai ar y tir, gan deithio o borthladd i borthladd yn diesgyrnu a phecynnu’r penwaig i gasgenni ar lannau’r ceiau. Roedd y mwyafrif ohonynt yn Albanwyr, ond byddai merched yn ymuno â hwy ar yr arfordir yn nwyrain Iwerddon a rhai o Loegr, ac roedd trenau arbennig yn cario’r merched i’r de. Cyn dyddiau cychod ffatri enfawr gyda chyfleusterau i brosesu’r pysgod a gaiff eu dal ar y môr, roedd cysylltiadau da rhwng y porthladdoedd pysgota.
‘Arferai’r pysgotwyr angori eu cychod am y penwythnos, gan na fyddai pysgotwyr o'r Alban yn pysgota ar ddydd Sul. Byddai’r Saeson yn parhau i bysgota ar ddydd Sul, ond nid yr Albanwyr. Roeddent i gyd yn mynd i’r eglwys gyda Beibl dan eu cesail ac yn canu emynau. Byddent yn meddwi ar ddydd Sadwrn, ac yn mynd i’r eglwys ar ddydd Sul i gael maddau eu pechodau, cyn dychwelyd i’r môr eto ar ddydd Llun.’ - Edna Donaldson.

©Craig Easton, Muckle Flugga, Shetland, 2018
Mae CRAIG EASTON yn ffotograffydd dogfennol traddodiadol sydd wedi ennill sawl gwobr ar draws y byd. Mae’n gweithio ar brosiectau dogfennol hirdymor sy’n archwilio materion yn ymwneud â pholisi cymdeithasol, hunaniaeth ac ymdeimlad o le. Mae’n adnabyddus am ei bortreadau personol a’i dirluniau eang, ac mae ei waith yn aml yn cyfuno’r elfennau hyn gyda dulliau gohebol o adrodd straeon, gan weithio’n aml gydag eraill i ymgorffori geiriau, lluniau a sain mewn arferion yn seiliedig ar ymchwil sy’n plethu naratif rhwng profiad a hanes cyfoes.
Mae Easton yn gredwr brwd mewn cydweithio gydag eraill, ef oedd crëwr ac arweinydd y prosiect SIXTEEN a dderbyniodd lawer o ganmoliaeth, a oedd yn cynnwys un ar bymtheg o ffotograffwyr yn archwilio gobeithion, uchelgeisiau ac ofnau pobl ifanc un ar bymtheg oed ar draws y DU. Ymddangosodd SIXTEEN yng Ngŵyl y Northen Eye yn 2019 ac mewn 20 o arddangosfeydd eraill yn 2019/2020, gan orffen gyda thair sioe gyda’i gilydd yn Llundain.
Mae FISHERWOMEN, ei archwiliad a’i ddathliad hirdymor o ferched yn y diwydiant pysgota wedi cael ei arddangos ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Cyhoeddwyd portffolio fformat mawr rhagorol gan Ten O’Clock Books yn 2020.
Ym mis Ebrill 2021, derbyniodd wobr anrhydeddus ‘Ffotograffydd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Ffotograffiaeth y Byd SONY am ei waith Bank Top. Mae monograff, a gyhoeddwyd yn 2022 gan GOST Books bellach ar gael drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae Easton yn ddarlithydd gwadd rheolaidd mewn prifysgolion ac yn cynnal gweithdai ar draws y byd. Caiff ei argraffiadau eu casglu’n eang a’u cadw mewn casgliadau pwysig gan amgueddfeydd yn y DU ac ar draws y byd.
Mae FISHERWOMEN, portffolio 24pp 11”x15” fformat mawr ar gael dros dro ar www.tenoclockbooks.com
Mae BANK TOP, cyfres hynod lwyddiannus Easton o Wobrau Ffotograffiaeth y Byd Sony 2021 ar gael i’w harchebu NAWR ar www.craigeaston.com