Arddangosfa newydd unigryw sy’n gyfuniad o brintiau du a gwyn clasurol Pete Davis o’i gyfres ‘Great Little Tin Sheds of Wales’ o ddechrau’r 1980au, a gwaith ‘Antonia Dewhurst, Haearn sy’n astudiaeth gyfoes mewn lliw o’r haearn rhychiog sydd wedi’i blethu yng ngwead tirlun gwledig Cymru.
Great Little Tin Sheds of Wales
Yn 2017 cynhaliodd Pete arddangosfa ôl-weithredol fawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, o’i waith dros chwe degawd. ‘Great Little Tin Sheds of Wales’ oedd y corff mawr cyntaf o waith nodedig a gynhyrchodd Pete ar ôl symud i’r tirlun o amgylchedd dinas. Rydym yn ddiolchgar i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am eu cefnogaeth.

Ty Bach Under a Tree, near Tregaron, Ceredigion, 1982 © Pete Davis
Diddordeb yn amrywiaeth yr adeileddau hollbresennol hyn wedi’u gwneud o ddur rhychiog, a’u lle yn nhirlun Cymru, oedd yr ysgogiad cychwynnol i’r gwaith hwn. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, daeth yn amlwg bod yr adeileddau hyn hefyd yn rhoi cipolwg ar hanes cymdeithasol, diwylliannol a diwydiannol Cymru.
Er bod llawer yn eu gweld fel ymwthiadau ‘hyll’ i’r tirlun, mewn gwirionedd un arwydd diweddar ydynt o feddiannaeth a defnydd y tirlun gan y boblogaeth ddynol sydd wedi bod yn esblygu ers miloedd o flynyddoedd.

Tin Shed on Wheels, Ciliau Aeron, Ceredigion, 1983 © Pete Davis
Roedd teitl y corff hwn o waith yn barodi ar deitl yr atyniadau twristaidd ‘The Great Little Trains of Wales’. Roedd y rhain hefyd yn arwydd o ddiwydianeiddio’r tirlun, ond maent bellach wedi’u trawsnewid gan ddiwylliant poblogaidd i fod yn eiconau o ddiddordeb treftadaeth ‘hynod’.

Jones & son, Builders and Undertakers, Blainau Ffestiniog, Gwynedd, 1984 © Pete Davis
Efallai ei bod yn ddiddorol nodi bod sawl aelod o’r ‘sefydliad diwylliannol’ yng Nghymru, yn enwedig y rheiny a oedd yn gysylltiedig â’r iaith, yn casáu'r corff hwn o waith, er eu bod yn cymeradwyo atyniadau ‘treftadaeth’ megis ‘The Great Little Trains’ ac yn anwybyddu’r doreth o fyngalos hyll a oedd yn ymddangos ym mhob man. Cafodd y gwaith ei enllibio gan lawer, ond bu’n llwyddiant mawr ac yn boblogaidd iawn.
Teithiodd ‘Great Little Tin Sheds of Wales’ o amgylch y DU am ddwy flynedd rhwng 1984 a 1987. Gwerthwyd nifer o brintiau i gasglwyr preifat a chasgliadau celf cyhoeddus, a gyda’r incwm llwyddodd Pete i adeiladu ei stiwdio. Hyd heddiw, mae pobl yn dal i fynd at Pete i sôn am ryw sied sinc y maent wedi’i gweld yn ddiweddar, sy’n profi bod yr arddangosfa wedi sbarduno ymwybyddiaeth o’r tirlun a aeth y tu hwnt i’r darluniadol.
Dr Pete Davis:
Mae gwaith y ffotograffydd o Gymru, Dr Pete Davis, i’w weld mewn nifer o gasgliadau celf cenedlaethol a rhyngwladol pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Museo Genna Maria, Sardinia, ac Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain.
Mae Pete wedi bod yn tynnu ffotograffau ers pan oedd yn un ar ddeg oed. Ar ôl bod yn gweithio fel ffotograffydd hysbysebion a ffasiwn am ddeng mlynedd, symudodd Pete i gefn gwlad gorllewin Cymru lle mae wedi bod ar deithiau maes o amgylch Ynysoedd Prydain, Ewrop a’r Unol Daleithiau’n ymgymryd â’i brosiectau. Am ddeunaw mlynedd roedd Pete yn uwch ddarlithydd ffotograffiaeth ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n arweinydd y cwrs am naw mlynedd.
Ar hyn o bryd mae’n ddarlithydd gwadd mewn nifer o brifysgolion a hefyd yn gysylltiedig â’i brosiectau ffotograffiaeth a gwaith ymchwil ar y cyd. Mae wedi ennill nifer o grantiau ymchwil a gwobrau ac ef oedd enillydd Gwobr Brynu Wakelin 2002 i artistiaid Cymru. Mae gwaith o gyfres ‘Wildwood’ wedi’i gaffael gan Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer eu casgliadau celf cyhoeddus.
Mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd yn y Karel De Grote-Hogeschool, Antwerp, Gwlad Belg; Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru yn Efrog Newydd; Academi Frenhinol y Celfyddydau, yr Hâg, yr Iseldiroedd; Prifysgol Toronto ac yn y FotoMuseum, Antwerp. Mae hefyd wedi bod yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.
Mae ei arddangosfeydd rhyngwladol diweddar wedi cynnwys y ‘Festival Interceltique’ yn Lorient, Llydaw, ‘Gallery International’, Baltimore, yr Unol Daleithiau, ‘Feick Arts Center’, Poultney, Vermont, yr Unol Daleithiau a’r ‘Fotomuseum’, Antwerp. Mae Pete hefyd wedi bod yn artist preswyl ac wedi cynnal dosbarthiadau meistri yn Polytechnic, Porto, Portiwgal; Coleg Green Mountain, Vermont, yr Unol Daleithiau; ac yn rhan o Ŵyl Gelfyddydau Ulster, Belfast. Cwblhaodd ei Ph.D mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2009.