Hidden Hospitality - Dathliad o’r bobl sy’n eich croesawu i Landudno
Mae Hidden Hospitality’n gydweithrediad newydd rhwng y ffotograffydd, Niall McDiarmid, a churadur Oriel Colwyn, Paul Sampson, i gynhyrchu gwaith wedi’i gomisiynu’n arbennig i dynnu sylw at y nifer o wynebau cudd yn y fasnach lletygarwch ar draws tref Llandudno.

Harry, Gwesty Chatsworth, Llandudno. Ebrill 2018 - ©Niall McDiarmid
Yn yr arddangosfa hon o’r bobl a’r personoliaethau y tu ôl i staff a pherchnogion gweithgar lletyau gwely a brecwast, tai llety a gwestai yn Llandudno, ceir 54 o bortreadau awyr agored mawr ar hyd promenâd Llandudno wedi’u lleoli yn y llochesi eiconig rhwng y pier a phwll padlo Craig y Don.

Patricia, Grand Hotel, Llandudno. Ebrill 2018 - ©Niall McDiarmid
Agorwyd y sioe gyhoeddus fel rhan Ŵyl Gelfyddydol LLAWN06 (www.llawn.org) ddydd Gwener, 14 Medi ac mae bellach yn parhau i 2019.

Greg, Gwesty’r Dunoon, Llandudno. Ebrill 2018 - ©Niall McDiarmid
Arddangosodd Niall ‘British Portraits’ yn Oriel Colwyn am y tro cyntaf yn 2016, ac ers hynny, mae ei arddangosfa wedi ymddangos yn The Martin Parr Foundation, a agorwyd yn ddiweddar, ac yn Amgueddfa Llundain. Mae ei waith yn canolbwyntio yn bennaf ar ddogfennu pobl a thirweddau Prydain. Mae ei lyfrau’n cynnwys Crossing Paths (2013), Via Vauxhall (2015) a Town To Town (2018). Mae portreadau Niall ar gadw yn The Martin Parr Foundation, Amgueddfa Llundain, The National Portrait Gallery, a The Sir Elton John Photography Collection.

Lynette, Gwesty The Elm Tree, Llandudno. Ebrill 2018 - ©Niall McDiarmid

Niall McDiarmid - penwythnos agoriadol LLAWN06, Medi 2018

Gosod - Medi 2018
Hidden Hospitality - lyfryn Arddangosfa
Wedi’i drefnu a’i gynhyrchu gan Paul Sampson o Oriel Colwyn, comisiynwyd y prosiect hwn gan Culture Action Llandudno gyda chefnogaeth gan gyllid Creu Cymunedau Cyfoes Cyngor Celfyddydau Cymru a Mostyn Estates Ltd.
