Hollywood, New York, Colwyn Bay
Dafydd Jones ( g. 1956. )
Roedd tad Dafydd, Glyn, a’i nain yn dod o Bont-y-Garth ym Maenan, ger Llanrwst. Symudai’r teulu Jones ifanc yn aml. Roeddent yn byw ym Mhort Dinorwig am sbel, yna Bangor, ac yna Caerfyrddin. Roedd ewythr Dafydd, Will, yn of yng Ngogledd Cymru, a’i nain, Myfanwy’n byw ac yn gweithio ym Mae Colwyn, gan dreulio ei blynyddoedd olaf yma.
Nid yw Dafydd yn ddieithr i’r ardal, ac mae ganddo atgofion melys o ymweld yn aml, ac rydym yn falch iawn o gynnal arddangosiad o’i waith yma, yn Oriel Colwyn.
Pan roedd yn 11 mlwydd oed, symudodd y teulu i Rydychen. Mynychodd Dafydd yr ysgol ramadeg leol. Yn wahanol i Gaerfyrddin, roedd gan Rydychen nifer o ysgolion preifat, a gwelodd Dafydd ychydig o’r byd arall hwn wrth iddo chwarae gwyddbwyll gyda thîm ei ysgol.
Daeth yn gyfeillgar gyda rhai o’r bechgyn a’r merched o’r ysgol breifat mewn disgo eglwys wythnosol. Aeth ymlaen i astudio Celfyddyd Gain yn ysgol gelf Winchester, gan ddatblygu diddordeb mewn portreadu’r sefydliad bonheddig. Yn gyntaf, drwy ddarluniau, ac yna drwy ddefnyddio ffotograffiaeth.
Gan ddychwelyd i’w gartref yn Rhydychen, lansiodd ei ffotograffau, ‘Bright Young Things’, sydd wedi ennill gwobrau yn y Brifysgol, ei yrfa, a chafodd swydd yn gweithio i gylchgrawn Tatler.
Ar ôl treulio’r 1980au yn tynnu lluniau o uchelwyr Prydeinig, fe symudodd gyda’i wraig Linzi a 2 o blant ifanc Efrog Newydd yn 1989. Gweithio i Vanity Fair, cylchgrawn Paper, a’r New York Observer. Fe wnaethant ariannu ei ffotograffiaeth a rhoi esgus unigryw iddo, a’r mynediad i barhau i dynnu lluniau byd a oedd yn ysbrydoliaeth iddo.

Roedd am geisio dangos sut beth oedd y partïon a’r digwyddiadau… Wrth iddo fyfyrio’n hwyrach, “Yn Lloegr, roeddwn wedi dod yn rhy adnabyddus fel ffotograffydd i Tatler. Roedd hi’n braf bod yn anweledig unwaith eto”. Fe dynnodd luniau pobl gyfoethog a phwerus Manhattan, gan gynnwys datblygwr eiddo ifanc o’r enw Donald Trump. Fe dynnodd luniau gala’r gymdeithas, ynghyd â sêr Hollywood, gan gynnwys Elizabeth Taylor, Mick Jagger, Madonna, a’r cantor a oedd yn adnabyddus fel Prince.

Pan ofynnwyd iddo beth yw’r gwahaniaeth rhwng partïon yn yr UDA a Lloegr, fe atebodd “Ni welais i unrhyw un yn cysgu mewn parti yn Efrog Newydd, ond roedd rhywun o hyd yn cysgu yn Llundain. Blynyddoedd yn ddiweddarach, fe wnes i sylwi: Disgwyl funud, roedd yr holl bobl yna ar rywbeth. Dyna pam roeddent yn cael ail wynt am 1 o’r gloch pan roedd hi’n amser mynd adref.”
Mae ei luniau o’r cyfnod roi cip ar bartïon a digwyddiadau Efrog Newydd a Hollywood - i ffurfio continwwm o sylwebaeth gymdeithasol 1989-1999.

Mae ei ffotograffau o’r UDA wedi cael eu casglu mewn 2 lyfr a gyhoeddwyd gan ACC Art Press: New York: High Life, Low Life a’i gyhoeddiad newydd, Hollywood Confidential.
Mae lluniau Jones yn cael eu cadw mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, a Chasgliad Hyman o Ffotograffiaeth Brydeinig, Llundain; Sefydliad Martin Parr, Bryste, Sefydliad Opsis, Efrog Newydd, ac Amgueddfa Yale o Gelf Brydeinig, New Haven.
www.dafjones.com