Browser does not support script.
Geoff Wedge
2 Chwefror, 2017 - 17 Mawrth, 2017
02/02/2017 00:00:00
Nid ydym yn gwybod yn sicr sut y cafodd tref y Rhyl ei henw, ond un ddamcaniaeth yw ei fod yn tarddu o’r geiriau Tŷ'n Yr Haul.
Dechreuodd Geoff dynnu lluniau o Orllewin y Rhyl yn 2006 wrth astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd. I ddechrau roedd yn gwneud portreadau o’r bobl ifanc ar strydoedd y dref, a pharhaodd Geoff i ddogfennu’r Rhyl drwy gydol blynyddoedd y dirwasgiad diweddar a’r cynllun adfywio dilynol. Mae’n parhau i ymgysylltu â thrigolion y Rhyl, yn cynnwys y rhai sydd wedi gorfod symud o’u cartrefi oherwydd y gorchmynion prynu gorfodol a roddwyd arnynt.
Mae Geoff wedi ymrwymo i ddarlunio ardal y Rhyl gyda thosturi ac wedi gwneud hynny am y degawd diwethaf, gan ehangu ei waith i’r hyn sydd wedi esblygu erbyn hyn yn archif 'House In The Sun'.
Yn ddiweddar, cafodd delweddau ymarferol o House in the Sun eu dangos am y tro cyntaf yng ngŵyl ffotograffiaeth ryngwladol THE EYE yn Aberystwyth, ac mae’r arddangosfa lawn yn awr yn cael ei hargraffu yn arbennig i’w dangos yma yn Oriel Colwyn.
Rydym yn falch o ddweud bod Geoff yn gwneud printiadau i’w prynu a bydd yr holl elw’n mynd i gefnogi Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.