** Sioe oddi ar y safle **
- Coed Pella, Bae Colwyn
(14 Chwefror 2023 tan 14 Mawrth 2023)
- Llyfrgell Bae Colwyn
(20 Mawrth 2023 tan 20 Mai 2023)

Arddangosfa Gradd Sylfaen Ffotograffiaeth 2023 – Coleg Llandrillo
Pob blwyddyn mae Oriel Colwyn yn cefnogi ac yn cynnal arddangosfa ffotograffiaeth myfyrwyr ail flwyddyn cwrs Gradd Sylfaen Ffotograffiaeth Coleg Llandrillo.
Eleni mae’r sioe yn cael ei chynnal oddi ar y safle i ddechrau yn adeilad Coed Pella yng nghanol tref Bae Colwyn (14 Chwefror – 14 Mawrth), ac yna’n symud i Lyfrgell Bae Colwyn (20 Mawrth – 20 Mai).
Cyflwyniad i’r gwaith:
Mae Hybrid yn enw cyfunol ar gyfer grŵp o fyfyrwyr Coleg Llandrillo sy’n dilyn Cwrs Gradd Sylfaen, Lefel 5 mewn Ffotograffiaeth. Cytunwyd ar yr enw gan ei fod yn disgrifio cymysgedd o wahanol gymeriadau, diddordebau a dulliau gweithio o fewn y grŵp.
Mae’r sioe yn dangos y gwahanol genres o ffotograffiaeth sydd o fewn y grŵp, yn ogystal â nodi pwysigrwydd cydweithio i gydlynu arddangosfa ffotograffig ystyrlon.
Mae Hybrid yn cynnwys gwaith 10 myfyriwr:
Malcolm Roberts
Dw i’n dod o Gapel Garmon yn Nyffryn Conwy a dw i’n fyfyriwr aeddfed sy’n astudio cwrs Gradd Sylfaen Ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo.
Teitl – Heneb
adeiledd neu safle o bwysigrwydd neu ddiddordeb hanesyddol.
Dw i wedi tynnu lluniau o adeileddau a safleoedd sydd wedi dod yn henebion i drychinebau, trasiedïau ac adfyd dros y blynyddoedd.

Caitlin Millership
Dw i’n hoffi tynnu lluniau ffasiwn. Dw i newydd ddechrau defnyddio taflunydd i daflunio delweddau ar fodelau ac mae hynny wedi bod yn brofiad llawn hwyl, a dw i wrth fy modd efo’r ffordd mae’r lluniau wedi datblygu. Dw i’n teimlo bod defnyddio taflunydd yn fy helpu i deimlo’n fwy creadigol ac arbrofol wrth dynnu lluniau, sydd yn fy helpu i greu delweddau o ansawdd da sydd arna i eisiau eu rhannu.

Rhiannon Williams
Yn gyntaf, dw i’n ystyried fy hun yn fwy o ddarlunydd na ffotograffydd. Dydw i ddim yn tynnu lluniau gyda llaw ond yn hytrach dw i’n tynnu lluniau gan ddefnyddio ffilter i gael cyferbyniad du a gwyn trwm. Mae arnaf i eisiau i’r lluniau edrych fel lluniau llyfr comig Japaneaidd, oherwydd dyna sydd wedi fy ysbrydoli, hyd yn oed yn fy ngwaith personol.

Hollie Williams
Dw i’n ffotograffydd 20 mlwydd oed sy’n astudio yng Ngholeg Llandrillo. Mae fy ngwaith presennol yn cynnwys cymysgedd o ffotograffau ffasiwn golygyddol a ffasiwn drud, a phenluniau. Dw i’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith mewn stiwdio gan fy mod i’n hoffi rhyddid creadigol hynny a dw i’n hapus iawn efo’r canlyniadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Raymond Dollery
Dw i’n fyfyriwr aeddfed, ac mae’r lluniau yn adrodd fy nhaith ar ôl i mi golli fy ngolwg yn fy llygad dde oherwydd glawcoma sydd yn fy nwy lygad. Roedd gen i hefyd gataractau yn fy llygaid ac mi ges i lawdriniaeth ar fy llygad chwith i dynnu’r cataract a gosod lens newydd yn y llygad.

Stephen Atmore
Dw i’n fyfyriwr aeddfed sydd wedi darganfod ffotograffiaeth yn hwyr, mae fy lluniau yn haniaethol a gyda symudiad a lliw.

Rew Molloy
Y datblygiad diweddaraf yn fy ngwaith ydi symud fy ffocws tuag at ‘ffasiwn sglefr fyrddio’. Yn draddodiadol rydym ni’n cysylltu sglefrwyr ag is-ddiwylliant pobl ifanc a’u hunaniaeth, sy’n cael ei fynegi drwy ddillad llac sy’n cael ei ystyried y tu allan i brif ffrwd ffasiwn. Dw i’n meddwl yn llythrennol ac yn ceisio cyflwyno blas gwahanol. Dw i wedi trio ail-ddychmygu'r sglefriwr fel rhywun sy’n perthyn i drefn neu grŵp hollol wahanol. Unigolion ifanc uchelgeisiol sy’n awyddus i gael eu dillad o siop ddillad bonheddwyr yn ogystal â warws diwydiannol.

Anton Kirby
Dw i’n ffotograffydd o ogledd Cymru ac wedi dechrau gweithio ar brosiect o’r enw The Car Graveyard sy’n archwilio dylanwad pwysig y diwylliant ceir ar fy mywyd yn ogystal â dirywiad araf ac anorfod ceir injan piston yn y dyfodol. Erbyn 2030, mae’n debyg y byddan ni’n gyrru ceir trydan, rhywbeth na wnes i erioed ddychmygu pan oeddwn i’n blentyn. Bydd rhu y V8, y sŵn sgrialu ceir sinematig, arogl tanwydd rasio a chyflymiad modur 4 strôc tanwydd wedi’u traddodi i hanes. Mae hyn yn nodi newid arwyddocaol yn esblygiad ein byd a gallaf weld sut mae hanes yn nodi ein bywydau ac mae hyn yn rhan o’m mywyd i yr wyf yn bwriadu ei fwynhau tan y medraf.

Jacob Williams
Dw i’n 20 oed ac yn ffotograffydd/fideograffydd yng ngogledd Cymru, a dw i wedi bod yn gweithio ar ffilm fer o’r enw Soul Stranded. Mae’r ffilm yn archwilio ystyr gadael fynd a symud ymlaen ar ôl colli perthnasau. Mae wedi’i sbarduno gan fy mhrofiadau personol ar ôl i mi golli fy nhaid. I ryw raddau mae creu’r ffilm wedi bod yn daith ryddhaol, gan gydnabod sut mae profedigaeth wedi effeithio arnaf i. Ond mae hefyd wedi bod yn brofiad dysgu go iawn mewn perthynas â chreu ffilmiau.

Carlos Ortiz Casallas
Dw i’n 20 oed ac yn wreiddiol o Golombia. Dw i’n fyfyriwr ail flwyddyn sy’n astudio Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo. Mae fy ngwaith yn pwysleisio portreadaeth dywyll ac amgylcheddau arswydus, y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi’u creu tu allan. Mae fy mhrosiect mwyaf hyd yma yn cyfuno ffotograffiaeth ac elfennau artistig y “cysyniad gêm fideo”.
