Llandrillo FdA Photography Show 2025

Amrywiol

13 Chwefror, 2025 - 15 Mawrth, 2025

Date(s)
13/02/2025 - 15/03/2025
Cyswllt
Amrywiol
Disgrifiad
1

(Between Then and Now – For Dan)

Bob blwyddyn, mae Oriel Colwyn yn cymryd y cyfle i gefnogi ac arddangos sioe derfynol arddangosfeydd grŵp myfyrwyr sy’n cwblhau cyrsiau FdA a BA (Anrhydedd) mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo.


Ym mis Chwefror byddwn yn cyflwyno gwaith y myfyrwyr FdA i chi:

Mae eu sioe yn dangos y gwahanol genres o ffotograffiaeth sydd o fewn y grŵp, yn ogystal â nodi pwysigrwydd cydweithio i gydlynu arddangosfa ffotograffig ystyrlon.

Agor 6.30pm – Dydd lau 13 Chwefror – CROESO I BAWB – Am Ddim

13 Chwefror – 15 Mawrth 2025

Gyda:

Pauline Beacham

Abandoned Buildings, Decay and the Unexpected Beauty Within

Dros y deunaw mis diwethaf, rwyf wedi bod yn mireinio agwedd ar ffotograffiaeth sy’n canolbwyntio ar broses ddinistriol neu anghyflawn. Rwyf wedi bod yn gwthio’r cynhyrchiad i ymylon normau cynrychioladol er mwyn i’r delweddau gyd-fynd rywsut gyda’r ffordd yr wyf yn teimlo ynglŷn â’r lleoedd sydd yn fy ffotograffau. Rwyf bob amser yn edrych am y lleoedd amwys sydd â’u hegni eu hunain, lle mae gwrthrychau ac amgylcheddau’n dechrau gwrthdaro mewn ffyrdd diddorol. 

Mae lleoedd sydd wedi eu gadael, fel hen safleoedd gwaith neu adeiladau sefydliadol sydd wedi mynd â’u pen iddynt, yn fy nghyfareddu. Yn aml, mae yna naws, ysbryd neu awyrgylch yr wyf yn eu teimlo yn y lleoedd hyn sydd fel pe bai’n alwad o’u hanes prysur. Cysgodion ysbrydol pobl, sydd wedi hen fynd, yn dal i sibrwd wrthym ni drwy dyllau a chraciau’r adeiladau.  Nod y gwaith hwn yw cofnodi’r teimladau hynny, procio’r dychymyg, meddwl am fyrhoedledd amser a stori unigol, a gweld harddwch yn yr anarferol.

2
© Pauline Beacham


Scott Lennon

Urdaneta Market

Roeddwn yn gweithio yn Hong Kong fel Peiriannydd Morol Ymgynghorol o 2010 tan i mi ymddeol yn 2019. Rwyf wedi teithio’n eang yn ne-ddwyrain Asia a thros y 15 mlynedd diwethaf wedi gweithio a bod ar wyliau sawl gwaith ar Ynysoedd Philippines.  Bwriad fy ffotograffau yw dangos bywyd beunyddiol Ffilipiniaid cyffredin, a sut mae’r marchnadoedd bwyd ffres yn y trefi a’r dinasoedd yn rhan bwysig o fywyd pob dydd yn economi a diwylliant y Ffilipiniaid.

Rwyf wedi dewis arddangos ffotograffau a dynnwyd fis Awst diwethaf ym marchnad fwyd gyfanwerth Urdaneta yn nhalaith Pangasinan, ar ynys Luzon. Sefydlwyd y ddinas ym 1858, ac mae’n haeddu ei henw fel “Bagsakan” (gorsaf fasnachu) Dinas Pangasinan, gan ei bod yn gweithredu fel canolfan ar gyfer masnachu reis, pysgod, ffrwythau a llysiau yn y rhan hon o’r dalaith.  Mae’r farchnad yn agored saith niwrnod yr wythnos, am 24 awr y dydd, gyda ffrwythau a llysiau yn cael eu dosbarthu i drefi a phentrefi ledled y rhanbarth.  Roedd teiffŵn yn mynd heibio’n araf i fyny’r arfordir dwyreiniol, felly roedd yn bwrw glaw yn ddi-baid pan oeddwn i yno. Roedd yn boeth, llaith a gwlyb, ond roedd y masnachu yn y farchnad yn dal i ddigwydd.

3
© Scott Lennon


Sophie Devonshire

Stories in Stone

Dechreuodd y prosiect fel rhaglen ddogfen draddodiadol yn canolbwyntio ar hanes a bywydau’r gweithwyr a fu’n siapio’r tirweddau hyn. Fodd bynnag, yn anorfod, trodd yn araf yn ymagwedd llawer mwy creadigol a llawn dychymyg. Wrth i mi ddechrau mynd i’r afael â’r broblem o gynrychioli lle, sydd, yn baradocsaidd, wedi ei wreiddio gymaint yn yr ymwybyddiaeth genedlaethol, mae wedi mynd bron yn anweledig. Dros y blynyddoedd mae miloedd o ymwelwyr, dringwyr, cerddwyr mynyddoedd ac anturiaethwyr wedi tynnu lluniau o dirwedd y chwareli llechi yng ngogledd Cymru. Mae’r ddelwedd mor sefydlog â’r endid daearyddol ei hun. Nid ydym yn gweld y tu hwnt i’r wyneb. Nid ydym yn cydnabod y raddfa yn ei wir ystyr – y raddfa ddynol. Mae rhai o’r chwareli mwyaf mewn lleoedd fel Bethesda, Llanberis a Blaenau Ffestiniog yn brawf o anferthedd gallu dynol. Cerfio llechweddau gydag offer cyntefig. Symud miliynau o dunelli o ddeunydd i gynllun manwl fel na fyddai dryswch yn amharu ar y cynhyrchu – gwastraff ar y dde, cynnyrch ar y chwith. Cynyddwyd y potensial gan yr Arglwyddi breintiedig a oedd yn elwa o’r cyfle, a buont yn comisiynu arolygon daearegol manwl a chynlluniau peirianyddol a oedd yn mapio’r llinellau cynhyrchu. 

Gan gadw hyn oll mewn cof, dechreuais fy nychmygu fy hun fel ymwelydd o’r dyfodol, neu o fyd arall, yn dod ar draws y lleoedd hyn am y tro cyntaf. Beth fyddwn i’n ei feddwl o hyn? Sut fyddwn i’n ei ddeall? Pa gliwiau fyddwn i’n eu cofnodi a sut fydden nhw’n llywio fy nadansoddiad? Meddyliais am demlau coll gwych y byd, a sut mae damcaniaethwyr yn dal i gynnig syniadau ynglŷn â’u swyddogaeth neu’r systemau cred y maent yn eu cynrychioli. Gellid yn hawdd ystyried rhai o’r chwareli eang hyn yn yr un ffordd. Ymdrech ddynol enfawr yn wyneb pob rhwystr. Gadael rhywbeth aruthrol yn gofnod ar gyfer y dyfodol. Nid temlau i syniadau, ond rhywbeth arall. Ceisiais dynnu llun y ‘rhywbeth arall’; edrychais am yr arwyddion sydd wedi hen golli eu hystyr.

4
© Sophie Devonshire


Sian Vaughan

Brynffanigl Isaf

Mae’r hen ddywediad sy’n dweud bod “ffermio’n ffordd o fyw” yn dweud wrthym fod rhywbeth anhepgorol am yr alwedigaeth. Mae ei gwreiddiau yn y byd cynoesol, ac mae deall ffermio yn gyfystyr â deall llinach o oroesi. Rheoli bywyd yn y ffordd sylfaenol. Meithrin pethau sy’n tyfu a blodeuo, neu feithrin rhywbeth i’w aberthu er mwyn cael bwyd. Mae rheoli’r amgylchedd lle mae hyn yn digwydd yn eilbeth gwerth chweil, sy’n aml yn clymu’r ffermwr i ymdeimlad dwys o berthyn – rhywbeth sy’n anodd ei ganfod yn y rhan fwyaf o alwedigaethau.

Rwyf wedi treulio fy mywyd ar y fferm, ac felly nid oedd yn rhaid ystyried llawer cyn dewis hynny fel pwnc i’m gwaith ffotograffig. Rwyf eisiau cofnodi’r atgofion a hanfod y lle sy’n siapio’r person yr ydw i heddiw. Mae gan y tir, y bobl a’r momentau yno werth sentimental dwfn i mi. Mae pethau’n newid gydag amser, ac rwyf eisiau diogelu’r cysylltiad â’m gorffennol cyn i’r manylion hynny ddiflannu – ar fy nghyfer i ac i genedlaethau’r dyfodol. Trwy’r ffotograffau hyn gobeithiaf adodd stori rhywle a fydd bob amser yn rhan ohonof.

5
© Sian Vaughan


David Mojoros

Mundane, Beautiful, Uncanny

Argraffwch hwn. Rhowch o ar y wal. Gadewch i’w ymylon gyrlio. Neu beidio. Pa wahaniaeth? Polaroids – sydyn, cemegol, cam. Un cyfle. Dim golygiadau. Dim ffilterau. Dim ond golau yn taro papur, rŵan neu fyth.

Dyma fflach o flodau, ci yn ysgyrnygu, fflic stwmp sigarét ar y palmant. Mae’r byd yn gollage o bethau di-nod, y cyfan yn daer i gael eu gweld. Ac rwy’n llusgo Eggleston drwy faes parcio archfarchnad, stwffio Steve Shaw i fwth lluniau am 2:00 yn y bore. Dim sglein. Dim ffug-honiad. Dim ond clec-clic-dyma-fo. Mae pwysigrwydd i’r dibwys. Mae’r undonog yn fwy diddorol pan fyddwch chi’n ei ddal ar ffilm. Ydych chi erioed wedi syllu ar orchudd traen? Llygad y dydd wedi ei stwffio drwy gadwyn ddolen? Cwpan de eich nain, wedi ei staenio gan ugain mlynedd o drefn foreol? Dyna’r gêm. Dim ailgynnig. Dim botwm dileu. Dim ond ennyd, wedi ei ddal a’i boeri allan ar unwaith. Inc, golau, cysgod, niwl – nid chwilio am ystyr yw pwrpas yr arddangosfa hon. Mae’n ymwneud ag ystyr yn chwilio amdanoch chi. Mae’n ymwneud â gweld. Ymosodiad wyneb yn wyneb ar yr amlwg. Hardd. Hyll. ’Does dim gwahaniaeth. Mae’n bod. Byddwch naill ai’n ei ddeall neu ddim yn ei ddeall. Y naill ffordd neu’r llall, mae wedi ei argraffu rŵan.

6
© David Mojoros


Tesni Hunter

Postcard Views

Fel myfyrwraig yn fy mlwyddyn olaf, mae fy ngwaith yn archwilio’r berthynas rhwng ffotograffau o leoedd a chardiau post o’r lleoedd hynny, ac yn canolbwyntio’n benodol ar dirweddau gogledd Cymru. Drwy’r prosiect hwn rwyf wedi archwilio’r tensiwn rhwng y ddelwedd “cerdyn post” traddodiadol, a realiti byw y tirweddau sydd yn fy ffotograffau.

Mae gogledd Cymru’n ardal o fynyddoedd geirwon, arfordiroedd hardd, a hanes diwylliannol cyfoethog – a’r cyfan yn aml wedi eu distyllu i’r golygfeydd ystrydebol a welwn ar gardiau post. Mae’r delweddau hyn yn cynnig cipolwg o’r lle, ond yn gadael llawer heb ei ddweud. Fy mwriad yw herio’r symleiddio hwn trwy greu ffotograffau sy’n amlygu cynildeb y dirwedd, gan bwysleisio gwead, golau, ac eiliadau byrhoedlog sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y bydd twrist confensiynol yn ei weld. Rwy’n gwneud ymdrech i gofnodi agweddau tawelach, agos atoch, ar y lleoedd hyn – sy’n aml yn cael eu hanwybyddu – gan wahodd y sawl sy’n edrych i ailystyried delweddau cyfarwydd gogledd Cymru.

Mae’r broses o dynnu lluniau ar gyfer cardiau post yn fy ngalluogi i fyfyrio ar sut ydym yn defnyddio ac yn delfrydu tirweddau. Mae fformat cerdyn post, a ddefnyddir yn draddodiadol i anfon atgofion neu negeson personol, yn ychwanegu haen arall o ystyr, sy’n awgrymu nad yw fy ffotograffau’n gynrychioliadau llonydd yn unig, ond yn gerbydau ar gyfer adrodd stori. Drwy hyn, gobeithio y gallaf ennyn cysylltiad dyfnach rhwng y sawl sy’n edrych a’r dirwedd, gan drawsnewid y cerdyn post o fod yn swfenîr syml i fod yn brofiad mwy meddylgar a myfyrgar.

7
© Tesni Hunter


Elvie Hands & Sian Vaughan

Butterfly

Penderfynais greu prosiect yn canolbwyntio ar ymosodiad rhywiol a thrawma yn ystod plentyndod – pynciau sydd ag arwyddocâd personol dwfn i mi. Am amser hir rwyf wedi cadw’r profiadau hyn yn y cefndir, ond mae’r amser yn iawn bellach i fod yn agored ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd. Fis Chwefror diwethaf derbyniais lythyr ynglŷn â’r achos llys – yn anffodus ni ellid parhau ag o, gan nad oedd digon o dystiolaeth. Bu’r siom yn gyfrifol am gryfhau fy mhenderfynoldeb i godi ymwybyddiaeth drwy’r prosiect hwn.

Pwrpas y gwaith hwn yw dangos fy mod yma heddiw, wedi fy amgylchynu â’r cwmni gorau, ac yn ffynnu, er gwaethaf y tywyllwch rwyf wedi ei wynebu yn fy mywyd. Rwyf eisiau i eraill wybod bod golau bob amser ym mhen draw’r twnnel, ni waeth pa mor anodd y mae pethau’n ymddangos. Dyna pam rwyf wedi galw’r prosiect hwn yn ‘Butterfly’ – mae’r glöyn byw’n symbol o drawsnewid, gobaith ac aileni. Mewn diwylliant Tsieineaidd mae’r glöyn byw hefyd yn cynrychioli rhyddid, sydd yn thema rymus i’r hyn rwyf eisiau ei gyfleu.

Pan rannais y syniad hwn gyda Sian, cytunodd yn syth i helpu i roi bywyd iddo. Gyda’n gilydd, rydym wedi penderfynu cynnwys fideo cerddoriaeth ochr yn ochr â’r delweddau’r ydym wedi eu creu, yn cynnwys rhai lluniau ohonof yn blentyn, sy’n cynrychioli cyfnod mwy diniwed yn fy mywyd. Bydd y fideo cerddoriaeth yn dangos fy natblygiad personol, ac yn cyffwrdd â chyfnodau allweddol fel ysgariad fy rhieni, profi ymosodiad rhywiol yn ifanc, trafferthion gyda bwlio, a phroblemau gyda delwedd y corff. Byddaf yn rhannu portread gonest, cignoeth, o’m siwrnai, ac yn ymdrin â sawl agwedd ar fy mywyd sydd wedi siapio’r person yr wyf i heddiw.

1
© Elvie Hands


Taith Arddangosfa Rithwir


8


TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp