Ffotograffydd dogfennol llawrydd o Fanceinion yw Simon Bray. Collodd ei dad i ganser y prostad ym mis Rhagfyr 2009.
“Gadawodd marwolaeth fy nhad graith ddofn iawn ynof. Cafodd hynny effaith ar fy mywyd am flynyddoedd wedyn ac mae’n dal i gael effaith arnaf hyd heddiw, ond nid oes rhaid i mi adael i hynny ddiffinio pwy ydw i. Drwy gydol y cyfnod hwn, roedd siarad am fy nhad bob amser yn helpu. Roedd arnaf eisiau gadael i bawb wybod pa mor wych oedd fy nhad, yr emosiynau yr oeddwn yn eu teimlo wrth i mi brosesu’r galar, a siarad am y dylanwad a gafodd, ac y mae’n parhau i’w gael, ar fy mywyd. Roedd y sgyrsiau hynny’n aml yn anodd ac yn brin, yn bennaf gan nad oedd pobl yn gwybod sut i ymateb.”
Prosiect dogfennol sy’n archwilio ein profiadau o golled drwy ffotograffiaeth a chyfweliadau sain yw Loved&Lost.
Gofynnir i bob cyfranogwr ddod o hyd i lun o’u hunain gyda’r sawl a gollwyd. Yna, rydym yn dychwelyd i leoliad y llun gwreiddiol i geisio ail-greu’r llun.

Ceryl
Mae’n gyfle i feddwl yn ôl a chofio, adrodd hanes y diwrnod hwnnw a’r unigolyn y maent wedi’u colli. Mae lluniau’n ein galluogi i fynegi pethau na allwn eu cyfleu ar lafar, profiad sy’n cyfrannu at y broses o adfer a goresgyn y boen sydd ynghlwm â cholled. Mae’r prosiect hwn yn cynnig llwyfan sy’n galluogi eraill i gydnabod eu colled, dathlu’r unigolyn y maent yn eu caru a dangos nad yw’r golled y maent wedi’i phrofi’n rheoli eu bywyd.
“...created to help others who have experienced bereavement, to tell the story of a moment in time, acknowledge their loss and celebrate someone they love....a way of honouring that person.”
- The Guardian

“Mae’n ffordd wych o fyfyrio, sy’n broses iach iawn. Mae’n bwysig treulio amser yn meddwl amdano, ond pryd mae rhywun yn gwneud hynny?” - James
Mae profiadau pawb o golled yn wahanol ac yn gallu dod i’r amlwg mewn sawl ffordd. Weithiau, mae’r ymateb yn amlwg i’r rhai o’ch cwmpas. Efallai na fyddwch yn siŵr sut i gyfleu eich emosiynau, neu’n ansicr am sut y dylech chi deimlo a ph’un a yw cyfnodau o ddicter a dryswch yn naturiol.
“Pan fydd rhywun yn marw, mae’n gallu bod yn sioc enfawr, ac efallai y byddwch chi’n disgwyl clywed llawer o sŵn, fel petai rhywun yn curo drymiau a chwarae trombonau a gweiddi, ond mewn gwirionedd, mae popeth yn dawel gan fod yr unigolyn hwnnw wedi mynd ac nad ydych chi’n clywed eu llais mwyach. Ar ôl yr angladd, cewch eich gadael mewn lle tawel iawn, ac weithiau, gall hynny deimlo’n rhyfedd gan nad ydych yn dawel eich meddwl.
- Nicola
“Gobeithiaf y bydd pobl yn ei weld fel ffordd o ddechrau sgwrs neu fforwm i drafod pethau nad oes ar bobl eisiau eu trafod, oherwydd mewn gwirionedd, mae siarad am bethau’n gallu ein helpu i ymdopi.”
- Will
Cymryd Rhan
A hoffech chi gymryd rhan yn y Prosiect Loved&Lost?
Lluniwyd y prosiect Loved&Lost i helpu pobl i ymgysylltu â’u colled, ym mha bynnag ffordd y gallant. Mae lluniau’n ein galluogi i fynegi pethau na allwn eu cyfleu ar lafar, ac mae Simon yn gobeithio y bydd yn brofiad sy’n cyfrannu at y broses o adfer a goresgyn y boen sydd ynghlwm â cholled.
Gallwch ddarganfod mwy ar lovedandlostproject.co.uk
Gallwch glywed y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ar Twitter a Facebook.