Mae A Fine Beginning yn grŵp ffotograffiaeth Cymreig, a sefydlwyd gan James O. Jenkins, gyda’r uchelgais o ddatblygu llwyfan i ddarganfod ac arddangos ffotograffiaeth gyfoes a wneir yng Nghymru heddiw.
Daw enw’r grŵp hwn, ‘A Fine Beginning’, o bennod gyntaf nofel anorffenedig Dylan Thomas, Adventures in the Skin Trade. Mae prif gymeriad y stori’n ymadael â chartref ei rieni yn ne Cymru am Orsaf Paddington, a phan ofynnir iddo i le mae’n mynd, ateba Samuel Bennett “I don’t know where I’m going, I haven’t any idea in the world, that’s why I came to London”.
Nod A Fine Beginning yw cynnig llwyfan i ffotograffwyr sy’n gwneud eu gwaith yng Nghymru i’w ffotograffiaeth gael ei gweld a’i gwerthfawrogi yng Nghymru a thu hwnt.
Aelodau A Fine Beginning
James O Jenkins
(a aned yng Ngorseinon) yw sylfaenydd A Fine Beginning a chydsylfaenydd Portrait Salon. Mae wedi arddangos ei waith yn Oriel y Ffotograffwyr, oriel Cymdeithas y Ffotograffwyr a Hotshoe Gallery. Mae James yn gweithio i amrywiaeth eang o gleientiaid a chyhoeddiadau. Yn 2012 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, United Kingdom, sy’n astudiaeth weledol o arferion blynyddol traddodiadol y DU, ac fe’i dangoswyd yn Llundain, Helsinki, Arles ac Efrog Newydd. Yn 2013 dangoswyd ei gyfres ‘United Kingdom’ yn y Northern Gallery for Contemporary Art, lle mae ar hyn o bryd hefyd yn dangos gwaith o angladd Thatcher yn yr arddangosfa ‘Show Me the Money: The Image of Finance’.
jamesojenkins.co.uk
Twitter: @jamesojenkins
Abbie Trayler-Smith
Mae Abbie Trayler-Smith (a aned yng Nghasnewydd) yn ffotograffydd portreadau a dogfennol, ac mae ei gwaith yn anad dim yn tynnu ar ymateb ac ymgysylltiad emosiynol gyda’i thestun. Wedi treulio wyth mlynedd gyda’r Daily Telegraph yn ymdrin â newyddion ac ysgrifau nodwedd o gwmpas y byd, gan gynnwys y rhyfel yn Irac a tswnami Asia, mae bellach yn teithio’n fyd-eang ar aseiniadau i amrywiaeth eang o gleientiaid ac yn mwynhau treulio’i hamser ar brosiectau hirdymor yn y DU. Arddangoswyd astudiaeth Abbie ar geiswyr lloches diymgeledd yn y DU, ‘Still Human Still Here’, yn oriel HOST foto8 yn Llundain yn 2009 ynghyd â’i ffilm fer amlgyfrwng gysylltiedig. Enillodd ei phortread o Chelsea o’r gyfres ‘The Big O’ y 4ydd safle yng Ngwobr Taylor Wessing yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn 2010. Ymunodd â Panos Pictures yn 2007 a daeth yn aelod o Panos Profile yn 2010.
abbietraylersmith.com
Twitter: @abbiets
Jack Latham
Mae Jack Latham (a aned yng Nghaerdydd) yn ffotograffydd Cymreig sy’n byw yn Brighton. Ac yntau wedi derbyn gradd BA Ffotograffiaeth Ddogfennol yn 2012 ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, mae ei waith yn canolbwyntio ar bynciau mwy cysyniadol ac fe’i cyflwynir yn aml ar ffurf ffotograffiaeth fformat mawr a llyfrau y mae wedi eu cyhoeddi ei hun. Cyhoeddwyd ei ffotograffau yn gyntaf yn y British Journal of Photography yn adran Proffil Myfyriwr 2012 y cyfnodolyn, a oedd yn rhoi sylw i dalent newydd o bob cwr i’r DU. Mae Jack wedi parhau i weithio yn y DU ac yn rhyngwladol, ac mae rhywfaint o’i waith mwyaf diweddar yn cael ei arddangos ar hyn o bryd yn Efrog Newydd. Yn ogystal â’i waith ei hun, mae hefyd yn cydguradu cyfres fisol o ddarlithoedd yn Brighton, ‘Miniclick’.
jacklatham.com
Twitter: @jacklatham
Gawain Barnard
Cwblhaodd Gawain Barnard (a aned yn y Rhondda) radd MFA Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, yn 2009. Mae ei waith a’i ymchwil ffotograffig wedi bod yn canolbwyntio’n bennaf ar yr amgylchedd a phobl o’i blentyndod. Trwy greu portreadau tawel o lencyndod ac arsylwadau manwl o’u hamgylchedd, mae Gawain yn llunio myfyrdodau newydd, ffres, am hen ranbarthau diwydiannol de Cymru. Mae ei waith wedi ei arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a chaiff ei gynrychioli gan Millennium Images.
gawainbarnard.com
Twitter: @gawainbarnard
Ffotograffwyr y mae eu gwaith wedi bod ar y blog afinebeginning.com
Sam Peat. Mae Sam Peat yn ffotograffydd llawrydd ac yn ddiweddar wedi derbyn gradd BA Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd. Cyhoeddwyd gwaith Sam yn rhifyn mis Gorffennaf y British Journal of Photography, ac mae’n gobeithio parhau i weithio ar brosiectau’n seiliedig ar aseiniadau ar gyfer cylchgronau a phapurau newydd, a phrosiectau ffotograffiaeth ddogfennol hirdymor. Yn ogystal â’r gwaith dogfennol, mae Sam hefyd yn gweithio fel Ffotograffydd Catrodol i Gorfflu Hyfforddi Swyddogion Cymru.
sampeat.co.uk
Twitter: @samjpeat
Dan Wood. Canfu Dan Wood, o Ben-y-bont ar Ogwr, ffotograffiaeth ym 1996 drwy sglefrfyrddio a’r diwylliant cysylltiedig. Er ei fod yn hyblyg ac yn hunanaddysgedig gan mwyaf, mae Dan yn ei ystyried ei hun yn ffotograffydd dogfennol, gan mai ei brif ddiddordeb yw dogfennu’r hyn sy’n digwydd o’i gwmpas yn y ffordd orau bosibl. Caiff Dan ysbrydoliaeth o ystod eang o bynciau, ac mae wedi teithio’n helaeth ar drywydd ffotograffau, gan gofnodi nifer fawr o ddiwylliannau a’i addysgu ei hun ar yr un pryd. “Rwyf bob amser yn ceisio creu delweddau sy’n llawn mynegiant, empathi, ac sy’n procio’r meddwl.” Mae gwaith Dan wedi ei gynnwys mewn llawer o gyhoeddiadau, ac mae wedi cymryd rhan mewn mwy na 35 o arddangosfeydd – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gan gynnwys tair sioe ar ei ben ei hun.
danwoodphoto.com
Twitter: @danwoodphoto
Ben Terzza. Mae Ben Terzza (a aned yn Nottingham ym 1989) yn mynychu Coleg Agored y Celfyddydau (y DU) ar hyn o bryd. Ar ôl cwblhau gradd BSc Gwyddoniaeth a theithio yn Ewrop mae wedi ei sefydlu ei hun gan ganolbwyntio ar ffotograffiaeth a gwaith dogfennol gweledol. Mae ei waith yn archwilio’r unigolion a’r gymdeithas o’i gwmpas; boed yn gyfeiriadau damcaniaethol, delweddau, cynnyrch / gwasanaethau, bwyd, y cyfryngau, a pherthnasoedd personol â’i amgylchedd. Mae Ben ar hyn o bryd yn gweithio ar ffilm ddogfen arbrofol am oes newydd y Gorllewin – America, ac mae’n byw yn y Fflint.
benterzza.com
Harry Rose. Mae Harry, sydd â diddordeb brwdfrydig mewn ffotograffiaeth tirweddau a sut mae hyn yn gysylltiedig â’r cof a’n tirweddau mewnol ein hunain, yn creu ei waith yn y DU. Wedi graddio o Brifysgol De Cymru (Casnewydd) yn 2014, mae Harry’n canolbwyntio’n bennaf ar weithio fel golygydd i Darwin Magazine. Sefydlwyd y cylchgrawn hunangyhoeddedig hwn gan Harry a Ryan Grimley yn 2012, ac mae’n rhoi llwyfan i ffotograffwyr ac ysgrifenwyr profiadol a newydd.
cargocollective.com/harryrose
Twitter: @harryrose22
Alicia Bruce. Mae ffotograffau Alicia Bruce wedi ennill sawl gwobr – maent wedi eu cyflwyno ar lwyfan ryngwladol ac wedi cael sawl preswyliad artist a bwrsariaeth. Mae ei delweddau wedi eu cynnwys yn y wasg genedlaethol, yn cynnwys The Times, The Scotsman, a STV News, ac maent yn cael eu cynrychioli mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys casgliad ffotograffiaeth Orielau Cenedlaethol yr Alban. Mae ei phortffolio masnachol yn cynnwys rhestr drawiadol o gleientiaid proffil uchel, yn cynnwys Orielau Cenedlaethol yr Alban a Cashback for Creativity.
aliciabruce.co.uk
Twitter: @picturemaking
Paul Cabuts. Mae Paul Cabuts, sy’n byw yn ne Cymru, yn gweithio ym maes datblygol ffotograffiaeth ddogfennol gyda gwaith sydd wedi ei seilio yng Nghymoedd y rhanbarth. Mae natur liwgar, deipolegol, ei waith yn dathlu arwyddion cyfoes o hanesion y rhanbarth sy’n llai blaenllaw yn ddiwylliannol, ac mae’n archwilio syniadau’n ymwneud â hunaniaeth a lle. Arddangoswyd ei waith mewn lleoliadau yn y DU a thu hwnt, yn cynnwys yr Australian Centre for Photography, Treffpunkt Stuttgart yn yr Almaen, a Gŵyl Ffotograffiaeth Exposure yn Henffordd. Mae’r agwedd Gymreig ar waith Paul Cabuts wedi cyfrannu at ei amlygrwydd cynyddol yng Nghymru mewn arddangosfeydd mewn nifer o leoliadau, yn cynnwys Ffotogallery, yr Eisteddfod Genedlaethol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r gwaith wedi ei gyhoeddi hefyd mewn catalogau, cyfnodolion a chyhoeddiadau eraill, yn cynnwys Source, New Welsh Review, Taliesin a Planet, ac wedi ymddangos ar y teledu – yng Nghymru a thu hwnt.
paulcabuts.com
Twitter: @paulcabuts
Lorna Evans. Mae Lorna Evans yn ffotograffydd dogfennol sy’n gweithio yn ne-ddwyrain a de-orllewin Cymru. Mae ei ffotograffiaeth a’i hymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar archwilio anifeiliaid, ein perthnasoedd â nhw, a’r byd naturiol. Derbyniodd Lorna radd MA a BA (Anrhydedd) mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Yn 2013 ymddangosodd ei gwaith yn Fresh Faced & Wild Eyed yn Oriel y Ffotograffwyr yn Llundain.
lornaevans.co.uk
Twitter: @lornarevans
James Morris. Mae James Morris yn ffotograffydd Prydeinig sy’n tynnu lluniau tirweddau a’r amgylchedd adeiledig. Câi ei adnabod yn gynharach yn ei yrfa yn bennaf am ei ffotograffau pensaernïol, ond dros y ddegawd ddiwethaf mae wedi bod yn edrych yn ehangach ar faterion yn ymwneud â thirweddau – o drefolaeth i wrthdaro ac anheddiad pobl. Mae ei waith yn dogfennu effaith ymyrraeth dyn ar y dirwedd a’r haenau o hanes sy’n amlwg yno. Yn 2003 cyhoeddodd Butabu (Princeton Architectural Press), sy’n cofnodi tirwedd ddiamddiffyn pensaernïaeth frodorol Gorllewin Affrica sydd dan fygythiad. Saith mlynedd ar ôl dychwelyd i fyw yn ei wlad enedigol, cyhoeddodd A Landscape of Wales (Dewi Lewis Publishing, 2010) a ddisgrifiwyd fel llythyr caru ac fel llyfr hynod felancolaidd. Mae ei waith yn cynnwys gwaith y mae’n mynd ati i’w wneud ar ei liwt ei hun a gwaith wedi ei gomisiynu – dros y blynyddoedd mae wedi darparu delweddau ar gyfer llawer o lyfrau ac erthyglau nodwedd mewn cylchgronau. Mae’n arddangos ei waith yn rhyngwladol ac wedi derbyn gwobrau gan Design and Art Directors Guild, Graham Foundation for Fine Arts, yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Chyngor Llyfrau Cymru. Cedwir ei waith mewn sawl casgliad, yn cynnwys casgliadau’r British Council, Museum for African Art yn Efrog Newydd, Prifysgol Princeton, Amgueddfa Fictoria ac Albert, Aga Khan Foundation, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
jamesmorris.info
Michelle Sank. Ganed Michelle Sank yn Cape Town, De Affrica. Ymadawodd ym 1978 ac mae wedi bod yn byw yn Lloegr ers 1987. Mae ei delweddau’n adlewyrchu myfyrdod ar y cyflwr dynol, ac oherwydd hyn gellir ystyried eu bod yn dogfennu cymdeithas. Mae ei gwaith yn cwmpasu materion yn ymwneud ag amrywiaeth cymdeithasol a diwylliannol.
Mae Michelle ar gael i ymgymryd â gwaith comisiwn a phreswyliadau yn y Deyrnas Unedig a thramor.
michellesank.com
John Wellings. Mae John Wellings yn ffotograffydd golygyddol, masnachol a phensaernïol sy’n gweithio ar hyn o bryd yn Abertawe. Ar ôl bod yn dilyn y cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd, aeth ymlaen i weithio fel golygydd lluniau llawrydd gyda’r Financial Times, gan barhau i weithio ar ei ffotograffiaeth ei hun. Mae John ar hyn o bryd yn mwynhau bywyd nad yw’n rhy brysur yn ne Cymru, sy’n cynnwys gweithgareddau awyr agored amrywiol ynghyd â’r amseroedd da cymdeithasol arferol a ganiateir gan gostau byw is, ac mae’n gweithio ar brosiectau ac aseiniadau personol ar gyfer cleientiaid golygyddol a masnachol.
johnwellings.com
Twitter: @john_wellings
Bandia Ribeira. Ganed Bandia Ribeira ym 1979 mewn tref fach ddiwydiannol yn Galicia, Sbaen. Ar ôl derbyn gradd Gwyddor Gwleidyddiaeth dechreuodd gwrs Meistr yn y Celfyddydau mewn Ffotonewyddiaduriaeth ym Mhrifysgol Barcelona. Mae wedi bod yn gweithio fel ffotograffydd y wasg gyda phapur newydd yn Galicia ac fel hwylusydd gweithdy ffotograffiaeth yn Barcelona, yn ogystal â bod yn gynorthwyydd i ffotograffydd (Agencia Lusa) ym Mhortiwgal yn 2011. Symudodd Bandia i’r DU yn 2012 i ddechrau gradd BA Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru.
Dyfarnwyd ysgoloriaeth iddi gan y Seminar on Photography and Journalism yn Albarracin, Sbaen, yn 2010 ac un o Wobrau Cyngor Dinas Barcelona. Derbyniodd ganmoliaeth yng nghystadleuaeth FotoVisura Spotlight Grant yn 2013 ac mae wedi arddangos ei gwaith mewn sawl lleoliad yn Sbaen, yr Almaen ac yng Nghymru.
Gareth Phillips. Ganed Gareth Phillips yng Nghaerdydd. Derbyniodd radd mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, ym mis Medi 2007. Yn 2007 fe’i derbyniwyd i’r Eddie Adams Workshop yn Efrog Newydd, ac yno fe enillodd y B & H Assignment Award yn gydnabyddiaeth o’i waith. Yn 2008, daeth Gareth yn ffotograffydd llawrydd a fe’i comisiynir yn rheolaidd gan y Guardian, The Sunday Times Magazine, Financial Times Magazine, Wall Street Journal a chylchgrawn Economia. Mae ei ffotograffau’n ymddangos hefyd yn Stern, British Journal of Photography, The Observer a The New Yorker Magazine. Mae gwaith Gareth wedi ei gydnabod yn rhyngwladol mewn arddangosfeydd a gwobrau, yn arbennig Gwobr Ian Parry 2007, Gwobr Welsh Livery Society am Ragoriaeth Ffotograffig 2007, Gwobrau Ffotograffiaeth Magenta 2008, a Chomisiwn Ffotograffig Open Cities y British Council 2010. Mae Gareth yn rhan o MJR Photographic Collective sydd wedi ei leoli yn Efrog Newydd, ac mae’n gweithio yn Llundain a Chaerdydd.
garethphillipsphotography.com
Twitter: @ga_phillips
Christoph Soeder. Mae Christoph Soeder ar hyn o bryd yn astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Mae ei waith comisiwn yn cynnwys portreadau, gwaith ar gyfer y wasg, atgynhyrchu paentiadau a ffurfiau print.
christophesoeder.com
Christina Williams. Ganed Christina Williams ym 1982 yng ngorllewin Cymru, bu’n byw yng Nghaerdydd o 2003 tan 2013, ac mae bellach yn byw ym Melbourne, Awstralia. Mae Christina wedi derbyn gradd MFA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol (Prifysgol Cymru, Casnewydd, 2012) a BA Cynhyrchu’r Cyfryngau (Prifysgol Morgannwg, Caerdydd, 2006).
cargocollective.com/christinawilliams
Hannah Saunders. Mae Hannah Saunders (a aned ym 1993) yn dilyn cwrs BA Anrhydedd mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd, ac mae’n un o sylfaenwyr Origin Collective.
cargocollective.com/hannahlouisesaunders
Twitter: @saundershannah
Brian David Stevens. Ffotograffydd sydd wedi’i leoli yn Llundain ydy Brian David Stevens (a aned ym 1970). Mae ei waith wedi cael ei arddangos a’i gyhoeddi’n fyd-eang.
briandavidstevens.com
Twitter: @driftingcamera
Chloe Dewe Mathews. Ar ôl derbyn gradd mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Rhydychen, bu Chloe’n gweithio yn y diwydiant ffilmiau hir am bedair blynedd. Er bod hyn yn gyffrous, yr oedd yn cwestiynu’r afradlondeb ac eisiau gweithio ar rywbeth tawelach, mwy economaidd, lle’r oedd cyfle i gael naturioldeb ac agosrwydd gyda’i phwnc. Er iddi ymroi i ffotograffiaeth, mae ei phynciau wedi bod yn amrywiol – o dorwyr beddau o Uzbekistan ar arfordir Môr Caspia, i Iddewon Hasidig ar eu gwyliau yng Nghymru. Yn 2010 bu’n ffawdheglu o Tsieina yn ôl i Brydain, a daeth hynny’n rhagchwiliad ar gyfer oes o waith. Yn ddiweddar dyfarnwyd BJP International Photography Award, y Julia Margaret Cameron New Talent Award, a Gwobr Flash Forward y Magenta Foundation i ffotograffydd sy’n dod i’r amlwg i Chloe. Yn 2011 daeth yn destun rhaglen ddogfen ar BBC Radio 4 o’r enw ‘Picturing Britain’, a oedd yn dilyn ei phrosiect hirdymor ar yr isddiwylliant rasio hen geir. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn Llundain, Berlin, Toronto a Buenos Aires, a’i gyhoeddi mewn cylchgronau gan gynnwys The New York Times, y Saturday Telegraph, The Sunday Times, Huck, IL yr Eidal, Dazed and Confused, a Harper’s Bazaar.
chloedewemathews.com
Twitter: @cdewemathews