Ffotograffydd o’r Alban sydd bellach yn byw yn Llundain yw Niall McDiarmid. Mae ei waith yn canolbwyntio yn bennaf ar ddogfennu pobl a thirweddau Prydain.
Treuliodd Niall y pum mlynedd diwethaf yn teithio ar hyd a lled Prydain yn creu portread cyfoes o’r wlad. Mae wedi tynnu ffotograffau o dros 1500 o bobl mewn mwy na 150 o drefi ar ei deithiau o Inverness yr holl ffordd i Gaerwysg.
Yn yr arddangosfa newydd hon, bydd Oriel Colwyn yn dangos mwy na 60 o ddelweddau o’r corff enfawr hwn o waith.
Mae Niall hefyd wedi dychwelyd i greu cyfres o bortreadau newydd mewn trefi ar hyd arfordir Gogledd Cymru, sy’n rhan unigryw o’r sioe.
“Dechreuodd y prosiect yn gynnar yn 2011 gyda’r bwriad o dynnu lluniau o bobl ddiddorol y gwnes i gyfarfod â nhw ar y stryd. Fodd bynnag, ar ôl ychydig fisoedd, dechreuais ganolbwyntio ar adeiladu corff o bortreadau a fyddai’n ddathliad o amrywiaeth Prydain, dogfen gymdeithasol o Brydain fodern. Es i ati i chwilio am bobl o wahanol gefndiroedd ac ethnigrwydd, ac roeddent yn aml yn gwisgo dillad a oedd yn eu gosod ar wahân”.

Battersea Rise, London - April 2014 © Niall McDiarmid
“Ym mhob un ohonom mae chwilfrydedd am y lleoedd rydyn ni’n byw, ein cefndiroedd diwylliannol, y dillad rydyn ni’n eu gwisgo, ein cysylltiadau teuluol - ein hunaniaeth gyfunol yn y pen draw.”

Lukee a Levii, Pen-y-bont ar Ogwr, 2014 © Niall McDiarmid
“Yn weledol, mewn ffilm neu ffotograffiaeth, mae Prydain yn aml wedi cael ei phortreadu mewn lliwiau tawel, bron yn undonog. Efallai mai’r tywydd sy’n rhannol gyfrifol am hyn, neu efallai mai dim ond rhagdybiaethau traddodiadol sy’n cael dylanwad. Mewn cyferbyniad, rydw i wedi dwyn ysbrydoliaeth o liwiau a phatrymau mwy bywiog yr wyf wedi dod ar eu traws ar bob stryd ym mhob tref yr wyf wedi ymweld â nhw. Maen nhw wedi siapio fy nulliau arddull, sy’n aml yn cysylltu dillad y gwrthrych â’r hyn sydd o’u cwmpas, gan eu gweu i mewn i’r olygfa y maent yn ei meddiannu.”

English Street, Caerliwelydd - Hydref 2015 © Niall McDiarmid

Parade, Leamington Spa, Swydd Warwig - Mehefin 2015 © Niall McDiarmid

Gallery Square, Walsall - May 2012 © Niall McDiarmid
Niall McDiarmid:
Gellir dod o hyd i Niall ar Facebook a Twitter
Gwefan: www.niallmcdiarmid.com