Pariament of Owls

Jack Latham

1 Hydref, 2020 - 28 Chwefror, 2021

Date(s)
01/10/2020 - 28/02/2021
Cyswllt
Jack Latham
Disgrifiad
2

Parliament of Owls - Jack Latham

Yn swatio yng nghoedwigoedd cochwydd Monte Rio, gogledd California, eistedda Bohemian Grove, encil 2,700 erw sy’n eiddo i’r clwb dynion egsgliwsif San Francisco Bohemian Club, a sefydlwyd ym 1872.

Bob haf, mae elit gwleidyddol a busnes yr UDA yn mynychu’r encil. Dan len o ddirgelwch, mae gweithgareddau’r gelli wedi dod yn destun damcaniaethau cynllwyn a sïon diri.

Yn  Parliament of Owls, mae Jack Latham yn ymchwilio i gyfrinachedd y clwb a’r effeithiau gwleidyddol ehangach a achoswyd gan hyn.

Beth sy’n digwydd pan fod prif lunwyr deddfau, gwleidyddion, artistiaid, cyfreithwyr a dynion busnes yn cwrdd tu ôl i ddrysau caeedig? Pa gyfrinachau sy’n cael eu cyfnewid, pa gynlluniau sy’n cael eu creu? Ers blynyddoedd, dyma’r cwestiynau sydd wedi bod wrth wraidd y grwpiau protest a’r gwleidyddion sy’n gobeithio datgelu’r gwir.

Mae Latham yn mynd â’r gwyliwr ar daith o ddarganfyddiad, gan dynnu sylw at y dref sy’n amgylchynu Bohemian Grove (cadarnle gwledig y clwb) a’i phobl.

3
Y Prif Lwyfan yn Theatr Mitchell Brothers O'Farrell, San Francisco ©Jack Latham

Mae ei ffotograffau hefyd yn darlunio esgyniad Alex Jones – damcaniaethwr cynllwynion a sylfaenydd InfoWars – a sut y daeth yn enw cyfarwydd ymhlith y criw gwrthsefydliadol ar ôl torri i mewn i’r Grove yn 2000.

Mewn ymgais i ‘ddadorchuddio’r drefn fyd-eang newydd’, rhyddhaodd Jones ddelweddau a berodd ddychryn o "Cremation of Care” y clwb, Seremoni theatraidd lle mae corffddelw o ‘ofalon bydol’ yr aelodau’n cael ei losgi.

4
Phantom Patriot, Nevada, 2018 @Jack Latham.
Phantom Patriot oedd yr enw a gymerwyd gan Richard McCaslin o Carson City, Nevada, pan geisiodd ymosod ar Bohemian Grove ar 19 Ionawr, 2020, ar ôl gwylio rhaglen ddogfen Alex Jones.  Cafodd ei garcharu am 8 mlynedd yng Nghaliffornia.  Mae bellach yn byw yn  Nevada ac mae ganddo ganolfan uwch arwr yn ei ardd gefn y mae’n cyfeirio ato fel y ‘Protectorate Outpost’

Y tu hwnt i ysbrydoli ymosodiad bisâr ar Bohemian Grove gan warchodwr dan fwgwd yn galw ei hin yn Phantom Patriot yn 2002, roedd rhyddhau’r lluniau fideo, a osodwyd o fewn cyd-destun o ddychryn, yn ganolog i gynyddu proffil Jones fel gweithredwr asgell dde eithafol a roddodd lwyfan wedi hynny i Infowars fod yn ffynhonnell newyddion ffug a fu’n ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth ddiweddar yr UDA.

Yn ‘Parliament of Owls’, mae Jack Latham yn ymchwilio i’r effeithiau y gall gwagle gwybodaeth ei achosi.

Dim ond cipolwg mae’r gyfres yn ei rhoi i mewn i Bohemian Grove, sydd ei hun yn tanio'r dirgelwch. Wedi’i saethu’n llwyr mewn du a gwyn, mae’r gyfres yn cynnig golygfa o lwybr troellog y clwb, neu ffotograff a gymerwyd o bersbectif rhywun yn cuddio yn y coed. Mae’r delweddau’n ddirgel; nid ydynt yn cynnig atebion o ran eu hunain, ac felly'n wagle o gyd destun o ran eu hunain.

5
Monte Rio Cinema ©Jack Latham

Mae  Jack Latham  (a anwyd yng Nghaerdydd, 1989) yn ffotograffydd Cymreig wedi’i leoli yn y DU. Mae ei weithiau’n canolbwyntio’n bennaf at agweddau o adrodd hanesion ledled cymdeithas.  Mae gweithiau blaenorol, gan gynnwys A Pink Flamingo (2015) a  Sugar Paper Theories (2016) wedi ymddangos mewn nifer o sioeau unigol gan gynnwys Amgueddfa Ffotograffiaeth Reykjavik, Oriel TJ Boulting a'r Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol. Mae prosiectau Latham hefyd wedi mynd yn eu blaenau i ennill gwobrau lluosog gan gynnwys gwobr Bar-Tur Photobook  (2015), Gwobr Image Vevey - Heidi.News  (2019).

Parliament of Owls oedd enillydd Gwobr Ffotograffiaeth Ryngwladol BJP  yn 2019.

www.jacklatham.com

Taith Arddangosfa Rithwir

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp