Mae Pier Closing Time yn dangos taith Michael Bennett mewn ffotograffau drwy Ogledd Cymru ym 1979. Mae’n hiraethu am fyd coll, yn llawn eironi, ac yn bortread chwerw-felys o drefi gwyliau glan y môr yn eu prysurdeb a'u tawelwch.
Ym 1979, roedd Oriel Mostyn, Llandudno ar fin ailagor ar ôl degawdau o fod ar gau.Comisiynodd y cyfarwyddwr, oedd yn newydd yn ei swydd, brosiect o ffotograffau gan y ffotograffydd Michael Bennett, gyda’r bwriad o ddal awyrgylch trefi gwyliau glan y môr Gogledd Cymru yn y gaeaf.
Trefnwyd arddangosfa yn fuan ar ôl adnewyddu ac ailagor yr oriel, a’r teitl arni oedd Anatomy of Melancholy
Ond aeth pethau o’i le.
Yn fuan ar ôl cychwyn ar y ffotograffiaeth, ymddiswyddodd Hugh Adams, a daeth Clive Adams (dim perthynas) yn ei le.
Pan gyflwynodd Michael y prosiect, fe’i siomwyd gan ymateb negyddol yr oriel i’w luniau.
“Roedd comisiynydd yr oriel yn sicr wedi disgwyl delwedd ramantaidd o’r arfordir,” meddai. “I mi, ni fyddai hyn wedi bod yn onest- teimlais fod angen dangos pethau fel yr oedden nhw.”
Ateb y cyfarwyddwr artistig newydd oedd comisiynu gwaith yn yr un llefydd yn yr haf, gan obeithio y byddai’r sioe yn fwy bywiog.
Yn yr haf, daeth mwy o bobl i’r trefi ond doedd dim newid mawr yn y cymeriad.
Gofynnodd Adams i ffotograffwyr amaturaidd arddangos eu gwaith ochr yn ochr â gwaith Bennett, gan ei fod yn ofni y byddai’r arddangosfa’n fethiant, ac er mwyn lleddfu rhywfaint ar y besimistiaeth a welai. Cafodd ei hail-enwi yn The Road to Barmouth, ac agorodd yr arddangosfa ym 1980. Digon cas oedd yr adolygiadau yn y papur newydd, a phan gaewyd yr arddangosfa, anghofiwyd amdani am bron i 40 mlynedd.
ADFER A CHYHOEDDI’N LLAWN AM Y TRO CYNTAF
Byddai’r prosiect wedi aros o’r golwg am byth oni bai am Val Williams a Karen Shepherdson, curadwyr Seaside Photographed, arddangosfa a welwyd am y tro cyntaf yn Amgueddfa Fodern Turner, Margate yn 2019. Ar ôl cais cyhoeddus am gyfraniadau, anfonodd Bennett y lluniau o brosiect Gogledd Cymru.
Dewiswyd deg o luniau a’u dangos fel rhan o’r sioe luniau gyntaf yn Amgueddfa Turner, a chawsant eu cynnwys yn y llyfr oedd yn cyd-fynd â’r arddangosfa, Thames & Hudson, gyda gwaith gan Jane Bown, Martin Parr a Henri Cartier-Bresson.
Cafodd ffilm y lluniau gwreiddiol eu digideiddio, eu hadfer a chreu copïau meistr newydd ar gyfer y llyfr hwn.
Ar ôl diddordeb o’r newydd, ar ddiwedd 2020, cyhoeddwyd y prosiect mewn llyfr arbennig am y tro cyntaf. Mae nifer o luniau nas gwelwyd o’r blaen. Gwerthodd y cyhoeddiad cyfyngedig cyntaf gyda llofnod arno, mewn amrantiad. Roedd ail gyhoeddiad wedi ei lofnodi ar gael ar 20fed Ionawr 2020. Mae’r llyfr ar ei 5ed argraffiad bellach a gellir ei brynu gan Cow On The Roof Press HERE
HANES Y FFOTOGRAFFYDD
Fe’i addysgodd ei hunan mewn ffotograffiaeth, ac ym 1976 creodd Bennett brosiect personol yn cofnodi hanes ei deulu ei hun ac fe’i gwelwyd gyntaf yn yr Impressions Gallery of Photography, yn Efrog. Aeth The Family ar daith o amgylch Lloegr, ac fe’i gwelwyd yn yr Institute of Contemporary Art, Llundain ac yna’i droi yn ffilm BBC Arena.
Cafodd Amgueddfa Victoria & Albert a Chyngor Celfyddydau Prydain waith o The Family i’w roi yn eu casgliadau parhaol.
Mae wedi gweithio i The Times, The Independent, The Sunday Times, BBC, The Financial Times, BBC World Service, New Society a The New Statesman, a bu ganddo gyswllt hir gyda’r cylchgrawn dychanol Private Eye.
Mae nifer o bortreadau Bennett o bobl amlwg ym Mhrydain a gomisiynwyd gan The Independent, yn National Portrait Gallery, Llundain.
Cafodd Amgueddfa Victoria & Albert yn Llundain y prosiect Family cyfan, gan ychwanegu at gasgliad y V&A o waith Bennett, sy’n cynnwys lluniau eraill (Platelayer on Holyhead main line, 1979) o'r prosiect Cymreig a welir yn Pier Closing Time.