Browser does not support script.
Mike Jones
20 Mai, 2013 - 30 Mai, 2013
20/05/2013 00:00:00
Mae Mike Jones yn fyfyriwr ffotograffiaeth HND blwyddyn olaf sy’n astudio yng Ngholeg Llandrillo. Mae Oriel Colwyn yn falch o gefnogi adran ffotograffiaeth y coleg a chynnig gofod arddangos ar gyfer sioe blwyddyn olaf Mike.
Mae deinamigrwydd Mike yn bwydo i’w ddull tuag at ffotograffiaeth, chwaraeon a phopeth arall mae’n wneud. Llandudno yw ei arena a dyma ble mae’n treulio mwyafrif o’i amser yn dogfennu ffordd o fyw na gysylltir yn aml gyda’r boblogaeth hŷn sy’n llethu’r ardal.
Bron i’r gwrthwyneb, mae Mike a’i ffrindiau yn chwilio am bethau i’w gwneud y byddai mwyafrif o bobl yn eu hystyried yn wirion.
Sglefrio dros reiliau dwylo, neidio oddi ar adeiladau uchel; gweithgareddau a gysylltir yn gyffredinol gyda chlipiau fideo ar y rhyngrwyd a bydoedd eraill!
A yw’n syndod bod Mike yn treulio ychydig o’i amser yn ei barlwr tatŵ lleol. Ond, dewisodd dynnu lluniau o’r siop, y cwsmeriaid a’r gelfyddyd a gyflawnir gan Hef y tatŵist. Cafodd y corff o waith ei greu mewn i lyfr sydd bellach yn cael ei arddangos yn falch yn y parlwr.
Cyfuniad o’r ddau brosiect yma sy’n cael eu harddangos yn Oriel Colwyn.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.