Port Talbot UFO Investigation Club

Roo Lewis

29 Mawrth, 2025 - 10 Mai, 2025

Date(s)
29/03/2025 - 10/05/2025
Cyswllt
Roo Lewis
Disgrifiad
cover

Dros gyfnod o ddwy flynedd mae Roo Lewis wedi bod yn tynnu lluniau o dref Port Talbot sydd, yn ôl yr actor Michael Sheen, wedi gweld nifer o wrthrychau hedegog anhysbys neu UFOs.  Fodd bynnag, nid yw’r llyfr sy’n deillio o hynny, Port Talbot UFO Investigation Club, yn astudiaeth o weld UFOs, ond yn hytrach mae’n defnyddio’r ffenomena fel man cychwyn i archwilio’r bobl, y tirlun a llên gwerin y dref. 

1

Magwyd fy nhaid, Cymro balch, yn Sir Benfro.  Wrth ymweld, byddem yn mynd i’r Gorllewin ar y draffordd gan fynd heibio Port Talbot ar y ffordd.  Roedd fy mrawd a minnau yn pwyso ein trwynau yn erbyn y ffenestr gan syllu ar y strwythurau a oedd yn debyg i orsafoedd gofod, y gwyddom nawr fel Ffwrnais Chwyth 4 a 5.  Mae straeon tafarndai ym Mhort Talbot yn dangos ysbrydoliaeth Ridley Scott ar gyfer golygfa agoriadol Blade Runner — y gwaith dur yn ‘goleuo’ gyda’r nos gan fwrw allan fflamau anferthol i’r cymylau — nenlinell hyfryd ar dân.  Mae’n dir gwyllt gyda chalon wyllt ac mae pawb yn cerdded o gwmpas fel pe bai’n normal. 

2

“Mae mawrion cerddorol, sêr teledu, gwyddonwyr, gweithwyr proffesiynol yn y byd chwaraeon ac actorion Hollywood yn cynnwys Richard Burton, Antony Hopkins a Michael Sheen — sy’n honni bod Port Talbot yn ganolbwynt ar gyfer gweld UFOs — i gyd yn hanu o’r dref.  Roeddwn i’n meddwl beth oedd am y lle hwn a oedd yn cynhyrchu cymaint o eiconau a pham oedd estroniaid eisiau ymweld ag ef mor aml?  

Mae hyd a lledrith yn perthyn i’r dref hon — rhamant yn yr hanes, y bobl, y rhythm a’r llên gwerin.  Wrth dyfu i fyny cafodd Richard Burton ei alltudio o’i gartref wrth ymarfer ei dafluniad (digwyddiad a oedd yn rhy uchel i dŷ bach) felly yn hytrach byddai’n mynd allan i’r awyr agored ac yn seinio ar draws y cymoedd.  Maen nhw’n dweud y gallwch chi glywed ei lais yn treiglo o gwmpas y mynyddoedd o hyd. 

3

“Mae fy ymchwiliad wedi ymwneud â grym y Cymry a’r cymhelliant i lwyddo.  Grym gobaith — rydym ni i gyd yn y gwter, ond mae rhai ohonom yn edrych ar y sêr.  Ydi’r goleuadau yn yr awyr yn cynrychioli gobaith? 

“Nid yw’r monograff hwn yn astudiaeth mewn gweld UFOs, yn hytrach, dyma’r cerbyd yr wyf yn ei ddefnyddio i adrodd straeon cadarnhaol am y rhyfeddol a’r bendigedig — y rhai sy’n ein hatgoffa ni o beth mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Mae’n ymwneud â breuddwydio.  Mae’n ymwneud â bod ar goll a chael eich canfod i gyd ar yr un pryd. 

4

“Roedd fy nhad yn arfer dweud, mae’n bwysig beirniadu rhywbeth am yr hyn ydyw — nid yr hyn nad ydyw.  Mae Port Talbot yn wlad breuddwydion — mae’r dref yn troi o amgylch y gwaith dur fel dodrefn ystafell fyw yn pwyntio ar y set deledu.  Ond o fewn ychydig funudau ar droed, gallwch fynd o gopa mynydd dros dwyni tywod i’r traeth hiraf yng Nghymru.  Bob haf mae’r môr yn tywynnu arlliw glas fflworoleuol o blancton sy’n ymweld.  I gyd o dan lygaid barcud un o’r gweithiau dur integredig mwyaf yn y byd.  Mae’r stori ddynol dal i fod yn fyw — mae yn yr aer, yn y calonnau ac yn llythrennol wedi’i gerfio yn y tirlun gyda metel troellog yn pwyntio tua’r awyr.  Os ydych yn edrych y ffordd arall efallai byddwch yn gweld rhywbeth anhygoel. 

The Mae’r prosiect yn llythyr serch at dref hyfryd Port Talbot ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i arddangos y gwaith yn Oriel Colwyn. 

Bendith Duw ar Bort Talbot a bendith Duw ar Gymru hardd. “

– Roo Lewis

5

Port Talbot UFO Investigation Club – Cyhoeddwyd gan GOST Books (2023)

Mae lluniau o’r llyfr wedi cael eu harddangos yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain a’r Academi Frenhinol, Llundain. 

6

Mae’r prosiect wedi ei gynnwys gan y BBC, The Guardian, Dazed & Confused, AnOther Magazine a llawer mwy.  

7

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp