Browser does not support script.
Amrywiol
9 Ionawr, 2015 - 9 Chwefror, 2015
09/01/2015 00:00:00
Mae Oriel Colwyn yn falch o groesawu Portrait Salon i Gymru ym mis Ionawr 2015.
Mae Portrait Salon bellach yn ei bedwaredd flwyddyn. Am y tro cyntaf, byddant yn arddangos printiau sydd wedi'u cyflwyno a’u gwrthod gan Wobr Portreadau Ffotograffig Oriel Bortreadau Genedlaethol Taylor Wessing, mewn arddangosfa a fydd yn teithio'r DU.
Wrth lansio eu cyhoeddiad newydd a’u harddangosfa brintiau ar 6 Tachwedd yn Four Corners (Llundain), bydd yr arddangosfa brintiau yn teithio i’r lleoliadau canlynol:
Bu i ddetholwyr eleni, Christiane Monarchi (golygydd Photomonitor), Emma Taylor (Creative Advice Network) a’r ffotograffydd Martin Usbourne (Hoxton Mini Press) ddewis 70 portread o 1,184 o geisiadau.
Sefydlwyd Portrait Salon gan Carole Evans a James O Jenkins yn 2011 fel ymateb i Wobr Portreadau Taylor Wessing. Math o Salon des Refusés – arddangosfa o weithiau a wrthodwyd o sioe gelf rheithgor – a’i nod yw arddangos y gorau o’r delweddau a wrthodwyd o’r wobr, a drefnir yn flynyddol gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol. NPG Taylor Wessing Portrait Prize yn un o wobrau ffotograffiaeth mwyaf mawreddog y byd, sy’n denu ymgeiswyr o blith gweithwyr proffesiynol ac amaturiaid fel ei gilydd. Eleni cyflwynwyd 4,193 o ddelweddau i’r wobr gan 1,793 o ffotograffwyr, a dewiswyd 60 i fod yn yr arddangosfa.
Nod Portrait Salon yw ceisio dangos y gorau o’r gweddill ar ffurf Salon des Refusés, traddodiad ymylol sydd â hanes hir o arddangos gwaith artistiaid a allai fynd heb ei weld fel arall..
Fyddai Portrait Salon ddim yn bod heb gefnogaeth ei noddwyr, sydd eleni’n cynnwys METRO Imaging // Stanley’s Post // Lucid // HERO // Williamson Carson Ltd // Gripvan // Locate Productions // Creative Advice Network
Mae’n anrhydedd i Oriel Colwyn fod yn cynnal cymal Cymreig y daith brintiau genedlaethol hon ac edrychwn ymlaen at groesawu’r gwaith i Gymru.
© Tom Keen
© Marcin T Jocefiak
© Sophie Green
© Francesca Jones
© Dougie Wallace
© James Hobson
© Leonara Saunders
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.