Browser does not support script.
Amrywiol
14 Mehefin, 2022 - 12 Gorffennaf, 2022
14/06/2022 00:00:00
Mae cystadleuaeth Ffotograffydd Dogfennol y Flwyddyn gan Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn gystadleuaeth ryngwladol sy’n denu storïwyr gweledol eithriadol o bob cwr o’r byd. Mae ffotograffiaeth ddogfennol yn gyfrwng unigryw sydd yn cyfleu’r cyflwr dynol trwy eiliad mewn amser. Meddai Cadeirydd y Grŵp Dogfennol: “Nod cystadleuaeth eleni yw bod yn fwy cynhwysol er mwyn cyrraedd mwy o bobl a’i wneud yn fwy perthnasol. Credaf ein bod wedi cyflawni hynny a ninnau gyda dros 3500 o luniau o bob cwr o’r byd a phanel rhyngwladol o feirniaid.”
Er mai Pandemig Covid-19 sy’n cael ei weld fel digwyddiad mwyaf ein cyfnod mae’n bwysig adrodd straeon eraill hefyd. Mae’r gystadleuaeth yn cydnabod a dathlu gwaith y ffotograffwyr sydd wedi defnyddio ymagwedd bersonol unigryw i ddogfennu achosion cymdeithasol, meddygol, gwleidyddol ac amgylcheddol sy’n effeithio cymunedau ac unigolion.
Meddai’r Barnwr Roy Mehta, "Y peth cyntaf wnaeth fy nharo oedd y lefel o ymrwymiad amlwg gan yr artistiaid buddugol…. Mae David Collyer yn cynnig ffotonewyddiaduriaeth o reng flaen y GIG yn ystod y don gyntaf o Covid.”
©DAVID COLLYER
"... Mae gwaith Debsuddah Banerjee’s a dynnwyd yn India yn edrych ar drafferthion seicolegol a wynebai ei fodryb hŷn ddi-briod sy’n arwain bywydau ynysig yn gymdeithasol ac yn wynebu rhagfarn oherwydd lliw eu croen.”
©DEBSUDDH BANERJEE
Aishwarya Arumbakkan yw enillydd cyntaf y Categori Myfyrwyr am ei gwaith ‘Ka Dingiei’. Lansiwyd y categori hwn eleni er mwyn annog ein cenhedlaeth nesaf o ffotograffwyr.
©AISHWARYA ARUMBAKKAN
Mae’r arddangosfa ar daith yn cynnwys detholiad o waith gan ffotograffwyr buddugol a ffotograffwyr a ddaeth yn ail ac mae’r gwaith i’w weld yn Oriel Colwyn o ddydd Mawrth, 14 Mehefin i ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.
Fel yr arfer gellir mwynhau’r arddangosfa am ddim.
DYDD SADWRN, 18 MEHEFIN - (6pm-9.30pm)
I dynnu sylw at yr arddangosfa a’r gwaith ffotograffiaeth ddogfennol yn gyffredinol byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad arbennig - un yn wythnos agoriadol yr arddangosfa ac un yn ystod yr wythnos olaf.
DYDD SADWRN 18 MEHEFIN
Rydym yn falch o drefnu noson sy’n arddangos dewis amrywiol o waith y ffotograffwyr buddugol a gwaith ffotograffwyr a gafodd eu canmol yn ogystal â sgwrs gan y ffotograffwyr am eu gwaith. Bydd pob ffotograffydd yn siarad am 10 munud gyda sesiwn holi ac ateb am 10 munud wedi hynny.
Cyflwyniad gan Harry Hall (Grŵp Dogfennol Cymdeithas Ffotograffig Frenhinol)
Siaradwr 1 - David Collyer (mewn person) - 6.00pm - 6.20pm
Siaradwr 2 - Debsuddha Banerjee (zoom yn fyw o India) - 6.20pm - 6.40pm
Siaradwr 3 - Hari Katragadda (zoom yn fyw o India) - 6.40pm - 7pm
Cyfle i edrych ar yr arddangosfa/ cymdeithasu - 7pm - 7.30pm
Siaradwr 4 - Alexander Komenda (zoom yn fyw o’r Ffindir) - 7.30pm - 7.50pm
Siaradwr 5 - Stefano Sbrulli (zoom neu yno mewn person - i’w gadarnhau) - 7.50pm - 8.10pm
Siaradwr 6 - Neil Johansson - (mewn person) - 8.10pm - 8.30pm
Siaradwr 7 - Gareth Jenkins - (mewn person) - 8.30pm - 8.50pm
Cyfle i edrych ar yr arddangosfa/ cymdeithasu - 8.50pm - 9.30pm
Digwyddiad yn dod i ben am 9.30pm
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.