Mae Gwobrau Ffotograffiaeth Ddogfennol y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol yn ddigwyddiad rhyngwladol sy’n denu ymgeiswyr dogfennol a storïwyr gweledol ar draws y byd.
Mae 9 prosiect i gyd yn cael eu harddangos, gyda 3 prosiect o’r categorïau Aelodau, Myfyrwyr ac Agored. Mae’r fformat hwn yn ein galluogi i ddangos gwaith dogfennu hir gan ein haelodau o’r Gymdeithas, a gwaith myfyrwyr ffotograffiaeth, yn ogystal â gwaith ffotograffwyr mwy profiadol yn y categori agored.
Mae’r prosiectau a ddewiswyd yn amrywiol; yn amrywio o effaith gwrthdaro a rhyfel, mudo, myfyrdod ar hanes ac atgofion, perfformiad, heneiddio, iechyd meddwl a phlentyndod. Maen nhw’n rhoi cipolwg o’r ystod y gellir ei ddehongli mewn dogfennaeth a sut y gellir ei ddefnyddio i adrodd straeon.
Y Gwobrau a’r ffotograffwyr sy’n arddangos yw:
Categori Myfyrwyr: Julian Cabral, Sefa Eyol a Tamsyn Warde

On These Magic Shores, ©Tamsyn Warde
Categori’r Aelodau: Michael Knapstein, Ruth Toda-Nation a Brian Morgan

Late For Church, Murdo, South Dakota, USA ©Michael Knapstein
Y Categori Agored: Byron Smith, Gerard Saitner ac Alisa Martynova

Sunday mass in a church that was once situated on the front line and subsequently sustained damage from Russian shelling. June, 2022. ©Byron Smith
Eleni, roedd ein panel rhyngwladol oedd yn dewis yn cynnwys:
- Alejandro Chaskielberg, ffotograffydd a churadur, Buenos Aires
- Liz Hingley, ffotograffydd, curadur ac anthropolegwr, Llundain
- Roy Mehta, ffotograffydd a darlithydd, Llundain
- Rosy Santella, golygydd lluniau, Internazionale, Rhufain
- Roger Tooth, cyn bennaeth ffotograffiaeth, The Guardian
Bydd yr arddangosfa deithiol sy’n dangos detholiad o waith yr ymgeiswyr llwyddiannus yn Oriel Colwyn o 3 i 30 Awst.
