Shifting Sands

Stephen Clarke

22 Rhagfyr, 2012 - 15 Mawrth, 2013

Date(s)
22/12/2012 - 15/03/2013
Cyswllt
Stephen Clarke
Disgrifiad
SS Cover

Mae ffyniant Y Rhyl fel pe bai’n codi a gostwng fel y tonnau ar ei thraeth.  Mae’r lle hwn a fu unwaith yn fywiog nawr fel cynifer o drefi glan môr Fictoraidd un ai yn wynebu dirywiad neu’n trawsnewid. Mae ffotograffau a chyfosodiadau o ffotograffau Stephen Clarke yn darlunio’r newidiadau hyn.

SS3

Mae ffotograffau du a gwyn melancolaidd yn darlunio safleoedd sydd bellach wedi mynd fel ffair ‘Ocean Beach’ a theatr y ‘Coliseum’, tra bod y cyfosodiadau o ffotograffau lliw digidol yn ymestyn dros destun a lluniau o gardiau post o wahanol gyfnodau yn hanes y dref glan môr.

SS Cover

Mae casgliad Stephen Clarke, sydd â lluniau teuluol, ffilmiau sine a chardiau post yn ganolbwynt iddo, wedi llywio’r modd y mae’n dogfennu’r dref. Mae’r arddangosfa hon yn darparu topograffeg o’r dref a hefyd y teulu a ymwelodd â’r dref glan môr.

SS2
Adolygiad gan Dr Emma Roberts

‘Shifting Sands.  Ffotograffiaeth gan Stephen Clarke’, Oriel Colwyn, Bae Colwyn.  Rhagfyr 22 2012 - Mawrth 15 2013

Wedi ei lleoli yn y theatr hynaf yng Nghymru - Theatr Colwyn ym Mae Colwyn - yn baradocsaidd mae un o’r orielau diweddaraf sef Oriel Colwyn.  Mae’r lleoliad hwn yn dangos gwaith ffotograffig ac ar hyn o bryd mae’n arddangos ‘Shifting Sands.  Ffotograffiaeth gan Stephen Clarke.’

Testun Clarke yw tref glan môr Y Rhyl sydd gerllaw a oedd unwaith yn gyrchfan ffyniannus i ymwelwyr a ddeuai yma ar eu gwyliau yn Oes Fictoria.  Dros sawl degawd, a gyda chyfryngau gwahanol, mae Clarke wedi dogfennu ffawd y dref a thirnodau byrhoedlog ac mae’r arddangosfa hon yn integreiddio ei brosiectau amrywiol fel bod gwylwyr yn profi dehongliad o’r dref glan môr sy’n gymhleth ac wedi ei ystyried yn hir.  Mae’r Rhyl fel arfer yn destun beirniadaeth. Fodd bynnag mae Clarke yn dangos tosturi a pharch tuag at y dref ac yn cyfeirio’r gwyliwr yn hudolus i gydnabod ac yna cofleidio pwysigrwydd y gyrchfan hon i’w phreswylwyr ac ymwelwyr.

Gan ddefnyddio hen gardiau post o archif ei deulu, fe greodd Clarke y gweithiau mwy a lliwgar yn yr arddangosfa - cyfosodiadau o ffotograffau sy’n llawn afiaith, arlliw a dwyster. O dan y rhain ac yn gweithredu fel gwrthbwyntiau tawel mae ei ffotograffau llai du a gwyn sy’n arsylwi’n awyddus.  Yn un o gorneli’r ystafell mae sgrin yn trosglwyddo pytiau o sgyrsiau sy’n darparu gwead ychwanegol i’r profiad o weld y gwaith celf, a chynyddu’r synnwyr fod gofyn i’r gwyliwr ddehongli sawl haen o wybodaeth ac ystyr er mwyn i’r arwyddocâd llawn ddod yn eglur.

Yn wir dim ond o edrych arni’n arwynebol y mae thema syml i’r arddangosfa hon.  Wrth archwilio’r gweithiau’n fwy ystyriol caiff cyfoeth eu hystyron niferus ei ddatgelu.  Fel tywod symudol Y Rhyl, ac fel yn nheitl yr arddangosfa, yn raddol daw ystyron i’r golwg a byddant yn newid o edrych ar yr arddangosfa sawl tro.  Er enghraifft er fod pob ffotograff neu gyfosodiad o ffotograffau yn bodoli fel lluniau ar wahân a chymhleth, bydd eu hastudio ac edrych arnynt fwy nac unwaith yn datgelu themâu newydd ac arwyddion doniol.  Ymhen ychydig fe ddaw’n eglur fod trefn y cyfosodiadau mawr o ffotograffau yn gwbl benodol a gall arwain y gwyliwr ar daith hiraethus os yw’n barod i dderbyn hynny.  O fewn pob llun mae yna wrthrych a fydd yn cael ei ailadrodd rywle o fewn yr un sy’n dilyn.  Caiff y broses ei hailadrodd gyda phob gwaith: fe gyflwynir un gwrthrych a bydd yn cysylltu â’r nesaf a bydd un arall o fewn y llun hefyd yn cyfeirio at y gwaith blaenorol.   Mewn un enghraifft gellir gweld eliffant pinc reid yn ffair Y Rhyl mewn dimensiynau llai yn y cyfosodiad nesaf o ffotograffau.

Wrth chwilio am y cliwiau sydd o ganlyniad yn ffurfio naratif, caiff rhywun ei arwain i ddod yn ymwybodol o’r harddwch anghonfensiynol o fewn y golygfeydd a ddarlunnir.  Mae un cyfosodiad o ffotograffau yn darlunio stryd gyda rhes o geir o’r 1960au mewn lliwiau sydd mor fyw nes eu bod i’r llygaid cyfoes yn ymddangos fel pe baent wedi eu haddasu. Ond na roedd y lliwiau hyn, sydd fel hufen iâ o Napoli, yn bodoli yn y dyddiau cyn y dylai pob car yn ddelfrydol fod yn arian.  Yn yr un llun mae adeilad concrid o’r 1960au, a fyddai fel arfer yn cael ei ystyried yn adeilad hyll, yn rhyfedd iawn yn cyd-fynd â’i amgylchedd gan fod lliw brown golau ei banel ffenestr finyl yn cael ei ailadrodd yn y fan Transporter VW gerllaw, fan sydd bellach yn ffasiynol.

O dan bob cyfosodiad o ffotograffau mae’r lluniau du a gwyn yn cyflawni tasgau ingol tebyg ond yn defnyddio dulliau gwahanol, mwy cynnil: er enghraifft mewn un caiff  hysbyslen yn cynnwys teigr bywiog mewn ffair ei osod ochr yn ochr ag arwydd parchus ‘Dim cerdded gyda chŵn’.

I gloi daw emosiynau chwerw felys yn sgil y don o nostalgia a gaiff ei sbarduno gan y lluniau a gasglwyd.  Dyma sut yr anogir y gwyliwr i edrych ar amgylchedd Y Rhyl, a gaiff ei ddifrïo’n aml, a’i werthfawrogi.  Mae Stephen Clarke yn ein hudo ni gyda’r golygfeydd hynod ac anghofiedig fel ein bod yn gadael yr arddangosfa yn dyheu am yr hyn yr oeddem cyn hynny yn ei ddifrïo. - Dr Emma Roberts.

SS1

SS4

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp