Detholiad o waith gan siaradwyr Gŵyl y Northern Eye, wedi’u harddangos ym mhrif oriel Oriel Colwyn.
Jillian Edelstein – Truth and Lies

Mrs Seipei a Jerry Richardson – ©Jillian Edelstein - Jerry Richardson oedd y dyn a lofruddiodd ei mab, Stompie, pan oedd yn arweinydd clwb pêl-droed Winnie Mandela.
Straeon o’r Comisiwn Gwirionedd a Chymodi yn Ne Affrica.
“Allwch chi gyfuno cyfiawnder a maddeuant?” - Yn Ebrill 1996, dechreuwyd ar broses eithriadol yn Ne Affrica. Cynhaliodd y Comisiwn Gwirionedd a Chymodi, o dan ei gadeirydd yr Archesgob Desmond Tutu, ei wrandawiadau cyhoeddus cyntaf er mwyn ymchwilio i dros ddeng mlynedd ar hugain o droseddau hawliau dynol o dan reolaeth apartheid. Sefydlwyd y Comisiwn o dan y gred mai’r gwirionedd oedd yr unig ffordd y gallai pobl De Affrica ddod i ddealltwriaeth gyffredin o’u gorffennol, a bod angen dealltwriaeth os oedd y wlad am greu hunaniaeth genedlaethol newydd yn y dyfodol. Yn y ddwy flynedd gyntaf, gwnaeth mwy nac 20,000 o ddioddefwyr ddatganiadau i’r comisiynwyr, ac wedi’u hannog gan y posibilrwydd o amnest, daeth 7,000 o droseddwyr ymlaen i gyfaddef eu troseddau.” Mae’r gwaith hwn yn adrodd rhai o’u straeon. Mae’n unigryw yn y ffaith ei fod yn rhoi wyneb i ardystiadau'r dioddefwyr a’r troseddwyr. Yn y ffordd fwyaf uniongyrchol, mae’n dogfennu un o’r arbrofion pwysicaf mewn cyfiawnder democrataidd a geisiwyd yn yr 20fed ganrif.
Daniel Meadows – Factory Records 1979-1980

Ian Curtis o Joy Division ar y llwyfan yng Nghlwb New Osbourne, Miles Platting, Manceinion. 7 Chwefror 1980 ©Daniel Meadows
O 1978 i 1980, gweithiodd Daniel Meadows ar gyfer Granada TV ym Manceinion, yn gyntaf fel ymchwilydd rhaglenni lleol ac yn ddiweddarach fel cyflwynydd achlysurol ar raglen adolygu celfyddydau rhanbarthol Celebration; ar y cyd â cheisio cadw ei fusnes ffotograffiaeth yn fyw.
“Un o fy nghydweithwyr teledu oedd y cyflwynydd Adroddiadau Granada, Tony Wilson, a oedd yn brysur yn sefydlu Factory Records gydag Alan Erasmus ar y pryd. Wrth weithio ar What’s On - a ddaeth yn lle Celebration yn y slot celfyddydau - fe dynnais luniau o Noson Factory yn Hulme, a gynhaliwyd gan Tony Wilson a hyrwyddwr Clwb Russell Alan Wise, a oedd yn cynnwys Buzzcocks a John Cooper Clarke. Roedd Tony yn hoffi fy ngwaith a dechreuodd fy ngwahodd i gigs a sesiynau recordio i dynnu mwy o luniau o’i artistiaid a’i fandiau: Ian Curtis a Bernard Sumner o Joy Division, Vini Reilly o The Durutti Column ac A Certain Ratio”
“Ar ddydd Mawrth, 8 Ionawr 1980 fe dynnais luniau sesiwn Joy Division gyda’r cynhyrchydd Martin Hannett yn Stiwdio Pennine Sound yn Oldham, lle wnaethant recordio fersiwn cynnar o Love Will Tear Us Apart (a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach ar ochr-B y sengl 7” FAC 23)”.
“Hefyd fe dynnais luniau Joy Division ar lwyfan Clwb New Osbourne yn Miles Platting, gig lle'r oedd Jon Savage - a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach fel awdur, a newyddiadurwr cerddoriaeth a darlledu, yn arbennig ei lyfr 1991 ‘England’s Dreaming, Sex Pistols and Punk Rock’ - yn gwneud set DJ.”
Jane Hilton - Drag Queen Cowboys

Drag Queen Cowboys – ©Jane Hilton
Roedd y prosiect parhaus hwn yr oedd Jane Hilton yn gweithio arno cyn y cyfnod clo (2020), ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ffotograffiaeth y Byd Sony 2021. Roedd perfformwyr anhygoel yn cydweithio â Jane i greu cyfres o bortreadau. Cafodd ei hysbrydoli gan bortread Hollywood o genre’r Gorllewin Gwyllt, a 'The Misfits' (1961) y cafodd ei ysgrifennu gan Arthur Miller, ac sy’n cynnwys Marilyn Monroe a Clark Gable.
Mae’r gyfres yn cyfosod rhamantiaeth y Gorllewin a’i gowbois garw, a’i gymeriadau dadleoledig a welir yn y ffilm hon. Ar ôl ychydig o berswâd, camodd yr artistiaid hyn i ffwrdd o’u cynefin naturiol mewn clybiau a bariau, i olau naturiol Gorllewin America. Cafodd y gyfres ei thynnu ar gamera plât 5x4 â ffilm du a gwyn, heb unrhyw atgyffwrdd. Roedd yn naid ffydd anferth…
Jane Hilton - Dead Eagle Trail

Dead Eagle Trail – ©Jane Hilton
Cyfres o bortreadau cowbois o’r ‘buckaroos’ o Navada i’r ‘cowpunchers’ o Arizona.
Ymweliad cyntaf Jane Hilton i Ogledd America oedd i Arizona ym 1988. Roedd y gofodau agored mawr, priffyrdd diffaith ac awyr eang yn gyferbyniad mawr i’r hyn yr oedd hi wedi’i brofi yn tyfu i fyny mewn maestref yn Lloegr. Mae hyn, ynghyd ag atgofion hapus o dreulio prynhawniau Sul yn gwylio ffilmiau cowboi gyda’i thad, wedi cyfrannu tuag at hoffter Hilton o’r gorllewin gwyllt. Mae Dead Eagle Trail yn gyfuniad o nifer o deithiau mae Jane Hilton wedi’u cymryd ar draws yr Unol Daleithiau wrth ddogfennu diwylliant America. Mae ffotograffau o gowbois yn eu cartrefi eu hunain, wedi’u hamgylchynu gan arteffactau gorllewinol. Mae’r angen i gynnal eu treftadaeth yn amlwg iawn.
Ayesha Jones - Where Do You Come From? / Motherland

©Ayesha Jones
Mae ‘Where Do You Come From?’ - Yn brosiect sydd wedi cael ei ysbrydoli gan brofiadau Ayesha fel merch ifanc wedi ei geni yn Lloegr i dad gwyn (treftadaeth Gymreig) a mam du (treftadaeth Garibïaidd).
Mae cael eu holi o ble mae hi’n dod yn rheolaidd (yn sgil ei chroen brown) wedi gwneud i Ayesha ofyn y cwestiwn hwnnw yn fwy dwys gan geisio datgelu’r straeon cudd yn ei threftadaeth ei hun.
“Mae archwilio fy hanes teuluol fy hun wedi dangos i mi pa mor gysylltiedig ydym ni i’n gilydd. Os awn yn ôl yn ddigon pell, mae’n debygol ein bod ni oll yn dod o’r un lle, ar ryw bwynt mewn amser!”
Mae “Where Do You Come From” yn brosiect sy’n dogfennu’r broses o ailgysylltu â gwreiddiau Ayesha. “Rwy’n edrych yn ôl ar y llwybrau a gymerodd fy nghyndeidiau. Rwyf hefyd yn dogfennu fy mhrofiadau fy hun fel y gall y rhai sy’n dod ar fy ôl i werthfawrogi sut daethant i fod a deall o ble daethant hefyd.”
“Er mwyn symud i’r cyfeiriad iawn, rhaid i chi gael dealltwriaeth o ble daethoch chi a lle ydych chi’n mynd.”
Motherland -”Yn dilyn fy mhrosiect ‘Where Do You Come From’, mae Motherland yn dogfennu fy mhrofiadau i a fy mam o ymweld â Gorllewin Affrica, wrth i ni geisio ailgysylltu yn fwy dwfn gyda fy llinach ar ochr mam.”
“Fe wnes i fyw yn Ouagadougou am dros flwyddyn a chael fy mhlentyn cyntaf, cyn dychwelyd i’r DU yn Rhagfyr 2017. Tynnwyd lluniau dros y tair blynedd, wrth i ni gael ein croesawu i athroniaeth Dogon a phrofi’r defodau traddodiadol.”
“Gan ddefnyddio ffotograffiaeth, mae Motherland yn archwilio themâu o amgylch hunaniaeth menyw du, hunaniaeth treftadaeth ddeuol, cam-drin defodol, lles, perthyn, animistiaeth a bod yn fam.”
“Rwy’n teithio i’r famwlad ac yn ôl, dim ond i sylweddoli fod perthyn yn ffordd o feddwl ac nid yn lleoliad ffisegol na grŵp cymdeithasol.”