Strydoedd Bangor '76

Garry Stuart

15 Mehefin, 2017 - 4 Awst, 2017

Date(s)
15/06/2017 - 04/08/2017
Cyswllt
Garry Stuart
Disgrifiad
garry1

Arferai Garry achub ar bob cyfle i godi ei Nikon F, ei lenwi â ffilm Tri-X, a chrwydro strydoedd Bangor, yn arbennig ardal Hirael. Roedd cysylltiadau yn yr ardal hon â Chwareli Llechi Penrhyn a Phorth Penrhyn, lle’r oedd y mwyafrif o’r bobl leol yn gweithio nes i’r galw am lechi o Gymru ddiflannu.  

garry1

Tynnwyd y mwyafrif o’r lluniau hyn ym 1976 tra’r oedd Garry’n fyfyriwr MSc ôl-raddedig yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor ac yn 21 oed.

Hoffai Garry dynnu lluniau o’r hyn a welai ar y strydoedd, ac roedd nifer o’r bobl leol yn hapus i fod yn rhan o’i luniau, ac ambell un hyd yn oed yn ei wahodd i’w cartref am banad.


garry2

Yn ystod y gwyliau ac ar benwythnosau, gweithiai Garry yn Royston Photographic Camera, siop Ronnie Aggent. Cymrodd Ronnie Garry dan ei adain ac roedd y ddau’n aml yn trafod arddulliau ffotograffig yn ystod cyfnodau tawel yn y siop.

‘Nid wyf yn cofio cael fy nhalu, ond byddai Ronnie’n gadael i mi gymryd ffilm, papur a chemegau yn hytrach na chyflog, ac roedd hynny’n iawn gyda mi”


garry3

Ddeugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r lluniau hyn yn gofnod o gyfnod arbennig mewn cymuned yng ngogledd Cymru, a oedd yn destun newid.  Mae bywyd yn edrych yn wahanol iawn yn y cyfnod hwn. 

garry4

Nid lluniau o dlodi ac amddifadedd yw’r rhain, ond lluniau o gymuned falch gydag aelodau hŷn a oedd wedi byw drwy ddau ryfel byd.  Gellir gweld y cadernid a’r gonestrwydd yn eu llygaid wrth iddynt edrych i’r lens.  

garry5

“Ni fydd unrhyw genhedlaeth debyg i hon eto.”


garry6

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp