
Mae ‘The Last Stand’ gan Marc Wilson yn arddangosfa ar y cyd â ‘They That Are Left’ gan Brian David Stevens.
-- Mae’r dyddiau a’r oriau agor i’w gweld ar waelod y dudalen hon --
Mae Marc wedi bod wrthi’n tynnu lluniau’r delweddau sy’n llunio The Last Stand ers 2010. Nod y gwaith ffotograffig hwn yw adlewyrchu hanesion a straeon gwrthdaro milwrol a’r atgofion y mae’r dirwedd ei hun yn eu cyfleu.
Mae’r gyfres wedi’i llunio o ddelweddau sy’n cofnodi rhai o weddillion diriaethol yr Ail Ryfel Byd ar hyd arfordiroedd Ynysoedd Prydain a gogledd Ewrop, gan ganolbwyntio ar strwythurau amddiffynnol milwrol sydd ar ôl a’u lle yn y dirwedd gyfnewidiol sy’n eu hamgylchynu. Mae rhai o’r lleoliadau hyn bellach wedi mynd o’r golwg, wedi’u cwmpasu neu eu claddu naill ai gan y tywod a’r dŵr cyfnewidiol neu gan fwy o ymyrraeth ddynol. Ar y llaw arall, mae eraill wedi ailymddangos o’u cuddfannau.

Studland Bay I, Dorset, Lloegr. 2011 ©Marc Wilson
Dros y pedair blynedd hyn, mae Marc wedi teithio 23,000 o filltiroedd i 143 o leoliadau i dynnu’r delweddau hyn ar hyd arfordiroedd y DU, Ynysoedd y Sianel, Gogledd a Gorllewin Ffrainc, Denmarc, Gwlad Belg a Norwy.

Sainte-Marguerite-sur-Mer, Normandi Uchaf, Ffrainc. 2012 ©Marc Wilson
Daeth y syniad ar gyfer y gwaith hwn o un o’i hen brosiectau a oedd yn cynnwys ambell i leoliad a oedd yn ymwneud â hanes y rhyfel. Ei gefndir Ewropeaidd a’i hanesion teuluol ei hun (fel rhai sawl un arall) a’i denodd i greu prosiect ar y pwnc hwn. Mae Marc wastad wedi bod â diddordeb yn y syniad bod y dirwedd a’r gwrthrychau rydym yn eu gosod ynddi yn cadw straeon, hanesion ac atgofion o’r gorffennol. Wrth i fwy o amser fynd heibio ers digwyddiad neu gyfnod, yr atgofion, adroddiadau neu ddogfennau hyn yw’r unig bethau sydd gennym ni ar ôl.
Mae yna rywbeth eithaf gafaelgar am ddod o hyd i hen amddiffynfeydd rhyfel ar arfordiroedd Prydain. Heb i chi fynd ati i chwilio amdanyn nhw hyd yn oed, rydych chi’n dod ar draws bynceri, gorsafoedd radar a hen orsafoedd radio; strwythurau hynod na chafodd erioed eu defnyddio i’r eithaf a adawyd i ddadfeilio yn wyneb y môr a’r heli a’r gwynt.
Mae ‘The Last Stand’ mor aml-haenog â’r tirweddau y mae’n eu darlunio; mae yna fanylder hanesyddol wedi’i lapio a’i blygu’n gronotopia o greulondeb swyddogaethol, gydag ambell i gyffyrddiad lleol sy’n bwydo i mewn i’r elfennau daearegol, panoramig a thactegol. Mae pob un o focsys rhestr tirwedd draddodiadol Robert Adams yn cael eu ticio: mae yma ddaearyddiaeth, hunangofiant a throsiad. Ond ar ben hynny, mae Wilson yn rhoi golwg wedi’i gwleidyddoli i ni o dirwedd a phŵer sy’n clymu’n ôl i ffotograffiaeth arolygol Timothy O'Sullivan a gwaith Mitch Epstein.
Ac yn haen ychwanegol, mae yna weledigaeth Arcadaidd. Gyda’i ffocws ar Ogledd Ewrop, mae’n Arcadia ddystopaidd; mae yna naws baganaidd i luniau Wilson, rhyw weledigaeth syncretaidd lle mae daeareg, planhigion, hinsawdd a rhyfel yn cael eu mynegi fel un. Ac mae’n brydferth.
Cyfieithiad o Adolygiad o ‘The Last Stand’ gan Colin Pantell
Mae Marc Wilson wrthi’n gweithio ar brosiect newydd o’r enw ‘A Wounded Landscape’. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar wefan Marc: marcwilson.co.uk
Mae Oriel Colwyn yn falch o gael hwyluso uniad agoriadol ‘The Last Stand’ Marc gyda ‘They That Are Left’ gan Brian David Stevens i lunio arddangosfa unigryw ar y cyd ar thema rhyfel a chofio.