Arddangosfa gan Hazel Simcox, Roj Smith, Ethan Beswick, Philip Jones a Robert Law.
Mae pump o ffotograffwyr yn rhannu eu harsylwadau a’u hanesion personol sy’n gysylltiedig â Gogledd Cymru. Mewn ymateb i ardal sy’n haeddiannol enwog am ei thirweddau bendigedig, nod Prosiect Gogledd Cymru yw dod â ffotograffwyr at ei gilydd i ddogfennu a rhoi llais i’r hyn sy’n cael ei anwybyddu neu sy’n gyfareddol, a chynnig portread gonest ar y cyd o’r rhanbarth arbennig hwn a’i bobl.
Mae ‘Space_My_’ gan Hazel Simcox yn deyrnged bersonol i’r awdures a’r arweinydd mynydd benywaidd cyntaf, Gwen Moffat. Mae Hazel yn dychwelyd i leoliadau sy’n ymddangos yn hunangofiant Gwen, yn tynnu lluniau ohonyn nhw ac yn myfyrio ar ddarnau o waith Gwen sy’n angerddol berthnasol i’w phrofiad personol. Y canlyniad yw casgliad o arsylwadau sensitif ac ystyrlon wedi’u plethu’n gyfrwys â dyfyniadau o’r llyfr.
© Hazel Simcox
Mae Roj Smith yn cynnig cipolwg melancolaidd ar drefi arfordirol enwog a phrysur Llandudno a Chonwy yn y nos, ar ôl i’r torfeydd adael. Mae mannau cyfarwydd yn mabwysiadu cymeriad newydd wrth i ni weld dawn Roj i arsylwi effaith modelu goleuadau artiffisial ar olygfeydd trefol, ochr yn ochr â mannau gwag.
© Roj Smith
Gan aralleirio’r artist ei hun, mae Ethan Beswick wedi bod yn tynnu lluniau ar hyd a lled Gogledd Cymru, gan gasglu ymateb melodaidd, os braidd yn amwys, i dirwedd Cymru. Mae ei gyfres, ‘The Fruit Bar Line’ yn fyfyrdod ar Gymru, ar y bobl sy’n trigo ynddi, ac ar fecanwaith perthyn, annigonolrwydd a dyhead.
© Ethan Beswick
Mae Phillip Jones yn gweithio’n hamddenol, gan grwydro strydoedd, mannau diwydiannol a chefn gwlad. Mae’n archwilio cyrion trefi, dinasoedd a phentrefi. Dyma gyfieithiad o’r hyn sydd ganddo i’w ddweud: “ Rwy’n aml yn mynd i’r un lleoedd drosodd a throsodd, ac os bydda’ i’n ymweld â rhywle newydd, fe ddechreua’ i’r broses o ddychwelyd sawl tro nes y bydda’ i’n adnabod y lle’n dda, yn tynnu lluniau’n awchus heb synnwyr o ddibynnu ar ddelweddau eraill na thestun. Rwy’n tueddu i ‘lifio’r gangen rwy’n eistedd arni’. Mae’r ffotograffau fel pe baent yn perthyn i gylch diddiwedd o gerdded, edrych, creu ac yna ailymweld ”.
© Philip Jones
Mae Robert Law yn cyflwyno ei brosiect, ‘Holyhead – Sea Change?/Caergybi – Troad Llanw?’ Mae Caergybi yn dref ffyrnig o annibynnol gyda chymuned glos a balch a threftadaeth gyfoethog, ond yn sgil diffyg sylw a buddsoddiad ers blynyddoedd lawer, mae’n wynebu heriau economaidd cynyddol. Mae Robert yn cymryd golwg fanwl ar dref sy’n wynebu Brexit a dyfodol ansicr.
© Robert Law
Mae’r arddangosfa’n agor ddydd Sadwrn 11 Ionawr ar y cyd â Noson Pechakucha arbennig yn yr oriel, lle byddwn ni’n gwahodd hyd at 8 o bobl i gyflwyno eu gwaith ffotograffig a grëwyd yng Ngogledd Cymru neu sydd â chysylltiad penodol â’r ardal. (I wneud cais i gyflwyno, cliciwch YMA ).
Mae PechaKucha (y gair Japanaeg am fân-siarad ) yn fformat adrodd straeon syml lle’r ydych chi’n dangos 20 llun am 20 eiliad yr un. Mae’r lluniau’n newid yn awtomatig ar amserydd ac rydych chi’n siarad amdanyn nhw wrth iddyn nhw newid. Does dim modd aros ar lun na mynd yn ôl – mae gennych chi 6 munud a 40 eiliad i gyflwyno!
Mae’n gyflym, yn addysgiadol ac yn fwy na dim, yn HWYL!
Fe gynhaliom ni ein digwyddiad Pechakucha cyntaf yng ngŵyl y Northern Eye, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at gael parhau â’r digwyddiadau yn y flwyddyn berffaith ar eu cyfer, 2020 .