Browser does not support script.
Neil Coombs
22 Mawrth, 2013 - 16 Mai, 2013
22/03/2013 00:00:00
Mae’r cyfosodiad o ffotograffau sy’n ffurfio craidd prosiect The Phantoms of Surrealism wedi’u hadeiladu o gwmpas grid ailadroddus o 15 petryal lle mae ffotograffau o leoliad penodol yn cael eu rhoi mewn i ffurfio ysbryd neu le rhithiol.
Mae pob Phantom o leoliad gwahanol ac mae pob safle sydd wedi’i ddewis un ai yn ymwneud â hanes swrealaeth ym Mhrydain neu â chysylltiad personol â’r artist. Mae’r gwaith yn ddehongliad o dirlun a locws yn ogystal â chyfle i archwilio hanes y symudiad swrealaeth ym Mhrydain: sut archwilir y tirlun swrealaeth, nid ar gyfer ei agweddau darluniadol na rhamantaidd ond ar gyfer ei soniaredd seicolegol a gweledol.
Wrth i’r Phantoms barhau eu cynnydd di-baid a chymhellol byddent yn datblygu bywydau eu hunain.
Gyda’r templed Phantom wedi’i ddarparu yma mewn ffurf ddigidol amrywiol, gwahoddir chwi i greu eich cyfosodiad o ffotograffau Phantom eich hunain.
Templed Phantom (JPG)
Templed Phantom (PSD)
Templed Phantom (PDF)
Templed Phantom (DOC)
Dychwelwch hwy i’r oriel ar gyfer eu cynnwys yn ymwybyddiaeth gasgliadol Phantom
Edrychwn ymlaen at gael cwrdd â nhw…
Mae Neil Coombs yn artist ac awdur yng ngogledd Cymru sydd wedi arddangos gwaith aml-gyfrwng, ffotograffiaeth mewn orielau a gwyliau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn ddiweddar cafodd ei waith ei gynnwys mewn sioeau grŵp yn Nhwrci, yr Almaen a’r Unol Daleithiau.
Mae Coombs (https://neilcoombsart.wordpress.com) hefyd yn sylfaenydd a golygydd papur newydd swrealaeth, Patricide.
Mae The Phantoms of Surrealism yn ganlyniad o brosiect blwyddyn a gyflawnwyd gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Taflen Waith i Ysgolion
Datganiad i’r Wasg
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.