Cafodd Graham ei fagu ym Mharadwys, Bodorgan, Ynys Môn a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn. Ar hyn o bryd mae’n byw yn Nhrefriw, Conwy.
Yn 1981 fe raddiodd Graham o Goleg Celf Caerwysg lle dyfarnwyd Bwrsariaeth Teithio Ffotograffiaeth iddo yn 1980 a alluogodd ef i deithio i weriniaeth Iwerddon. Cychwynnodd hyn gyfres o ymweliadau ffotograffig â grŵp bach o ynysoedd yn ardal y Gaeltacht (lle siaredir Gwyddeleg) yn Ne Connemara, gan ddogfennu bywyd gwledig y gymuned ynysig hon. Digwyddodd yr ymweliadau hyn rhwng 1980 ac 1994.
Yn 2013 fe ddyfarnodd Cyngor Celfyddydau Cymru Grant Prosiect Arbennig a alluogodd Graham i ail-ymweld â’r union leoliadau hyn i ymateb yn ffotograffig a chreu’r arddangosfa hon sy’n edrych yn ôl.
Mae’r ffotograffau a gaiff eu harddangos yn portreadu sampl o’r themâu niferus y bu Graham yn eu harchwilio, fel traddodiadau mordeithiol Hwceri Galway a rasys y ‘Curragh’. Mae’r printiau du a gwyn (o ffilm 35mm) o gasgliad archif cynnar Graham (rhwng 1980 ac 1994) a chafodd y ffotograffau lliw eu tynnu yn yr un lleoliadau rhwng 2013 a 2014.
“Heddiw rydym yn byw mewn cymuned ffermio lle mae pobl yn mynd o amgylch ar feiciau cwad ac mewn land rovers yn hytrach na cherdded i bob man; rydym yn gwisgo siacedi fflîs a dillad ysgafn modern sy’n dal dŵr yn debyg i gerddwyr ar y bryniau ac nid ydym yn wahanol i bawb arall. Yn y gorffennol roedd hyn yn eithaf gwahanol. Dim ond yn 1972 y cysylltwyd y bwthyn ar Ynys Môn lle cefais fy magu â’r prif gyflenwad dŵr. Cyn hynny, roeddem yn defnyddio’r ffynnon leol i gael dŵr yfed. Daeth fy ymweliadau cychwynnol â Connemara ag atgofion plentyndod cynnar yn ôl i mi o fywyd ar Ynys Môn a sut roeddwn yn arfer gweld ffermwyr lleol wedi gwisgo mewn trowsus trwm a siacedi; ffordd fwy diymhongar o fyw sydd wedi ei golli i raddau helaeth yng Nghymru, ond a oedd yn amlwg o hyd yn Iwerddon.”
Roedd ymweliadau Graham dros y flwyddyn ddiwethaf yn gwrthgyferbynnu gyda’i ymweliadau cynnar gan fod nifer o’r cartrefi roedd Graham wedi tynnu llun ohonynt yn yr 1980au nawr yn adfeilion ac roedd yna gartrefi newydd a oedd yn mwynhau’r un moethusrwydd modern a chyfleustra ag yr ydym ni’n gyfarwydd ag ef. Fodd bynnag, mae’r delweddau’n portreadu nid yn unig ‘gymeriadau’ y gorffennol ond hefyd ychydig o ‘gymeriadau’ heddiw, arferion traddodiadol a bywyd gwledig yng Nghonnemara sy’n parhau i adleisio bywyd gwledig yma yng Nghymru.
“Nid yw fy ngwaith yn dogfennu Connemara wedi ei ddangos yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd. Fe arddangoswyd fy ngwaith cynnar gyntaf 30 mlynedd yn ôl yn Theatr Gwynedd ym Mangor (heddiw mae ‘Pontio’ y Brifysgol yn cael ei adeiladu ar y safle hwn). Fodd bynnag gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru rwyf wedi gallu ail-ymweld â fy archif, gan olygu a chreu arddangosfa o waith sy’n dangos nifer o hen ffotograffau yn ogystal ag ychwanegu gwaith mwy diweddar. Rwy’n gobeithio y bydd yr arddangosfa yn cyfleu cymeriad a phersonoliaeth gynnes Connemara, rhywbeth y bu i mi ei brofi, yn ogystal â chyfleu i gynulleidfaoedd y synnwyr cryf o hunaniaeth a chymuned sy’n bodoli o fewn cymunedau gwledig yn gyffredinol.”

