"...They shall grow not old, as we that are left grow old.
Age shall not weary them, nor the years condemn.
At the going down of the sun and in the morning
We will remember them..."
'The Fallen' gan Laurence Binyon (a argraffwyd gyntaf yn The Times, 21 Medi 1914)
"They that are left..." : Portreadau 'Coffa’.
(Mae dyddiau ac oriau agor yr arddangosfa i’w gweld ar waelod y dudalen hon)
Mae ‘They That Are Left’ gan Brian David Steven yn arddangosfa ar y cyd â ‘The Last Stand’ gan Marc Wilson.
Yn 2002, fe aeth y ffotograffydd Brian David Stevens draw i’r Senotaff ar Sul y Cofio i dynnu lluniau o’r cyn-filwyr a ymgasglodd yno yn rhan o’r dathliadau cofio a gynhelir ar draws y DU i anrhydeddu’r rhai sydd wedi marw mewn rhyfeloedd.
Yr arddangosfa hon yw penllanw prosiect deng mlynedd o hyd yn tynnu lluniau cyn-filwyr bob Sul y Cofio ar ôl seremoni’r Senotaff, o 2002 i 2012.
Meddai Brian, “Mae treigl amser yn rhan bwysig o’r prosiect, dim ond ffilmio am 10 diwrnod, ond dros gyfnod o 10 mlynedd, o 2002-2012, mae’n troi mewn i rywbeth gwahanol.
“Bob blwyddyn maen nhw’n hŷn, ac wrth iddyn nhw dyfu’n hen, wrth i oed eu blino ac wrth i’r blynyddoedd eu condemnio nhw fwy i’r hyn maen nhw’n dal i’w gofio na ni’n cofio dros beth oedden nhw’n ymladd (sydd yn syml iawn : ni), maen nhw felly’n dod yn anhysbys.”
“Y wynebau hyn felly yw milwyr anhysbys: dim bathodynnau ar gapiau, dim rhubanau o fedalau sbŵl, dim arwyddlun am rengoedd milwrol. Wynebau yn unig. Pob wyneb yn nodi pwy ydyn nhw a beth wnaethon nhw, er mwyn i ni edrych, a meddwl – a diolch iddyn nhw.”
“Yn syth at y camera, plîs,” ydi’r unig gyfarwyddyd y rhoddodd Brian David Stevens i’r cyn-filwyr y bu’n tynnu lluniau ohonynt.
Fe wyliodd wrth iddyn nhw gymryd anadl ac oedi, ac yna fe geisiodd ddal y foment yr aeth eu meddyliau yn ôl i’r gorffennol.
“Mae digwyddiadau’r gorffennol ar flaen eu meddyliau. Mae hynny’n effeithio ar bortreadau. Dwi bob amser yn hoffi tynnu lluniau o bobl pan maen nhw’n meddwl am rywbeth,” meddai Stevens.
Bob mis Tachwedd rhwng 2002 a 2012, fe aeth Stevens draw i orymdaith y Cadoediad ar Sul y Cofio yn Llundain gydag un camera, un lens, un cefndir, ac un nod: i anrhydeddu cyn-filwyr mewn modd unffurf a democrataidd.
Trwy leihau’r offer a chlwstwr technegol, dywedodd Stevens y gallai ganolbwyntio ar roi cyn-filwyr yn y golau gorau, yn ei brosiect o’r enw: "They that are left."
“Portreadau syml a gonest - dyna’r pwynt. Dydyn nhw ddim angen goleuadau ychwanegol,” meddai Stevens “Mae cryfder yr wyneb yn ddigon.”
Y cyfarwyddwr ffilm o Ddenmarc, Lars von Trier a’r ffurf Dogme 95 o wneud ffilmiau ydi’r rheswm dros ddilyn y set syml yma o reolau.
Doedd gan Stevens ddim diddordeb ym mha ryfel yr oedd cyn-filwyr wedi gwasanaethu, na’u rheng na’u gweithredoedd. Yn syml, roedd eisiau tynnu llun o’r rheini a wasanaethodd.
Ynglŷn â’r cyn-filwyr hŷn, fe ddywedodd: “O’u hachos nhw y gallwn ni gyd fwynhau ein ffordd o fyw heddiw. Nhw ydi’r rhai aeth allan i frwydro yn erbyn ffasgiaeth, ac roedd hynny’n syniad dewr a da,” meddai Stevens. “Dwi ddim yn meddwl bod y genhedlaeth honno wedi cael digon o ddiolch. Roedd y prosiect yma’n ffordd i mi ddiolch iddyn nhw, ac roeddwn i eisiau bod yn eithaf democrataidd.”
Y rheswm y gadawodd enwau’r cyn-filwyr, eu rheng neu ryfel penodol allan, oedd i greu gofod i wylwyr i gyfryngu a dychmygu eu hunain.
“Doeddwn i ddim eisiau rhoi pobl yn nhrefn pwysigrwydd am eu bod mewn sefyllfa lle bu’n rhaid iddynt ymddwyn yn ddewr,” meddai. “Roedd pawb yn ddewr.”
Mae cael gwared ar liw o’r lluniau yn elfen arall sydd yn gwneud portreadau yn haws ac yn cael gwared ar unrhyw beth allai atal neu dynnu sylw’r gwyliwr o’r dull unffurf.
“Mae pobl eisiau cael eu cydnabod am hyn ac mae hi’n braf gallu rhoi platfform i bobl a’u cydnabod am yr aberth a roesant.”
Ar ôl yr ail flwyddyn o dynnu lluniau yn ystod yr orymdaith, penderfynodd Stevens y byddai’n gweithio ar y prosiect hwn am gyfanswm o 10 mlynedd. Yn y cyfnod hwnnw, dim ond dau berson a ddywedodd nad oeddynt eisiau cael tynnu eu lluniau.
Dywedodd Stevens ei fod yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn ysbrydoli plant i fod yn fwy chwilfrydig a deall pobl hŷn, yn enwedig y rheini a wasanaethodd eu gwlad yn y fyddin.
“Pan mae pobl yn ‘sownd’ y tu ôl i berson hŷn yn symud yn araf, yn hytrach na gwylltio am y peth, efallai y byddan nhw’n meddwl am yr hyn maent wedi bod drwyddo.”
Mae’r ymateb cryf a phositif i’r gwaith yn gwneud i rywun fod yn ddiymhongar meddai Stevens. "(Y cyn-filwyr) ydi’r sêr, dim ond gwasgu botwm ydw i.”
–Naomi Driessnack, Yn arbennig i CNN
Ffotograffydd sydd wedi’i leoli yn Llundain ydi Brian David Stevens. Mae ei waith hefyd wedi cael ei arddangos a’i gyhoeddi’n fyd eang.
www.briandavidstevens.com
Mae Oriel Colwyn yn falch o gael hwyluso uniad agoriadol ‘They That Are Left’ Brian gyda ‘The Last Stand’ gan Marc Wilson i lunio arddangosfa unigryw ar y cyd ar thema rhyfel a chofio.





