Browser does not support script.
Simon Plummer
10 Gorffennaf, 2015 - 28 Awst, 2015
I ddechrau, fe dreuliodd Simon Plummer ddwy flynedd yn astudio ffotograffiaeth gyda’r bwriad o feistroli Photoshop, yn bennaf gan ei fod yn meddwl bod y sgiliau yma’n hollbwysig i fod yn ffotograffydd “da” yn yr oes ddigidol sydd ohoni.
Yn hytrach, cafodd Plummer ei lyncu gan frwdfrydedd heintus am yr ystafell dywyll, a wnaeth ei arwain at arbrofi gyda ffyrdd amgen o gynhyrchu print.
Wrth ddarllen popeth y gallai gael gafael arno am ffotograffiaeth, daeth ar draws y portreadau cyfoes a dynnwyd gan Sally Mann a chriw cynyddol o ffotograffwyr oedd yn gweithio gyda’r broses colodion plât wlyb.
Mae’n debyg mai gwendidau a chanlyniadau afreolaidd y lluniau yn y broses hen ffasiwn yma oedd y cyferbyniad roedd Plummer yn chwilio amdano i edrychiad clinigol ffotograffiaeth ddigidol. Rhoddodd blwyddyn radd yng Ngholeg St Helens gyfle iddo feithrin y sgiliau sylfaenol ar gyfer y broses hudolus hon sy’n deillio o fore oes ffotograffiaeth.
Bellach, dewis Simon o gamera yw hen gamera maes sy’n plygu – cafodd ei “Patent Reliable” ei adeiladu â llaw oddeutu 1890 gan F. Bulmer o Dewsbury yng Ngorllewin Swydd Efrog. Mae plât bres fach wedi’i stampio â llaw’n nodi mai dyma ‘Camera No.12’ ac mae bellach yn un o dri yn unig sydd ar ôl, hyd y gwyddom ni.
Y “Patent Reliable”
Wrth gyfuno’r camera hwn gyda lens bortreadau Petzval, o tua 1860, a’r broses plât wlyb a ddyfeisiwyd gan Frederick Scott Archer ym 1851, ei weledigaeth yw adeiladu arddangosfa o bortreadau ‘tunteip’ wedi’u tynnu mewn sesiynau byw yn Oriel Colwyn.
Roedd portreadau tunteip yn cael eu gwneud mewn stiwdios ffotograffiaeth i ddechrau, ond roeddent wedyn yn cael eu defnyddio’n fwy aml gan ffotograffwyr oedd yn gweithio mewn bwth neu yn yr awyr agored mewn ffeiriau a charnifalau. Gan efelychu awyrgylch a natur ar-unwaith bwth mewn carnifal, bydd y sesiynau byw yma o bosib’ yn caniatáu i chi gael tynnu eich llun gyda’r ‘Patent Reliable’ gwreiddiol a gweld y broses plât wlyb a’r canlyniadau gyda’u holl wendidau.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.