Mae’n bleser gan Oriel Colwyn groesawu seren The Mighty Boosh, Dave Brown, yn ôl gyda’i arddangosfa newydd, Tough Croud.
Mae mynediad bob amser yn rhad ac am ddim.
Yn dilyn yr arddangosfa 'Behind the Boosh' hynod lwyddiannus y llynedd, mae Dave wedi bod yn gweithio ar ddarn o waith newydd i gefnogi Afrikids, sefydliad hawliau plant sy’n gweithio yng ngogledd Ghana i fynd i’r afael â dioddefaint a thlodi ymhlith plant.

Cafodd Tough Crowd, sy’n cynnwys dros 50 o bortreadau comedïwyr, gan gynnwys Jimmy Carr, Harry Hill, Bill Bailey, Noel Fielding, Julia Davis, Bob Mortimer a llawer mwy, ei arddangos yn wreiddiol yn The Strand Gallery, Llundain ym mis Rhagfyr 2012, ac fe’r oedd yn llwyddiant ysgubol.

“Ar ryw adeg yn ystod eu gyrfaoedd, mae pob un o’r comedïwyr sy’n ymddangos yn yr arddangosfa hon naill ai wedi cael eu heclo gan feddw, wedi cael eu gadael i lawr gan asiant, wedi cael ymateb gwael gan gynulleidfa, wedi cael rhywun yn taflu eu sgript yn eu hwyneb, sgoriau gwael, adolygiad poenus, dadleuon ar Twitter neu wedi eistedd ar eu pen eu hunain ar drên oer, budr yn teithio’n ôl o’r gig waethaf erioed. Mae comedi’n ddiwydiant anodd, mae’n cymryd blynyddoedd o waith caled, poen ac ymroddiad i gael cydnabyddiaeth ac os ydych chi’n ddigon ffodus i lwyddo, mae cynnal y llwyddiant hwnnw hefyd yr un mor anodd."

"Yn yr arddangosfa hon, rwy’n ceisio rhoi blas ar gymeriadau comedi cadarn, croendew, sy’n aml yn bobl ddiamddiffyn a chymhleth, ond yn hynod dalentog. Rwyf wedi ceisio eu dangos mewn golau gwahanol i’r darlun hapus, bywiog yr ydym yn arfer ei weld yn y cyfryngau ac ar lwyfan. Mae’n anodd cael gafael ar gomedïwyr, maent yn bobl brysur, yn teithio ac yn cuddio, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn casáu cael pobl yn tynnu eu llun. Rwyf wedi gorfod mynd ar ei holau, eu hasiantau, eu cymdogion a’u hanifeiliaid anwes i geisio canfod amser yn eu hamserlenni prysur i dynnu lluniau ohonynt. Rwyf wedi mwynhau’r her ac mae wedi bod yn wych dal i fyny â hen ffrindiau yn ogystal â chwrdd â rhai o’m harwyr.
Byddwn yn cyrraedd ar fy mhen fy hun gyda’m camera yn fy mag, yn aml yn brin o amser, a gydag ychydig iawn o olau. Byddwn yn gweithio gyda beth bynnag oedd ar gael ac yn gofyn iddyn nhw feddwl am yr adegau lle cawsant amser caled gan gynulleidfaoedd. Roeddwn i’n cael y teimlad bod y mwyafrif ohonynt yn mwynhau’r ffaith nad oeddwn i’n gofyn iddyn nhw wenu, ac roedden nhw i gyd yn tueddu i fynd i le tywyll, trist, dig, gwag yn eithaf rhwydd.
Mae llwythi o gomedïwyr eraill yr hoffwn eu cynnwys yn yr arddangosfa hon. Mwynheais y profiad yn fawr, rwyf wedi dotio at y canlyniadau, a gobeithiaf y gallwn gasglu llwyth o arian ar gyfer prosiectau AfriKids. Mae AfriKids yn elusen anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant, eu teuluoedd a’r cymunedau o’u hamgylch. Maent yn arloesi ac yn torri tir newydd yn eu hymdriniaeth â chymorth a dyfodol y buddiolwyr. Rwy’n hynod o falch o fod yn Llysgennad ar gyfer elusen mor arbennig.” Dave Brown.

Mae Dave wedi bod yn Llysgennad AfriKids ers 2010, ac mae ei waith gydag AfriKids dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn drawsnewidiol ac yn ysbrydoliaeth enfawr. Teithiodd Dave i ogledd Ghana ym mis Hydref 2010 i ymweld â phrosiectau AfriKids a chymryd rhan yn yr Her Brofiad (Experience Challenge), lle bu’n gweithio ar fferm a chael blas ar fywyd ym mhentref gwledig Talensi Nabdam. Yn ystod ei gyfnod yn Ghana, gweithiodd Dave yn galed iawn i recordio fideos a thynnu lluniau gwych ar gyfer AfriKids. Mae detholiad o luniau hyfryd Dave o Ghana wedi’u cynnwys yn yr arddangosfa.

Fel sefydlydd asiantaeth greadigol, Ape Inc. Ltd, penderfynodd Dave ail-frandio AfriKids yn 2010, i gyfleu eu hangerdd am eu gwaith datblygu, yn ogystal â’r darlun corfforaethol proffesiynol y mae angen i’r sefydliad ei gyfleu. Roedd ymrwymiad Dave i ddeall hanes, diwylliant ac athroniaeth AfriKids yn rhagorol ac roedd ei ymgysylltiad â’r tîm yn y DU a Ghana drwy gydol y broses ail-frandio’n gynhwysol ac yn sensitif.
Ym mis Ebrill 2012, ymunodd Dave â thîm o wirfoddolwyr ar eu siwrnai anhygoel yn gyrru dau gerbyd o Southampton i ogledd Ghana i’w defnyddio fel ambiwlansys. Aeth y tîm ar daith epig drwy saith gwlad mewn 21 diwrnod, gan godi dros £30,000! Mae Dave hefyd wedi helpu AfriKids mewn sawl digwyddiad casglu arian fel y cymeriad ‘Bollo’ o ‘The Mighty Boosh’, gan gynnwys helpu AfriKids i godi £170,000 yn 2010 drwy ymgyrch ‘One Day’ Deutsche Bank, lle gofynnwyd i weithwyr gyfrannu diwrnod o’u cyflog i gefnogi AfriKids, un o’u helusennau’r flwyddyn yn 2010.”
