Tribal Life: Ethiopia ydi portread personol Margaret o’r bobl, bywyd bob dydd a thraddodiadau a seremonïau, mewn pentrefi ac ym mherfeddwlad Dyffryn Omo ac ardal ddeheuol y wlad lle does fawr wedi newid yno ers cannoedd o flynyddoedd.
“Dydi llawer o blant byth yn mynd i’r ysgol ond yn hytrach yn gweithio fel bugeiliaid, gan edrych ar ôl gyrroedd mawr o anifeiliaid, yn cynnwys geifr, defaid, gwartheg a chamelod sy’n hanfodol er mwyn iddynt allu goroesi.
Mae bywyd teuluol yn hollbwysig; mae plant o bob oedran yn gweithio ar eu pen eu hunain neu gydag aelodau eraill o’u teulu neu Lwyth.
Mae gan bob Llwyth y gwnes i ymweld â nhw eu traddodiadau, eu gwisgoedd a’u ffordd eu hunain o fyw; ac roedd cael roi cipolwg rhyfeddol ar ffordd o fyw sydd mor bell o’n un ni yn afreal ar adegau.
Mae amaethu yn bwysig; yn bennaf mae pobl yn llysieuwyr, yn benodol yn defnyddio india-corn i wneud crempogau. Anifeiliaid fodd bynnag ydi’r peth pwysicaf yn eu meddiant, maent yn cael eu defnyddio ar gyfer dillad, i roi gorchudd ar doeon tai a waliau wedi’u gwneud o ganghennau o bren, bwyd, llaeth, a thra’n byw yn y tai, maent yn darparu cynhesrwydd mewn tywydd oer.
Caiff anifeiliaid eu masnachu mewn marchnadoedd, caiff gwartheg hefyd eu defnyddio fel arian, er mae gynau AK yn cael eu hystyried yn symbolau statws, ac maent yn cael eu defnyddio i warchod cnydau yn erbyn ysglyfaethwyr megis Hienâu.
Mae’r arddangosfa hon yn ddetholiad bychan o’r lluniau, er ei bod hi’n anodd, roedd hi’n anrhydedd i gymryd lluniau o brofiadau na fydda i fyth yn eu hanghofio.”
Margaret Salisbury, FRPS, MFIAP, FIPF, FSITTP, AWPF, APAGB



