Cychwynnodd gwefan podlediadau a newyddion ffotograffiaeth Ffoton Wales (www.ffoton.wales) 2016 gyda phrosiect a oedd yn gwahodd ffotograffwyr o Gymru – ffotograffwyr proffesiynol ac unigolion brwdfrydig dros ffotograffiaeth, i ddehongli eu hardal leol dan thema ‘Trefol’.
Gall ffotograffwyr ddefnyddio hashnod #urbanwales ar lwyfannau rhannu lluniau Instagram a Flickr i gynnwys eu delweddau mewn casgliad amrywiol a chynyddol o ddelweddau sy’n unigryw i Gymru fodern.
Mae ar Ffoton Wales eisiau i brosiect #urbanwales fod yn ffordd i ffotograffwyr arddangos eu gwaith ar waliau am y tro cyntaf. O fis Ebrill tan fis Mai 2016 bydd Littleman Coffee Co. yng nghanol dinas Caerdydd yn gartref i amrywiaeth o ffotograffiaeth drefol, yn ogystal â chroesawu’r Sgyrsiau Ffoton cyntaf – cyfres o ddigwyddiadau gyda ffotograffwyr gwadd yn sgwrsio am eu gwaith a’r heriau o weithio mewn llefydd cyhoeddus, protestiadau a materion cyfreithiol.
Mae’n bleser gennym gydweithio â Ffoton yma yng ngogledd Cymru. Bydd y cydweithio yma yn gweld Oriel Colwyn yn cynnal ac yn hyrwyddo detholiad o ddelweddau ffotograffwyr #urbanwales drwy gydol mis Mai.
Bydd Ffoton hefyd yn gweithio gyda threfnwyr Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol The Eye sy’n cael ei chynnal yn Aberystwyth o ddydd Gwener 30 Medi tan ddydd Sul 2 Hydref.
“Prif bwrpas y cydweithio rhwng gŵyl The Eye a Ffoton ar gystadleuaeth ffotograffiaeth stryd Urban Wales ydi annog pobl i dynnu lluniau am reswm. Yn ogystal â chreu gwaith o safon uchel mae’r ymgeiswyr hefyd yn dogfennu Cymru yn 2016 ac mae Gŵyl The Eye yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn.
“Yn ogystal â rhoi rheswm i ffotograffwyr fynd allan efo’u camerâu, mae cystadleuaeth ffotograffiaeth stryd Urban Wales hefyd yn creu cofnod hanesyddol a safon uchel o Gymru yn 2016. Mae Gŵyl The Eye yn falch o gydweithio gyda Ffoton Wales ar y prosiect diddorol yma.”
Glenn Edwards – Cyd-sylfaenydd Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol The Eye.
Yn ystod y 12 mis diwethaf yn cynhyrchu Ffoton, mae’r sylfaenwyr wedi’u syfrdanu gan nifer y ffotograffwyr talentog sydd yma yng Nghymru, sy’n defnyddio pob math o arddulliau ffotograffig ond prin iawn yn arddangos eu gwaith yn gyhoeddus.
Ar gyfer ein sioe yn Oriel Colwyn rydym ni wedi dewis 9 ffotograffydd, ac mae bob un wedi darparu 9 o’u delweddau #urbanwales.
Ffotograffwyr: (cliciwch i weld eu tudalen Instagram)
littleappleseed - ffoto_cr - andrewpearsall - andrewhydephotography - grande_le_onion - nspughphoto - fudgedaniels - slangwerks - nickdayofficial
Dolenni
Dilynwch / ymunwch ag #urbanwales ar Instagram
Dilynwch / ymunwch ag #urbanwales ar Flickr
Archwiliwch wefan, podlediadau a chyfweliadau Ffoton Wales
Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol ‘The Eye’
The Littleman Coffee Co. / Caerdydd