Vision Now

Amrywiol

6 Ionawr, 2017 - 26 Ionawr, 2017

Date(s)
06 - 26/01/2017
Cyswllt
Amrywiol
Disgrifiad
vision1

Ffotograffiaeth FdA – Coleg Llandrillo

Unwaith eto mae Oriel Colwyn yn falch o gefnogi arddangosfa myfyrwyr cwrs Ffotograffiaeth FDA Coleg Llandrillo.

 vision1

vision2

Gallwch ddarllen eu cylchgrawn ar-lein18 Percent YMA 

 

Eleni rydym ni’n cyflwyno gwaith:

Dilys Thompson

Mae Dilys wedi meithrin diddordeb mewn ffotograffiaeth golau isel, gan weithio ym Manceinion ac ar Ynys Môn mae hi wedi creu darn o waith sy’n edrych ar y gwahaniaethau rhwng y ddau le, gan gipio goleuadau prysur y ddinas ac awyr serog lleoliadau gwledig anghysbell.

Nick Drabble

Mae Nick yn arbenigo mewn ffotograffiaeth ffasiwn a phortreadau. Gan roi sylw manwl i fanylion, dylunio, lliw a chywirdeb technegol, mae o’n cydweithio gyda steilwyr i greu delweddau sy’n canolbwyntio ar y dillad. Mae o’n arddangos rhywfaint o’i ffotograffau ffasiwn yn Oriel Colwyn, yn ogystal â chasgliad o waith arsylwadol a mwy hamddenol ar ffilm.

William Morgan

Eleni mae William wedi dangos diddordeb mawr mewn ffotograffiaeth bensaernïol. Un o’i brosiectau oedd tynnu lluniau rhai o westai gorau gogledd Cymru, gan ddefnyddio dull masnachol i greu delweddau arddull fasnachol. Mae William hefyd yn tynnu lluniau o’r bensaernïaeth sydd o’i gwmpas pan fydd o allan o gwmpas, gan gynhyrchu delweddau sy’n cyfuno strydoedd a cherflunwaith a phensaernïaeth, ac mae’r rhain hefyd i’w gweld yn yr arddangosfa hon.

Philip Jones

Mae Philip yn ffotograffydd sy’n saethu ystod eang o destunau a lleoliadau. Mae ganddo berthynas bersonol ag arfordir gogledd Cymru, ac mae hynny i’w weld yn amlwg yn ei waith. Ar gyfer yr arddangosfa hon mae gwaith Philip wedi canolbwyntio ar dirwedd wrth-gymdeithasol.

Chloe Merrison

Mae Chloe wedi meithrin a datblygu ymwybyddiaeth o ffotograffiaeth ac yn ymddiddori mewn gwaith hysbysebu a montage. Mae hi’n hoffi cyfuno amrywiaeth o genres, o ffotograffau modern i ffotograffau pwrpasol, i greu rhywbeth unigryw. Mae Chloe yn credu ei bod yn creu ei delweddau mor realistig â phosib’, gan arddangos darnau cywir a pherthynol o waith. Bydd yn arddangos rhywfaint o’i gwaith montage o’i chasgliad newydd yn Oriel Colwyn.

Stuart Philips

Mae Stuart yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth tirlun yn bennaf, gan gyfuno hynny gyda dinoethiadau hir i ddal symudiad y delweddau mae’n eu cymryd. Mae’r delweddau y mae wedi’u dewis ar gyfer yr arddangosfa hon yn rhai o dirweddau sydd wedi’u haddasu gan law dyn.

Joan Mallen

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar gwrs Ffotograffiaeth FdA mae Joan wedi canolbwyntio ar ffotograffiaeth bywyd gwyllt, sydd yn bennaf wedi’u cymryd yn Sw Caer. Mae tynnu lluniau o fywyd gwyllt yn rhywbeth mae Joan yn ei fwynhau’n arw, ac yn ffordd iddi ymlacio.

Jessica Tebbitts

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Jessica wedi meithrin diddordeb mewn tynnu lluniau o nosweithiau allan. Mae hi’n defnyddio camerâu untro, gan dynnu lluniau o bobl mewn clybiau, rêfs a gwyliau.

Derek Crawford

Daw’r delweddau sydd wedi’u creu ar gyfer yr arddangosfa hon o brosiect parhaus sy’n archwilio cydadwaith golau’r haul ar adlewyrchiad a chysgod gosodiadau a dodrefn, gyda gweadau’r waliau gwyn a’r fframiau drysau mewn lleoliad domestig.

Georgia Stafford

Mae Georgia wedi canolbwyntio ei sgiliau ffotograffiaeth ar ddogfennu datblygiad y caban pren mae hi’n byw ynddo – y datblygiadau tu mewn a datblygiadau yn y dirwedd o’i gwmpas.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp