Browser does not support script.
Amrywiol
11 Tachwedd, 2014 - 18 Tachwedd, 2014
MAE RHYWUN YN EIN MEDDIANNU - POBL IFANC YN EU HARDDEGAU!
Os ddewch chi draw i Oriel Colwyn fin nos ddydd Mawrth 11 Tachwedd, fe gewch eich synnu. Fe welwch bobl ifanc yn eu harddegau yn cyflawni swyddi a derbyn rolau’r oedolion.
Mae aelodau Clwb Ieuenctid Bae Colwyn wedi bod wrthi’n brysur yn paratoi eu gwaith ffotograffiaeth dan arweiniad yr artist gweledol ac arweinydd ieuenctid Alan Whitfield a byddant yn curadu eu sioe eu hunain yn yr oriel. Arddangoswyd gwaith Alan INDUSTRIAL FATE yn Oriel Colwyn ym mis Mehefin ac rydym yn falch o’i groesawu yn ôl ar gyfer ein prosiect Meddiannu’r Amgueddfa.
13 Tachwedd yw Diwrnod Meddiannu’r Amgueddfa yma yng Nghymru. Diwrnod lle mae plant a phobl ifanc yn cymryd drosodd yn yr amgueddfeydd ledled y wlad. Mae elusen annibynnol Kids in Museums yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru i helpu i roi plant a phobl ifanc yng nghalon amgueddfeydd.
I gyd-fynd â diwrnod Meddiannu’r Amgueddfa, mae’r Clwb Ieuenctid, rhan o Wasanaeth Ieuenctid Conwy, yn derbyn rheolaeth lawn o’r oriel ar gyfer eu harddangosfa. Byddant yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain yn seiliedig ar gynnwys eu sioe a’i guradu ynghyd â gosod y gwaith. Fe fydd modd gweld yr arddangosfa am wythnos, gan ddod i ben ddydd Mawrth 18 Tachwedd pan fydd y bobl ifanc yna’n helpu i dynnu’r arddangosfa.
Yn Oriel Colwyn, rydym yn angerddol dros gynnwys plant a phobl ifanc yn eu harddegau. Dyma ein hail gydweithrediad gyda Gwasanaethau Ieuenctid Conwy ac rydym yn falch o allu cynnig y bartneriaeth hon eto. Yma yn Oriel Colwyn rydym hefyd yn cynnal BLWCH GOLAU, gweithdy ffotograffiaeth misol yn RHAD AC AM DDIM ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 16 oed.
Felly, dewch draw ddydd Mawrth 11 Tachwedd, neu galwch heibio yn ystod yr wythnos arddangos i ddarganfod sut yr ydym yn rhoi pobl ifanc yng nghanol yr hyn yr ydym yn ei wneud.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.