Browser does not support script.
Dan Wood
16 Mehefin, 2016 - 20 Awst, 2016
Mae ‘Beth yw Cymreictod? / What is Welsh?’ yn gofnod cyffredinol o Gymru a’r Gymraeg. Mae’n astudio amrywiaeth, isddiwylliant, unigoliaeth, cenedlaethau a gwladgarwch ac yn chwalu’r ystrydebau Cymraeg nodweddiadol a diflas.
Prif nod prosiect Dan oedd sefydlu hunaniaeth ddiwylliannol y Cymry a datgelu gwir hanfod Cymru sy’n cuddio dan yr wyneb.
Tynnwyd y gwaith dros gyfnod o 10 mis yn 2011/12 pan oedd Dan ar daith o amgylch Cymru am bythefnos. Fe’i tynnwyd gyda Leica M6 a M7 ar stoc ffilm du a gwyn a gafodd ei ddatblygu mewn ystafell dywyll yn ei gartref.
Mae enw’r prosiect yn tarddu o daith Dan i Moroco yn 2008. Gofynnodd bachgen ifanc iddynt o ble’r oedden nhw’n dod, ac atebodd y sawl oedd gydag ef “Rydyn ni’n Gymry”. A holodd y bachgen “Beth ydi Cymry?”
Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chafodd ei ddangos yn ei ffurf wreiddiol yn y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon (Aberdâr) a Pharc Treftadaeth y Rhondda.
Mae Dan wedi parhau i ychwanegu at ‘Beth yw Cymreictod? What is Welsh?’ ac rydym yn falch o allu dangos ffurf newydd o’r arddangosfa gyda rhannau ychwanegol a lluniau newydd.
Ewch i wefan Dan yn www.danwoodphoto.com
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.