Browser does not support script.
Si Barber
26 Hydref, 2012 - 26 Rhagfyr, 2012
26/10/2012 00:00:00
Dangosodd methiant cyfalafiaeth y farchnad rydd yn 2007 bod gwactod yng nghalon cymdeithas Prydain. Fel y datgeliad mawr yn y Wizard of Oz, pan dynnwyd y llen nid oedd unrhyw hud na dirgelwch.
Mae’r cysyniad bod dynoliaeth yn wasaidd i’r farchnad yn gysyniad mor fawr a hollgynhwysol mae’n ymddangos fel rhan o drefn natur. Mae’n dylanwadu ar bob agwedd o’n bywydau ac yn cyfryngu ein perthnasoedd gyda’n gilydd a chymdeithas yn ei chyfanrwydd. Mae’r ormes sy’n ganolog i’r athroniaeth yn anweledig hyd yn hyn ac felly yn mynd heb ei herio gan amlaf.
Mae’r cyhoedd sydd wedi’u cyfareddu gan y moethusrwydd a geir drwy fyd hollgynhwysol yn sylwi’n unig ar lygedyn o olau yn fflachio neu furmur ysgafn o dan eu soffa a wnaed yn Tsiena wrth i naratif economaidd pedwar can mlwydd oed ddymchwel, gan gipio nifer o’r mythau a oedd wedi dal y system at ei gilydd gyhyd.
Ond yn sownd o dan symudiad seismig yr ideolegau yn dymchwel mae pobl sy’n parhau i geisio canfod eu ffordd drwy’r llanast. Nid y rhai sy’n symud neu’n herio; ond y rhai sy’n goroesi grym y grymus; y gweithwyr siop sy’n cael eu gorfodi i ddawnsio ar gyfer eu cyflogwyr bob bore, yr osgowyr a’r milwyr, y lwcus a’r colledwyr.
Yr unigolion anhysbys sy’n destun system sy’n aflunio ac anffurfio canfyddiad a dealltwriaeth, heb wybod llawer am y darlun mawr heblaw y byddant yn ysgwyddo’r baich.
Y Gymdeithas Fawr - Si Barber
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.