Browser does not support script.
Northern Eye Photography Festival 2019
12 Hydref, 2019 - 13 Hydref, 2019
12/10/2019 00:00:00
Ganwyd Olivia Arthur yn Llundain ac fe’i magwyd yn y DU. Enillodd radd mewn mathemateg o Brifysgol Rhydychen yn 2002 a diploma mewn newyddiaduraeth ffotograffig o Goleg Printio Llundain yn 2003.
Ymunodd a’r Asiantaeth Magnum Photos enwog yn 2008 fel enwebai a daeth yn gydymaith yn 2011.
Dechreuodd Olivia ei gyrfa fel ffotograffydd yn 2002 ar ôl symud i Dehli a bu’n byw yn India am ddwy flynedd a hanner. Yn 2006 aeth i’r Eidal i weithio am flwyddyn gyda Fabrica, pan ddechreuodd greu cyfres am ferched a’r gwahaniaethau diwylliannol rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin . Mae’r gwaith hwn wedi mynd â hi i’r ffin rhwng Ewrop ac Asia i Iran a Saudi Arabia.
Yn 2010 sefydlodd Fishbar ar y cyd â Philipp Ebeling, sef lle ar gyfer ffotograffiaeth yn Llundain. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Jeddah Diary, am ferched ifanc yn Saudi Arabia, yn 2012.
Mae Olivia yn mynd yn ôl i India yn aml, ac yn dal i weithio yn Llundain.
www.oliviaarthur.com
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.