Charlie ‘Smokey’ Phillips yw arwr di-glod ffotograffiaeth drefol ac un ffotograffwyr pwysicaf Prydain, er nad yw wedi cael y sylw haeddiannol yn hanesyddol.
Cafodd ei ffotograffau o Muhammad Ali a Jimi Hendrix eu gwerthu ym mhedwar ban byd. Roedd Cartier-Bresson yn ffan, tra bo Fellini’n ei hoffi gymaint fe’i rhoddodd mewn ffilm. Ond eto yn y DU, anwybyddwyd gwaith Phillips am ddegawdau.
Wedi’i eni yn Jamaica a’i fagu yn y ghetto a oedd Notting Hill ym mhumdegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf, mae Charlie’n gymeriad chwedlonol yn ei hen gynefin, gŵr sy’n adnabyddus am ei hiwmor a’i gynhesrwydd, ei steil a'i farn.
Gadawodd Charlie Jamaica yn 11 oed gan groesi’r moroedd ar bacedlong i ymuno â’i rieni - aelodau o genhedlaeth Windrush, yn Llundain.
Fel llawer o fewnfudwyr cenhedlaeth Windrush, wnaeth ei deulu ddim dod i Brydain am eu bod nhw’n dlawd ond am eu bod nhw wedi cael gwahoddiad. Yn Jamaica roedd ei rieni’n rhedeg busnes yn gwneud swfenîrs i dwristiaid ac yn cyflogi 6 o bobl. Meddai Charlie “Galwodd y famwlad, felly fe atebom. Ond doedd ‘na neb yma’n aros i’n croesawu ni; roedd yn rhaid i ni ymorol amdanon ni’n hunain.”
Doedd Charlie erioed wedi bwriadu bod yn ffotograffydd. Ei freuddwyd pan yn blentyn oedd bod yn ganwr opera, neu’r bensaer morol, ond ‘doedd hyn ddim yn cael ei ystyried yn realistig. “Fe wnaethon nhw chwerthin arna’i yn yr ysgol. Dywedodd y swyddog cyflogaeth ieuenctid: ‘Pam na ei di am swydd efo London Transport? Mi fyddai hynny'n waith mwy sicr. Neu ymuno efo’r RAF, neu fynd am swydd efo swyddfa'r post.'
Ond yna daeth camera i’w law.
Yn ystod y 1950au, byddai milwyr Affricanaidd Americanaidd yn gwasanaethu yn y DU yn chwilio am bartis tanddaearol yn neuaddau dawns anghyfreithlon a llefydd yfed di-drwydded gorllewin Llundain.Byddent yn cyrraedd gyda finyl rhythm a blues a phob math o bethau difyr, yn chwilio am amser da. Drwy un o’r milwyr hyn y cafodd Charlie ei gamera cyntaf. ‘Doedd gan y milwr ddim arian i dalu am dacsi yn ôl i’w orsaf ar ôl noson allan gofiadwy, felly gadawodd y Kodak Brownie efo tad Charlie yn gyfnewid am arian ar gyfer y daith. Ni ddaeth y milwr hwnnw yn ôl i hawlio ei gamera a dyna felly ddechrau ar siwrnai ffotograffiaeth Charlie.
Neidiodd yn syth i mewn, prynodd lawlyfr ffotograffiaeth a dysgodd ei hun sut i wneud printiau. Cyn bo hir roedd wedi dechrau casgliad trylwyr, manwl o waith yn canolbwyntio’n bennaf ar ei gymuned leol ac yn dogfennu goblygiadau cymdeithasol y dylifiad mewnfudwyr, bywyd ar y stryd, cerddorion lleol, angladdau Affricanaidd-Caribïaidd a mudiadau zeitgeist y cyfnod.
Roedd hwn yn gyfnod pan oedd ymosodiadau hiliol ar y gymuned Affricanaidd-Caribïaidd yn digwydd yn rheolaidd; yn 1958 digwyddodd ‘terfysgoedd hiliol’ Notting Hill. Mae delweddau Phillips yn dangos hysbysebion mewn llawysgrifen blêr am ystafelloedd i'w gosod sy'n datgan yn foel 'No Coloured' a graffiti ar waliau yn dweud “Keep Britain White”. Ond mae ei waith o hefyd yn dangos Llundeinwyr du a gwyn yn cymdeithasu, yn chwerthin, yn yfed, yn cusanu. Daeth un o’i ffotograffau mwyaf adnabyddus, a elwir yn Notting Hill Couple, i symboleiddio'r ysbryd hwnnw. Wedi’i dynnu mewn parti yn 1967 mae'r llun yn dangos dyn du ifanc gyda'i fraich o amgylch merch ifanc wyn. Mae’r ddau’n syllu i mewn i’r camera gyda golwg y gellid ei ddehongli fel gobeithiol, diniwed neu hyd yn oed efallai herfeiddiol ar eu hwynebau.
Mae ffotograffau Charlie wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau megis Stern, Harpers Bazaar, Life a Vogue.Mae ei waith wedi’i arddangos mewn orielau ar draws y byd yn cynnwys Oriel Tate Prydain, yr Oriel Portreadau Genedlaethol ac Amgueddfa Dinas Efrog Newydd.
www.charliephillipsarchive.com




